Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Astudiaetíi Feiblaidd Dyfed Wlyn Roberts I gloi y gyfres edrychwn or ddwy ddawn arall. Cychwynwn gyda'r ddawn o eiriol neu weddio. Dyma ddawn arall oedd yn ganolog i fywyd yr eglwysi cynnar. Gwaetha'r modd, aeth gweld eglwys yn neilltuo amser penodol yn gyson er mwyn gweddio yn rhywbeth prin heddiw. Tybed nad ydyw hyn yn rhannol gyfrifol am dlodi ein crefydd yng Nghymru ? ALLWEDDOL Gwelwn fod gweddi yn allweddol i fywyd yr eglwys fore. A gweddiau o eiriolaeth yn neilltuol bwysig, IIe roedd pobl yn gweddio dros ei gilydd a thros eu heglwysi. Cyfeiria Paul yn ei lythyr at y Colosiaid at Epaffras "Y mae ef bob amser yn gweddio'n daer drosoch chwi ar ichi sefyll yn gadarn, ac yn gwbl argyhoeddedig ym mhob dim y mae Duw yn ei ewyllysio." J v*< Meddai Paul wrth Timotheus yn ei Iythyr cyntaf ato, "Y mae'n ddymudiad gennyf fod y gwyr ym mhob cynulleidfa yn gweddio Yr wyf yn annog bod ymbiliau, gweddiau, deisyfiadau a diolchiadau yn cael eu hoffrymu dros bob dyn." Meddai Dr Tudur Jones yn ei gyfrol Yr Ysbryd Glôn, "Yr ydym wedi talu'n ddrud yn ein heglwysi am esgeuluso'r rhybuddion hyn." Nid rhywbeth ymylol, nid rhywbeth ar y cyrion ydi gweddi I fod ym mywyd eglwys, ond rhywbeth anhepgorol. Fe ddengys Paul inni mewn sawl man cymaint yr oedd yn olygu iddo ef yn bersonol fod eraill yn gweddio drosto. "Bellach frodyr, gweddiwch drosom ni, ar i air yr Arglwydd fynd rhagddo." (2 Thes 3:1.) "Fe'n gwared eto, os ymunwch chwithau i'n cynorthwyo a'ch gweddi." (2 Cor 1:10-11.) Os oedd gweddi'n bwysig i'r eglwys fore, pam ddim heddiw ? A yw'r ffaith ein bod ni'n fwy soffistigedig heddiw wedi gwneud i ffwrdd a'r angen ? Prin, ynte. Dewch inni ail ddarganfod y ddawn hon yn ein heglwysi, oherwydd tybiaf ei bod yn ganolog os ydynt am gael eu hadeiladu. PREGETHU I gloi y gyfres, edrychwn ar y ddawn o bregethu. Mae gennyf gydymdeimlad mawr efo pob un sydd am foderneiddio ein heglwysi a'u haddasu ar gyfer y sialens sydd yn ein wynebu. Ond am y bobl hynny sy'n credu y dylid hepgor pregethu fel rhan o'r modereiddio hwnnw, ni allaf ond anghytuno â hwy. Oes mae'n rhaid i'n pregethu fod yn gyfoes a pherthnasol. Ond ni chredaf fod cyfiawnhad dros ei adael allan yn llwyr. Fel y dywedodd y diweddar Barchedig Lewis Val- entine yn 1962, "Ni all dim byd, ac ni ddylai dim byd ddisodli pregethu'r Gair, dyma ddull a dyma ddeunydd ein haddoliad." Trwy bregethu yr oedd Philip yn gwneud llawer o'i efengylu. Trwy bregethu yr oedd Barnabas yn gwneud llawer o'i annog. Hyd y gwelaf, mae pregethu wedi bod yn allweddol i adeiladu'r eglwys ar hyd y canrifoedd. Beth yw cynnwys pregethu'r Testament Newydd ? Pregethu'r Deyrnas a wnai lesu. "Y mae'r amser wedi ei gyflawni ac y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos." Ond wedi dyfodiad yr Ysbryd Glân mae'r pwyslais yn newid ym mhregethu'r apostolion. lesu yw bydrwn y neges wedyn ei Groes, ei Atgyfodiad, ei Esgyniad. "This is the heart of Christian preaching," medda'r Ap- plied Bible Dictionary. "Ni ddeuthum fel un yn rhagori mewn huodledd neu ddoethineb, wrth gyhoeddi i chwi ddirgelwch Duw. Oherwydd dewisiais beidio â gwybod dim yn eich plith ond lesu Grist, ac yntau wedi ei groeshoelio." (1 Cor 2:1-2.) Ac mewn ymateb i'r pregethu hwn, ac i'r ddawn hon, y gwelwyd twf yr eglwys fore. Daliwn ein gafael yn ein pregethu, oherwydd dyma ffordd Duw o drosglwyddo ei efengyl i fyd colledig ac o ddysgu ac adeiladu'r saint. Adeiladu'r Eglwys. Mae gwaith adeiladu heddiw, onid oes. Fe gymer amser, fe gymer amynedd, fe gymer ddycnwch, ond yn fwy na dim fe gymer ddoniau pob un ohonom. Dewch i ni ddarganfod eu pwysigrwydd o'r newydd a dewch inni eu defnyddio, a hynny er adeiladaeth ein heglwysi ac er clod i Dduw.