Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AGENDA Y Swper Olaf Sylwadau Huw Efhall ar achlysur pumcanmlwydldlianf paentio darlun enwog Leonardo da VincL Safai dau Sais o flaen campwaith Leonardo da Vinci a meddai un wrth y llall: don't know what they're doing but they seem to be having some kind of meal." Adroddir y stori hon mewn cyfrol newydd The Oxford Companion to Christian Art and Architec- ture gan Peter a Linda Murray. Gallwn grwydro mor bell oddi wrth y Ffydd fel na ddeallwn rai o gampweithiau arlunwyr mwyaf y byd. A yw'n dal yn wir am 'Y Swper Olaf'tybed? Mae eleni yn bwysig yn hanes y darlun oherwydd cwblhawyd y gorchestwaith yn y flwyddyn 1497, pum can mlynedd yn union yn ôl. Dechreuwyd ar y gwaith ddwy flynedd ynghynt yn 1495 pan oedd Leonardo yn 43 oed. Y cynfas annisgwyl a ddewisodd oedd mur ffreutur mynachlog Santa Maria delle Grazie ym Milan. Gwneud yr annisgwyl yw un o briodolaethau pob athrylith. Y cymhelliad i'w arlunio, wrth gwrs, oedd ymateb i'r geiriau: "Ac fel yr oeddent wrth y bwrdd yn bwyta, dywedodd lesu, 'Yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd i un ohonoch fy mradychu i, un sy'n bwyta gyda mi.' Dechreusant dristáu a dweud wrtho y naill ar ôl y llall, 'Nid myfi?'" (Marc 14, 18, 19). Cafodd pregethwyr ar hyd y blynyddoedd bregeth yn yr adnodau hyn ond darlun a welodd Leonardo da Vinci ac a ddaeth yn un o ddarluniau enwocaf y byd. Ac y mae'r darlun yntau'n pregethu. Dywedir i'r arlunydd roi ei holl enaid yn ogystal â'i holl ddychymyg a'i fedr ynddo a gweithio bob dydd arno o godiad hyd fachlud haul ar wahôn i ambell seibiant o dro i dro tri neu bedwar diwrnod i syllu mewn myfyrdod disgybledig ar y darlun cyn penderfynu ar y camau ymlaen. Gymaint oedd ei ymgyflwyniad i'r gwaith fel yr anghofiai bopeth am brydau bwyd. Dywedir, gyda llaw, mai felly y bu Handel wrth gyfansoddi y Messiah. Mae pob campwaith yn costio'n ddrud. Diddorol yw darllen geiriau Kyffin Williams yn ei ragair i'w gyfrol Iwyddiannus Portraits: "Bu pob darlun gen i yn straen fawr arnaf oherwydd ni ddaw dim yn hawdd i mi." Dyna brofiad pob athrylith gwerth yr enw. Gwestai Gwadd: Huw Ethall I ni Gristnogion mae 'Y Swper Olaf'yn fwy na darlun i'w werthfawrogi yn unig. Heb wybod ei gefndir fel y ddau Sais darlun o gyffro a chynnwrf ymhlith criw o ddynion ydyw ac Un yn unig sy'n aros yn ddigyffro a thawel. Mae'n amlwg i Leonardo gymryd yn ganiataol fod y rhai a fyddai'n syllu ar y darlun yn gwybod y stori. Tybed a ddaeth yn amser i ddyfynnu'r adnodau o dan y darlun ar gyfer ein hoes seciwlar ni i'r gwylwyr ei ddeall? Tasg enfawr Leonardo oedd darlunio'r adweithiau gwahanol ar wynebau'r disgyblion i'r cyhuddiad ffrwydrol bydd i un ohonoch fy mradychu i .a'r naill a'r llall ohonynt yn gofyn "Nid myfi?"A pha wyneb yn wir a roisai i Jwdas, y darpar fradychwr ei hun? Pa dristwch a geid ar wyneb lesu? A ddylasid cael deigryn yn y lIygaid? A ddylasid hyn ac a ddylasid arall? Ceir yr holl atebion wrth syllu'n ddefosiynol ar y darlun ei hun. Ni sylweddolodd Jwdas y buasai ei frad erchyll yn cynhyrchu campwaith o ddarlun y drwg unwaith eto yn esgor ar y da, yr hyll yn esgor ar yr hardd. Wrth syllu ar ambell ddarlun mewn oriel, anaml onid byth y gwelwn adlewyrchiad ohonom ein hunain ynddo ond po fwyaf y syllwn ar 'Y Swper Olaf'siawns na welwn ein hunain ynddo hefyd. Dengys 'Y Swper Olaf' nad trwy eiriau yn unig y mae pregethu.