Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-T-Tttl^gj io'r F ẄS_qj fco> jCoI ros y Pa ip^gl^r^ Ar y Gwyliau mae'r cyfryngau ar eu gorau i ennill gwylwyr. Mae pob sianel deledu yn barod i fuddsoddi arian mawr er mwy ennill gwylwyr. Mae'n werth rhoi y golofn hon y tro hwn felly i ofyn: Beth wnaeth S4C o'r Pasg eleni ? Mae'n ddigon teg i ni ddisgwyl i'r Pasg roi syniad go dda i ni o ymrwymiad y sianel, nid yn unig i blesio rhai sy'n fynychwyr eglwysig ond i roi sylw arbennig i ysbryd ac ystyr yr wyf- fel y sylw a roir i gem bêl droed bwysig pan mae'n ddiwrnod y gêm Mae'n rhaid,felly, i ni fanylu ar raglenni y Pasg. Yr Wythnos Fawr. Ar ôl y Dechrau canu, dechrau canmol o Gefnmeiriadog ar nos Sul y Blodau tan Y Croeshoeliad Steiner o Eglwys Gadeiriol Llandaf nos Wenenr y Groglith, doedd yna ddim byd o gwbwl i'n harwain ni drwy Wythnos fawr.Diolch i'r nefoedd roedd yna rifyn diddorol iawn o Heart of the Matter ar nos Sul y Blodau oedd yn trafod pwnc addas iawn i'r wythnos, sef gweithredu di-drais a'r egwyddor o dorri cyfraith gwlad er mwyn achos Pob nos (wel, o gwmpas yr hanner nos) roedd gan BBC 1 gyfres Under the influence oedd yn edrych ar ddylanwad y Ffydd Gristnogol ar ein bywyd fel pobl ac fel unigolion. Diolch i BBC 1 am yr ychydig. Doedd gan BBC Cymru/Wales ddim byd o gwbwl. Ar y nos Lun fe gawsom gyflwyniad graenus o'r Meseia o Eglwys Lanelwy gan HTVYr oedd hanner cyntaf y Cyngerdd wedi ei ddarlledu ar HTV ar y Nadolig. Ar ôl y nos Lun yr oedd HTV yn debyg i BBC dim. S4C Ond yn ôl at S4C. Fe gawsom gan Gôr Caerdydd Timothy Richards a Jeremy Huw Williams gyflwyniad ardderchog a'r cyflwyniad cyntaf erioed yn Gymraeg o Y Croeshoeliad Steiner a'r eglwys gadeiriol ei hun, yn ogystal â Majestas Epstein yn creu awyrgylch arbennig ar nos Wener y Groglith awyrgylch oedd yn creu yr ymdeimlad o wyleidd-dra a thawelwch defosiynol, yn ogystal ag ing ac angerdd, fel y gweddai i nos Wener y Groglith. Yr oedd yn gyfraniad pwysig i'r Pasg ar S4C a go brin y gallai rhywun fod wedi cael gwell ar Êyl y Grog. Cwmni Opus oedd yn gyfrfol am y darllediad. Yr oedd yn rhaid aros wedyn tan nos Sul y Pasg a mwy o gerddoriaeth.O Seilo Caernarfon y daeth Dechrau canu. Yr oedd sglein ar y cyfraniadau i gyd, yr oedd y canu yn dda ac fe wnaeth Harri Parri ei orau i weu neges y Pasg wrth gyflwyno'r rhaglen. Ond,- nid oedd y rhaglen yn cyfleu gorfoledd a llawenydd y Pasg. Yr oedd Resurgam yn ardderchog, O tyred i'n gwaredu yn rymus ac yr oedd Coedmor yn wefreiddiol ond nid emyn y Pasg yw Draw,draw ym mhell (er mor dda y canu) ac yn bendant nid Gweddi'r Arglwydd oedd y darn i gôr fel Côr Caernarfon ei ganu ar Sul y Pasg. Er bod Gair Disglair Duw yn emyn poblogaidd ac yn llawn gorfoledd fe fuasai'r plant wedi medru rhoi mwy o Bàm &r m Bocs Pryderi Llwyd Jones gyfraniad (ac felly mwy o lawenydd ) na chanu un pennill o'r emyn a'r pennill hwnnw yn cynnwys Ti yw'r gwir a'n