Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TE DEVM Deunydd *r sufcr addoliad ^rŵp (bocí> vjh synulleidfa fcch^n, \\v\ srŵp defosiwn r\cu'r\ syfarfod sweddi.) ADDEWID YR ADFENT Caner yn dawel a gweddïgar, Tyrd atom ni, O! Grëwr pob goleuni, (Y Caniedydd 808, Yr Atodiad 872). Yn ystod y pennill olaf yr arweinydd, neu aelod arall o'r grwp, i oleuo cannwyll adfent fel arwydd o ddyfodiad y goleuni ac i fod yn ffocws i'r addoliad. Arweinydd: Tyrd atom ni, O! Grëwr pob goleuni: Pawb: Tyrd atom i'n goleuo â disgleirdeb goleuni Duw. Arweinydd: Datguddir gogoniant yr Arglwydd: Pawb: A bydd holl blant dynion ynghyd yn ei weld. Arweinydd: Dyma'r awr i ddeffro o gwsg: Pawb: Erbyn hyn mae ein gwaredigaeth yn agos atom. Arweinydd: Wele, y mae'n dyfod gyda'r cymylau: Pawb: A bydd pob llygad yn ei weld. Arweinydd: Tyrd atom ni, Arglwydd lesu, i ddangos i ni y Tad: Pawb: Tyrd, i'n harwain ato ef. Distawrwydd: Yn y distawrwydd cofiwn fod y Crist a ddaeth i'n byd mewn cnawd, yn bresennol yn ein mysg ninnau trwy ei Ysbryd Glân Gofynnwn iddo ddod atom a'n gwneud yn ymwybodol o'i agosrwydd (distawrwydd) Arweinydd: Arglwydd lesu, tyrd atom yn awr i'n nerthu yn ein ffydd, i ddeffro fflam ein gobaith, i ddangos inni wyneb y Tad i anadlu ynom dy fywyd, ac i'n codi i lawenydd dy deyrnas lle'r wyt ti'n teyrnasu, gyda'r Tad a'r Ysbryd Glân, yn un Duw yn oes oesoedd. AMEN. Caner eto: Pennill cyntaf, Tyrd atom ni, O! Grëwr pob goleuni Darllen: Neges y Proffwyd Eseia i'r genedl yn ystod ei chaethiwed ym Mabilon oedd fod Duw yn addo eu gwaredu. Y mae'r negesydd yn cyhoeddi ar y mynyddoedd fod Duw yn teyrnasu a'i fod yn dwyn iachawdwriaeth a heddwch i'w bobl. Yn fwy na dim, byddant yn gweld yr Arglwydd yn dychwelyd i Seion. I Gristnogion, y mae addewid Eseia yn rhagfynegiad o ddyfodiad Duw i'n byd yn lesu Grist. Eseia 52:7-10 Y mae paratoi ein meddyliau a'n calonnau yn ystod tymor yr Adfent i ddathlu dyfodiad yr Arglwydd lesu, yn ein hatgoffa o'r pwysigrwydd o fod yn barod bob amser ar gyfer ei ddyfodiad atom. Wrth ysgrifennu at y Thesaloniaid y mae Paul yn pwysleisio'r pwysigrwydd o fod yn effro ac yn barod ar gyfer ei ailddyfodiad ar y dydd olaf. 1 Thesaloniaid 5:1-11. Emyn: Y mae in Waredwr (Grym Mawl 155). Arweinydd: Gweddïwn. Arglwydd lesu, dathlwn dy ddyfodiad di mewn moliant a llawenydd. Fel y daethost gynt i ddwyn gwaredigaeth i'n byd ymbiliwn arnat ddod atom ninnau yn ein hangen. Tyrd i fywyd dy eglwys ac i blith dy bobl, yn enwedig i'th eglwys yn y IIe hwn (distawrwydd) Tyrd i'n hysbrydoli yn ein tystiolaeth: Pawb: Tyrd, Arglwydd lesu. Arweinydd: Tyrd i ganol ein byd, yn enwedig y mannau hynny sydd yng ngafael rhyfel a gormes (distawrwydd) Tyrd i dywys dy blant i Iwybrau cymod Pawb: Tyrd, Arglwydd lesu. Arweinydd: Tyrd y rhai sydd mewn afiechyd a phoen, yn enwedig y rhai y gwyddom ni amdanynt (distawrwydd) Tyrd i'n nerthu a'u hadfer: Pawb: Tyrd, Arglwydd lesu. Arweinydd: Tyrd yn agos at yr unig a'r hiraethus, yn enwedig y rhai sydd yn ddiweddar wedi colli rhywun annwyl (distawrwydd) Tyrd i leddfu eu galar a'th gwmni: Pawb: Tyrd, Arglwydd lesu. Arweinydd: Tyrd, O Grist, i'n calonnau ninnau: rhyddha ni o afael pob methiant a siom; a rho i ni frwdfrydedd a llwyddiant yn dy waith: Pawb: Tyrd, Arglwydd lesu. Canu: I Dad y trugareddau i gyd (Atodiad 897). Arweinydd: Goleuni a gras ein Harglwydd lesu a fo gyda ni oll. Amen. E. ap Nefydd Roberts