Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn cael ei gyflawni. Pa fath o waith fyddwch chi'n ymgymryd ag o? Unrhyw waith ymgyrchu boed yn ymgyrch heddwch, iaith neu gefnogi achos tramor. O ran sgwennu, byddaf yn sgwennu colofn wythnosol i'r Herald, a thudalen fisol i Wcw. Dwi'n sgwennu sgriptiau teledu Rala Rwdins yn ogystal ã'r Ilyfrau ac yn mynd o gwmpas ysgolion a chymdeithasau i sôn am sgwennu creadigol. Mae gen i ddosbarth nos ar sgwennu creadigol hefyd a phan gaf amser i mi fy hun, byddaf yn sgwennu nofel neu Iyfr plant neu'n achub ar y cyfle i weithio ar fy nhraethawd ymchwil ar fywyd a gwaith fy nhaid, David Thomas y WEA. A fyddwch yn gweithio gyda phlant a beth yw eu hymateb hwy i'ch gwaith? Byddaf yn aml yn siarad efo plant a chaf ymateb gonest. Fy mhregeth yw fod pob un yn awdur gyda stori o'u mewn y dasg yw ei rhyddhau! Mae dychymyg byw gan y rhan fwyaf o blant nes i'r system addysg gael gwared ohono. Pa her/sialens fyddech chi'n hoffi ei chyflawni yn y dyfodol? Cael y cyfle i nofio yn nyfnderoedd y môr a gweld rhyfeddodau yr isfyd. Byddwn wrth fy modd yn cael cyfarfod dolffin hefyd. FFYDD Fuoch chi yn mynd i'r Ysgol Sul? Do gan mai dim ond fy mhedair chwaer a mi oedd yn blant yn ein capel, roeddem yn teithio i Horeb, Penygroes i'r Ysgol Sul. Fe gawn yr Ysgol Su) yn fwy perthnasol i mi na gwasanaeth capel roedd pobl yn siarad gyda ni, nid gyda oedolion. Oes yna werth yn yr Ysgol Sul erbyn heddiw? Mae'r Ysgol Sul yn bwysicach heddiw nawr fod y Cwricwlwm Cenedlaethol wedi cymryd gafael mor gadarn ar ein cyfundrefn addysg. Gall Ysgol Sul fagu annibyniaeth barn, cymeriad cryf a chyfundrefn o werthoedd, yn ogystal â rhoi Angharad Tomas gwybodaeth Feiblaidd. Lle ydych chi'n addoli ar hyn o bryd? Yng Nghapel Calfaria, Penygroes (Bedyddwyr) yn y bore, ac yn fy hen gapel Ty'n Lôn (Wesla) yn yr hwyr IIe rydwi'n flaenores. Dydi enwadaeth ddim yn golygu fawr i mi. Pa brofiadau sydd wedi cael dylanwad mawr arnoch? Dod yn Gristion yn 1977, a phrofiad pwysig oedd treulio wythnos yn Efrog yn eglwys David Watson ddechrau'r Wythdegau. Wrth ymweld â'r Trydydd Byd, mae'n galonogol (ac arwyddocaol) cynifer o bobl sy'n cael nerth o eglwysi. Oes yna adnod arbennig sy'n bwysig i chi? Oes, 'Eithr i'r rhai sydd. yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint'. Rhuf 2:8 Beth am eich hoff emyn? "Ffigysbren ddiffrwyth iawn fum i', gan Charles Wesley, sy'n cynnwys y gwpled addas: 'Ac o'th drugaredd rhyfedd gad I wrthryfelwr fyw!' Beth fuasech yn dymuno gweld Cristnogion ac eglwysi yn gwneud mwy ohono? Ymyryd mewn gwleidyddiaeth. Sylweddoli na fwriadodd Duw i ni fod yn glwb ecsclwsif ar y ddaear ac mai chwyldroi bywydau pobl yw ein cenhadaeth. Beth am eich gweddi a'ch gobaith i'r dyfodol? Ein bod yn dod i sylweddoli go iawn pa mor llym yw beirniadaeth Crist o'n safon byw moethus a cymaint o rwystr yw hyn i gyrraedd Teyrnas Nefoedd. Mae gweddio am gael llai yn anodd, ond dyna lle mae'n gobaith.