Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Beth yw cyfraniad crefydd i'r trais a welir yn ein byd ni heddiw? Y mae'r meddwl seciwlar yn gyflym iawn i weld crefydd wrth wraidd gwrthdaro rhwng gwahanol grefyddau a rhwng gwahanol sectau o fewn y crefyddau. A phan ystyriwn y sefyllfa rhwng Cristnogion Uniongred Serbia, Catholigion Rhufeinig Croatia a Moslemiaid Bosnia, mae'n anodd osgoi'r casgliad fod clymu hunaniaeth genedlaethol wrth grefydd yn creu cawl eithriadol o beryglus. 'Dydi crefydd ddim uwchlaw defnyddlo cenedlaetholdeb i'w hamcan ei hun, ac yn sicr 'dydl cenedlaetholdeb ddim uwchlaw trot dwr teimladrwydd crefyddol i felin gwleidyddlaeth a grym bydol. Pan fo hanes hir o ryfel a chasineb yn sail i'r tyndra diwylliannol yna mae'r bomiau yn barod i ffrwydro. Bydd Cristnogion yn hynod o awyddus i wrthod y cyfrifoldeb pan fod Cristnogaeth yn rhan o'r brwes. Er bod y ddwy gymuned Brotestannaidd a Phabyddol wrth yddfau ei gilydd yng Ngogledd Iwerddon, fe glywn o dro i dro Gristnogion da yn gwadu'n llwyr fod a wnelo crefydd ddim oll â'r trais. Ar genedlaetholdeb y mae'r bai. Rhaid gwrando'n ofalus felly panfo Cristion o Ogledd Iwerddon sy'n byw ynghanol y casineb yn gwneud dadansoddiad gofalus o gyfraniad sectariaeth i'r trais yn y wlad honno. Daeth cynulleidfa o liaws o wledydd ynghyd yn nghynhadledd fawr y Cyngor dros Genhadu Byd-eang ac Efengylu yn Salvador ym Mrasil ddiwedd 1996. Enillwyd sylw mawr gan gyflwyniad gan weinidog o Fethodist ym Melfast ar ôl 'Sectariaeth a Thrais'. Y mae'r Parchedig Gary Mason yn gwasanaethu mewn eglwys sydd ar y ffin rhwng y gymdeithas Babyddol a'r un Brotestannaidd. Mae'r cerrig sy'n cael eu taflu ato ef yn gerrig Pabyddol a Phrotestannaidd. Wrth gyftwyno'i hun mae'n dweud yr hanes am dri chrwt fyddai'n chwarae peldroed gyda'i gilydd slawer dydd. Erbyn hyn mae un wedi ei ladd gan fwled, mae'r ail yng ngharchar, a'r trydydd yw ef ei hun, am ei fod, trwy ryw ryfedd ddihangfa, wedi osgoi cael ei rwydo gan y byddinoedd enwadol pan yn llanc. URDDAU OREN Y mae'r urddau Oren yn rhan o'i draddodiad teuluol a diwylliant y gorymdeithio i'r pibau a'r drwm yn gynnes yn ei galon. Y mae ei brofiad ym Melfast, ei brofiad fel Cristion efengylaidd, a'i feddwl fel diwinydd yn ei yrru i ddadansoddiad treiddgar a dwys iawn o'r ffordd y mae crefydd wedi bwydo'r trais. Yn ôl ei ddadansoddiad ef mae tair athrawiaeth wedi cyd-daro yn amgylchiadau arbennig Gogledd Iwerddon. Crefydd Y gyntaf yw athrawiaeth Un Gwir Eglwys. Dyma'r athrawiaeth sy'n dweud os nad ydych chi'n perthyn i'n heglwys ni, yna mae eich gobaith am fod yn gadwedig, o fynd i'r nefoedd, yn fach iawn. Yn wir 'does gennych chi ddim hawl i a¦wch hun yn Gristion. I Babyddion yr oedd y Protestaniaid yn erlidwyr, yn wadwyr, yn danseilwyr yr un wir ffydd a'r un wir eglwys. Felly hefyd ystyrid y Pabyddion gan y Protestaniaid yn goelgrefyddwyr, yn lluoedd y Pab ac y tu allan i'r Wir Ffydd Efengylaidd, Brotestanaidd. Ochr yn ochr ô'r grêd hon yr oedd yr athrawiaeth sy'n mynd yn ôl at Awstin Sant (hwnnw o Hippo, nid o Gaergaint ) sef nad oes gan gamgredinwyr unrhyw hawliau. Error has no rights. Os yw'r person acw yn camgredu ac yn perthyn i eglwys nad yw'n Wir Eglwys, yna dyletswydd y gwir gredinwyr yw ei orfodi mewn i'r Un Wir Eglwys. Mae hanes hir i'r athrawiaeth hon o amser Awstin i'n dyddiau ni. Fe'i harddelwyd yn eu tro gan yr Uniongred, y Pabyddion, y Calfiniaid, yr Anglicaniaid, y Lutheriaid a sectau o bob math pob eglwys, yn wir, a gafodd afael ar ddigon o awdurdod bydol i fedru tra-arglwyddiaethu. Digwyddodd hynny yn Ne a Gogledd Iwerddon. RHAGLUNIAETH Y drydedd athrawiaeth beryglus yw athrawiaeth Rhagluniaeth. Os yw Duw yn ei drugaredd yn gofalu am ei blant, yna mae'n rhaid ei fod e' ar ein hochr ni. Cam bychan o'r argyhoeddiad hwnnw sydd i gredu ei fod gyda ni yn ein casineb at bobl eraill sydd ddim yn perthyn i'n Gwir Eglwys ni. Pan fo'r tair athrawiaeth yn dod ynghyd, fel y mae 'nhw, yng Ngogledd Iwerddon, yna peth bach yw i'r gyfundrefn wleidyddol fedru godro'r argyhoeddiadau a'r teimladau dwys hyn a berwi trosodd mewn trais. Yn wir mae gwrthod ymuno yn y trais yn frad. Y mae'r dadansoddiad yn un hynod o dreiddgar ac mae'r rhybudd yn un pwysig mewn sefyllfaoedd eraill. Mae'n wir nad oes yng Nghymru fawr egni crefyddol at y math yma o gasáu. Ond y mae anhawster yr eglwysi i symud yn agosach at ei gilydd yn awgrymu fod yna ddrwg go ddwys yn y caws; ac y mae'r drwg- deimlad tuag at, ac oddiwrth, rhai efengylwyr yn sawru o'r un math o argyhoeddiad. Mae dadansoddiad Gary Mason o'r athrawiaethau yn awgrymu bod nam hanfodol ynddynt i gyd. Yn y cyfarfod hwnnw yn Salvador fe holwyd Gary Mason yn daer am ei brofiadau a'i ddadansoddiad. Ac yna dyma wraig o ddwyrain Ewrop oedd yn perthyn i un o'r eglwysi Uniongred yn dweud shwd drueni oedd clywed fod crefydd yn rhan o'r trais yn Iwerddon oherwydd nid oedd hynny'n wir o gwbl yn Serbia a Bosnia a Chroatia! 'Doedd hi ddim wedi deall dim o bregeth y Methodist taer a dewr. Gweddiwch dros Gary Mason gwr sy'n cael ei ail- greu, gwr sydd yn y broses boenus o adael i'r Efengyl herio ddiwylliant, ei ddiwylliant crefyddol a hunaniaeth genedlaethol. Rhodded i ninnau yr un treiddgarwch wrth ystyried ein diwylliant crefyddol ein hunain.