rhyddha o'n cadwynau' Mae eglwys Seilo,Caernarfon yr eglwys Gymraeg gyda'r aelodaeth fwyaf, y gynulleidfa fwyaf a'r adnoddau mwyaf yng Nghymru o bell ffordd ond rhywsut ffitio i mewn i bartrwn arferol DCDC a wnaethpwyd ac nid dathlu'r Atgyfodiad. .a mwy o ganu. Yr unig raglen 'ychwanegol' ar Sul y Pasg oedd mwy o ganu yn Sanctus (Cwmni Avanti) a hysbysebwyd fel 'Myfyrdod ac addoliad cyfoes'o'grombil Dan yr Ogof'.Yr oedd y sumbol a'r awyrgylch o fod mewn ogof yn un grymus iawn ac yr oedd rhywun yn llawn disgwyliadau i gael symud o dywyllwch bedd yn y graig i'r golau a'r gorfoledd. Yr oedd yr eitemau unigol yn broffesiynol, fel y buasai rhwyun yn ei ddisgwyl gan Heather Jones, Manon Llwyd Delwyn Sion, Gwyn Vaughan Jones a Chôr Plant ysgol Hywel. Yr oedd yn all starW Ond nid addoli Pasg a gawsom, ac fe allasai'r rhaglen fod wedi ei darlledu ar nos Wener y Groglith. Dim ond lleoliad oedd yr ogof, ac ni ddatblygwyd y sumbol -ni chawsom gerdded heb sôn am ddawnsio, ohoni. 58 eiliad yn unig o wefr 'atgyfodiad' a gawsom ar ddiwedd y rhaglen tra roedd côn Jiwdas ac ymson Jiwdas (a oedd angen y ddau?) rhyngddynt yn wyth munud,deunaw eiliad. Ychwanegwch at hynny gân Mair wrth y groes gan Heather Jones a chân Magdalen gan Manon Llwyd ('Ni wn i sut i'w garu',nad yw'n gân Pasg) yna roedd y pwyslais yn y lle anghywir. Ac yn hytrach na chael gweddi oedd yn defnyddio delweddau'r ogof a'r symud i'r golau fe gawsom ddarluniau ystrydebol o ffenestri lliw nad oedd yn addas o gwbwl i wasanaeth o ogof. Yr oedd y bwriad yn un ardderchog a'r posibilrwydd yn gyffrous, ond, a defnyddio penawd Adolygydd teledu Golwg, yr hyn a gawsom oedd- prinder y Pasg'. Beth aeth o'i i Ie ? Yr oedd y diffyg cynllunio ar ran S4C yn amlwg. Yr oedd y ddwy raglen ar nos Sul y Pasg yn rhy debyg.Yr oedd y Pasg mewn llawer o eglwysi led-led Cymru yn lawer mwy cyffrous na Phasg S4C, a diolch am hynny. Ac er y costau o fynd i Dan yr Ogof ni chawsom yr argraff fod y ddwy raglen wedi rhoi digon o adnoddau na digon o gynllunio a pharatoi i ddathlu Pasg. Ni chawsom unrhyw ran o stori'r Pasg cyntaf (stori sydd yn cynnig digon o her i ddychymyg a dawn) yn y naill raglen na'r llall, ac yr oedd hyn yn fethiant sylfaenol. Fe ddylai S4C a'r cwmniau teledu wybod yn barod beth sy'n digwydd dros y Nadolig ac fe ddylai rhaglenni Pasg 98 fod wedi eu cynllunio cyn yr haf. Ond yn fwy hyd yn oed na diffyg cynllunio yr oedd y Pasg yn dangos diffyg ymroddiad ac arghoeddiad S4C ynglyn a phwysigrwydd rhaglenni Cristnogol. Rhaid gofyn eto beth sydd wedi digwydd i Banel Crefydd S4C? A rhaid gofyn hefyd Pam fod y BBC Cymru/Wales wedi troi cefn yn llwyrar raglenni crefyddol ? Y mae Cytun newydd gyhoeddi nad oes neb wedi ennill Gwobrau Cytun i gyfraniadau crefyddol ar y Cyfryngau teledu, radio neu'r wasg. Ni ddangoswyd diddordeb ac ni enwebwyd un rhaglen deledu. Does ryfedd .Yr oedd y Pasg yn adlewyrchiad teg o weddill y flwyddyn.