Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dod i nabod 0 o 'rf» fJl 1Tŵ_ Mi fydd Angharad Tomos yn gyfarwydd i ddarllenwyr Cristion fel awdures dalentog ac ymgyrchwraig ddi-flino dros wahanol achosion. Yma mae'n rhannu gyda darllenwyr Cristion yr hyn sy'n ei chyflyrru a'i chynhyrfu! BYWGRAFFYDDOL Beth yw eich enw llawn? Angharad Wyn Thomas sydd ar fy nhystysgrif geni ond fe'i talfyrais a'i Gymreigio pan o'n i'n 15 oed. Beth am eich gwreiddiau? Pan oeddwn yn flwydd, symudais o Benrhyndeudraeth i Lanwnda, a dyna lle bum yn byw am 35 o flynyddoedd. Mae fy nhad o Fangor a'm mam o Fethesda. Ers 2 flynedd mae gen i nghartre fy hun bellach 5 milltir lawr y lôn ym Mhenygroes. Yn IIe derbynioch eich addysg? Derbyniais fy addysg ffurfiol yn Ysgol Gynradd Bontnewydd, Ysgol Dyffryn Nantlle, Prifysgol Ban- gor a'r Coleg Normal. Derbyniais fy addysg anffurfiol yn rhengoedd Cymdeithas yr laith. DIDDORDEBAU Pa ddiddordebau hamdden sydd gennych? Unrhyw ffurf ar waith Ilaw arlunio a gwnio yn arbennig. Teithio yw'r prif ddiddordeb hamdden. Ers byw ar ben fy hun dwi'n ymlacio wrth goginio er na allwn ferwi wy tan yn ddiweddar! Tase fo'n fyd perffaith a dim angen ymgyrchu, dwi'n siwr y gallwn feithrin hoffter at arddio. Beth yw eich hoff raglen ar y radio a'r teledu? Mae Radio Cymru yn gyson yn y ty dwi'n gwrando ar bopeth. Dwi'n hoff o holi Beti George a Dei Tomos, Sulwyn a Jonsi. Yr unig raglen dwi'n ei dilyn yn gyson ar y teledu yw Eastenders. Beth yw eich syniad o wyliau delfrydol? Dod i adnabod gwledydd na wyddwn i ddim 011 amdanynt yng nghwmni rhywun difyr. Canfod fy hun ym Mhrâg, Brasil, Fenis neu Efrog Newydd a dod i wybod cymaint a fedraf am fy nghyd-deithiwr a'r bobl leol mewn llai na phythefnos. Rydw i ar fin teithio Dwyrain Ewrop ar drên am fis y syniad o antur sy'n apelio fwyaf. Oes yna rywun y buasech yn hoff o'i chyfarfod? Dwi'n cael y cyfle'n gyson i gyfarfod ymgyrchwyr eraill, a dyna sy'n rhoi'r wefr fwyaf i mi. Yn ddiweddar cefais y fraint o gael Jo Wilson ar fy aelwyd un o'r bedair merch barodd ddifrod i awyren Hawk o'r mudiad Swords into Plough- shares. Mae'r pedair ar fin cael gwobr heddwch Sean MacBride. Beth yw eich hoff gerddoriaeth? Noson o wrando ar Steve Eaves neu Bob Delyn yn perfformio yn fyw. Mae Dafydd Iwan wedi bod yn ysbrydoliaeth erioed. Mi fedrwn wrando ar lais David Lloyd am byth hefyd. Beth am eich hoff fwyd? Unrhyw fwydydd newydd! Dwi'n hoffi bwyta unrhyw beth ar wahân i anifeiliaid. Bwyd Caribî ac Affricanaidd yn arbennig. Mae gen i wendid am hufen ia. GYRFA Pryd gychwynnodd y diddordeb mewn ysgrifennu? Ers fy arddegau cynnar, mae sgwennu wedi bod yn ffurf o gyfathrebu mor naturiol i mi â siarad. Wedi darllen dyddiadur Anne Frank yn 15 oed, rydw i wedi cadw dyddiadur ers hynny. Beth sy'n rhoi y boddhad mwyaf? Y Drefn yn cyfaddawdu ar ryw bwynt megis y sianel, dyfodol ysgol neu ryw hawl cynllunio. Dydi o ddim yn digwydd yn aml, ond pan mae o'n digwydd, mae'r holl ymgyrchu a phrotestio yn pylu'n ddim o'i gymharu â melyster buddugoliaeth. Gyda Ilyfrau plant, ai'r stori, y geiriau neu'r Iluniau sy'n dod gyntaf? Y syniad ddaw gyntaf rhyw lun o'r Dewin Dwl yn chwerthin neu'n rhyfeddu, a dwi'n dechrau dyfalu be ydi'r stori tu ôl i hynny. Dwi'n gweld y stori fel cartwn yn fy mhen a dwi'n trio dal rhai golygfeydd ar bapur. Beth yw'r agwedd anoddaf o'r gwaith? Cael syniadau! Mae'n hunllef ceisio cael gafael ar syniad ar gyfer nofel neu Iyfr plant os nad yw'r Awen o gwmpas. Yna, mi fedr ddod ar eich traws yn gwbl annisgwyl, a'r eiliad y daw, mae'r geiriau'n lIifo. Rhyw greadures munud olaf ydw i, ac oni bai fod yna ddyddiad cau go bendant, fydde dim