Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Annwyl Olygydd, Y mae'n debyg fod yr Eglwys Babyddol yn ei defnydd o'r Saesneg wedi gadael Onward Chris- tian Soldiers allan o'i Ilyfr emynau diweddaraf am ei bod yn rhy filitaraidd ei delweddiaeth. Er bod y ddelweddiaeth honno yn y Testament Newydd, byddwn innau'n barod i gytuno â'r Pabyddion nad yw meddylfryd o'r fath yn gydweddol â'r awydd i wasanaethu Tywysog Tangnefedd. O ddweud hynny, y mae un emyn Cymraeg o leiaf, yn dod o dan yr un condemniad â'r emyn Saesneg tramgwyddus. bob un sydd ffyddlon, o waith Ap Hefin yw hwnnw, ac i wneud pethau'n waeth, fe'i cyfrifir yn addas i'w gloriannu gydag emynau plant, mewn un llyfr emynau o leiaf. Y mae'n debyg mai ar y dôn Rachie o waith Caradog Roberts y mae'r bai, ac fel Musical Nation, chwedl Eli Jenkins, ni allwn ymwrthod â'r emyn hwn. Nid ein hoffter o ganu yw unig nodwedd ein cenedl ychwaith. Nodwedd gynhenid arall, yn ôl Dr John Davies, yw ein 'cwrw-garwch', ac emyn dirwestol yw I bob un sydd ffyddlon, ac y mae'r rhagfarn yn erbyn dirwest yn aruthrol o gryf. Eto i gyd, delir i ganu'r emyn dirwestol arbennig hwn gydag afiaith anghyffredin. Ond sylwch! bron yn ddieithriad hepgoriryr ail bennill,fel petai'r gwirionedd a geir yn hwnnw'n amherthnasol i'r sefyllfa sydd ohoni bellach. Ysywaeth, nid felly y mae, ac yn hytrach nag ystyried y mudiad dirwestol fel crair o'r gorffennol, byddai'n fwy buddiol inni ystyried cynnwys yr ail bennill hwn ac ymysgwyd o'n difrawder moethus a ffasiynol. Rhag ofn na welodd rhai o ddarllenwyr Cristion erioed mohono, dyma'r pennill: Os canu'r emyn amheus hwn o gwbl, wel caner ef drwyddo, gan gynnwys yr ail bennill, o barch i Ap Hefin ac i'r mudiad dirwestol a wnaeth gymaint o ddaioni yn y gorffennol. Nantydderwen, Rhydaman 'Medd-dodfelGoliath Heria ddyn a Duw; Myrdd a myrdd garchara, gan mor feiddgar yw; Brodyr a chwiorydd sy'n ei gastell prudd: Rhai yw chwalu'i geyrydd, Rhaid cael pawb yn rhydd.' Yn gywir, Dewi Tomos Pam o Pam? Yn y Llyfr Emynau canwn: 'Rhagom filwyr lesu, Awn i'r gad yn hy' ond mae angen gwasgiad i gael gwasanaeth.' Canwn y gytgan:'Dyma fy stori, dyma fy nghân' ond yn anaml yn yr eglwys i'w chlywed. Canwn: 'F'aur ar da sydd im' ond yn rhoi mân newid ar y plât. Canwn: 'O am dafodau fil ar gân' ond heb ddefnyddio'r un sydd gennym dros Grist. Canwn: 'Mae eisiau di bob awr' ond grwgnach am aros awr yn yr Eglwys. Canwn: 'O'r fath gyfaill ydyw'r lesu, Ffrind ymhob ystorom gref' trown ato yn unig ond pan mewn helbul. Canwn: 'O rho dy bwys ar freichiau'r lesu' ond byth yn sôn amdano tu allan i'r Eglwys. Canwn: 'Cod fy meddwl uwch gofidiau amser' ond yn aros yn y gwely tan hanner dydd ar y Sul. Pa fath grefydd yw hyn? yn ôl cyfieithiad Siôn Aled o emyn adnabyddus: 'Gwna ni yn lampau d'oleuni LIe byddo twllwch a thrais, Gwna ni'n gyhoeddwyr dy obaith Fel clywo'r bobloedd dy lais; Dysg inni ddeall o'r newydd Holl ystyr cariad at frawd; Dyro dy gariad i'n clymu, Dy gariad di.' Monica Dow