Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I ni sy'n etifeddion traddodiadau cymunedol y Gymru Gristnogol, mae llawer yn nadansoddiad Sacks a fydd yn gyfarwydd ac yn dwyn eu hapêl. Does dim amheuaeth ychwaith fod ailgreu cymdeithas a chymuned ar seiliau moesegol unol a gwâr yn angenrheidiol ar ein cyfer ni waeth beth fydd lliw y blaid sydd mewn grym. Nid mater o bragmatiaeth ddylai gwleidyddiaeth fod ond moddion i sicrhau'r foesoldeb gyhoeddus hon. Os digwydd hyn bydd modd i wleidyddiaeth hithau gynnig gobaith drachefn. Jonathan Sacks, The Politics of Hope, Jonathan Cape, 1997, tt279. £ 15.99. Wythnos Cymorth Cristnogol I wneud cyfraniad: Caerdydd: Blwch Post 21 CF4 2DL Bangor: 33 Ffordd y Coleg LL57 2AP Caerfyrddin: 1 2 Heol Dwr SA3 1 I PY Ffôn: 0 1222 614435 · · в в в APÊL Yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol eleni, byddwn yn: ohonom ein hunain wrth inni addoli Duw cariad, gan rannu ein hadnoddau gyda'r rhai sydd o dan faich tlodi agorthrwm a throsom ein hunain wrth inni geisio cyflawni ewyllys Duw. D.D.M. Rhoi Gweithredu gan gredu y gallwn ni wneud gwahaniaeth Gweddïo dros y rhai sy'n ymdrechu am ryddid i fyw, Cerddi. Duw Cyfamod Tydi, yr uchel Dduw a bery'r un o hyd, a Duw'r cyfamod hedd na syfl trwy oesoedd byd, o, cadw'n c'lonnau, sanctaidd Un, yn eiddo llwyr i Ti dy Hun. Pan fo gelynion lu yn llethu'rfron a braw, cofiwn mai trech wyt Ti a'th fod o hyd gerllaw. Dy nerth, er llawer siom a chraith, a'n cynnal ninnau yn dy waith. Yn swn pob chwalu trist a'r drygau sy'n ddi-ri'. boed ynom ysol sel yr Un 'fu ar Galfari, a thrwom dwg i henfyd gwyw obaith parhaus yr lesu byw. John Edward Williams CymorthCristnogol Credwn mewn byw cyn marw Elusen Gofrestredig Rh 258003