Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIWYGIAD 1904 ABEIRINIDAETH FEIBLAIDD Roedd y Parchedig David Wyre Lewis, gweinidog eglwysi Bedyddiedig Seion, Nefyn, a Chaersalem, Morfa Nefyn, rhwng 1900 ac 1910, yn byw mewn cyfnod cyffrous iawn yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Ysgubodd Diwygiad 1904-05 yn rymus drwy'r wlad, ac ar yr un pryd roedd beirniadaeth Feiblaidd yn ennill tir. Ymddengys y ddau fudiad hyn yn gwbl groes i'w gilydd, ond mewn erthygl yn dwyn y teitl, "Y Diwygiad Crefyddol a Beirniadaeth Feiblaidd", yn rhifyn Tachwedd 1905 o'r cylchgrawn misol, Y Greal, mae Wyre yn dadlau'n gryf dros berthynas agos y ddau yn llym. Ni ddywed pam iddo ysgrifennu ar y testun hwn, ond cawn yr argraff wrth ddarllen yr erthygl ei fod yn ddig tuag at yr eithafwyr hynny oedd yn gwrthod derbyn y tir cyffredin rhyngddynt, a'i fod felly am ddangos bod mwy yn gyffredin iddynt nac oedd yn eu gwahanu. "Dau fudiad yn ceisio cyrchu at yr un nôd ydyw y diwygiad crefyddol a beirniadaeth Feiblaidd", meddai. Y nôd dan sylw yw uniondeb, ac roedd y naill fudiad yn ymlwybro tuag ato drwy glymu sancteidrwydd wrth fywyd, tra bod y llall yn ymlwybro tuag ato drwy gydio'r meddwl wrth y gwirionedd. Felly, ni allentfod mewn gwrthdrawiad a gilydd. Yn wir, dylent fod o gymorth i'w gilydd. Dylai'r Diwygiad gynorthwyo'r beirniad i "gerdded llwybrau barn a chyfiawnder", a dylai beirniadaeth "gynorthwyo diwygiad i ddoethineb a sefydlogrwydd". Ni wel Wyre anhawster i ddyn orfoleddu mewn cyfarfod diwygiadol a hefyd derbyn tystiolaeth y beirniad Beiblaidd. Yr hyn sy'n drueni iddo yw gweld eithafwyr anghyfrifol y ddau fudiad yn dwyn anfri ar enw'r naill fudiad a'r llall. Gelynion i'r gwirionedd yw'r uwchfeirniaid hynny a wadant bob peth, heb ystyried dim ond eu damcaniaethau gwylltion eu hunain. Ac fe ddylid crogi mae'n melin am wddf y diwygwyr hynny oedd "wedi colli cymaint arnynt eu hunain, fel mai eu hunig syniad am ddiwygiad ydyw gwaeddi, anrhefn, a phangfeydd ymddangosiadol". TIR PERYGLUS Yn dilyn y rhagarweiniad trylwyr hwn, a Wyre yn ei flaen i edrych ar ei destun dan ddau ben: Perthynas y ddau fudiad a'i gilydd; a dyletswydd yr eglwys tuag atynt. Yn gyntaf, perthynas y ddau fudiad a gilydd. Mae Wyre yn ymwybodol iawn ei fod yn troedio ar dir pergylus oherwydd yn ôl y mwyafrif roedd y ddau fudiad hyn yn tynnu'n groes i'w gilydd. Edrychir arnynt, meddai, "fel y Japs a'r Rwisiaid yn ymladd am Port Arthur gwirionedd", ac nid "fel colofnau gwahanol i'r un fyddin, dan gyfarwyddyd yr un Pencadben". O dan y pen hwn, noda dri rheswm pam fod y ddau fudiad mor agos i'w gilydd. YR UN AWDURDOD Yn gyntaf, saif yr un awdurdod y tu cefn iddynt. Nid oes angen dangos bod grym yr Efengyl y tu cefn i'r Diwygiad. Ond, anos fyddai i ddynion ddweud yr un peth am feirniadaeth Feiblaidd. Yn ôl Wyre, "beirniaid Ilymaf yr oesau oedd lesu Grist ei hun". Yr oedd er e y wy r canol gan Peter Harries Davies beirniadaeth Feiblaidd yng ngolwg Wyre "yn hanfodol angenrheidiol". Nid oedd yn bosibl ei hepgor, er iddo wahaniaethu rhwng "beirniadaeth drefnus, ddoeth, a gwyddonol", ar y naill law, a beirniadaeth anrhefnus, annoeth, ac anwyddonol, ar y llaw arall. Try at yr Hen Destament, gan ddatgan na rydd y mwyaf ceidwadol hyd yn oed awdurdod cyfwerth i bob rhan ohono. Yn hytrach, priodolant werth amserol a chysgodol i rannau ohono, e.e yr aberthau a'r seremoniau. Yn wyneb hyn, dyletswydd beiriniadaeth Feiblaidd yw didoli'r amserol oddi wrth y tragwyddol. Gan aros ar y trywydd hwn, mae Wyre yn tynnu gwahaniaeth pellach rhwng meddwl yr Hen Destament a'r Newydd. Dywed mai meddwl cyfreithiol sydd yn yr Hen Destament, ac felly derbynnir ysbrydoliaeth y Ilythyren. Ond, "meddwl yn ymwneud ag egwyddorion" sydd yn y Testament Newydd, ac felly derbynnir ysbrydoliaeth yr egwyddorion. Oherwydd hyn, dylid caniatau ffordd rydd i feirniadaeth, gan gofio mai Crist Ei Hun oedd y "cyntaf. i ymarfer y ddyledswydd o feirniadu". Yn wir, "uwch-feirniad llym" oedd Crist yng ngolwg Wyre, "nid yn unig ar fywyd ei oes, ond hefyd ar yr Ysgrythurau". Yn Ei Bregeth ar y Mynydd, disodlodd yr hen orchymyn, "llygad am Iygad", a'r gorchymyn newydd, "cerwch eich gelynion". Er Iddo gyflawni'r Gyfraith, roedd Wyre o'r farn Iddo dorri llawer o ddeddfau'r hen gyfamod i ffwrdd yn union fel y tyr dyn ganghennau diffrwyth i ffwrdd. LLWYFAN HANES Yr ail reswm dros ddewud bod y ddau fudiad yn agos i'w gilydd yw eu bod yn cyd-symud ar Iwyfan hanes. Camgymeriad, meddai Wyre, yw meddwl fod beirniadaeth Feiblaidd yn fudiad diweddar yn hanes y byd oherwydd dilynir pob cyfnod o ddiwygiad crefyddol gan gyfnod o feirniadaeth. Yr unig amser pryd na welwyd diwygiad na beirniadaeth oedd yn ystod y cynfodau hynny pan oedd awdurdod gormesol mewn grym, e.e yn ystod teyrnasiad rhai o'r Pabau. Pan gafwyd rhyddid oddi wrth yr huolouLhyn, cafwyd rhyddid i ddiwygiad ac i feirniadaeth ffynnu. Dilynwyd gweinidogaeth yr lesu, a ddisgrifia Wyre fet "cyfnod