Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

John Calfin a Chalfiniaeth YR YSBRYD OLAN Y mae'n bosibl diffinio Calfiniaeth mewn tair ffordd. Yn gyntaf trwy ganolbwyntio ar fywyd a gwaith y diwygiwr o'r unfed ganrif ar bymtheg, John Calfin, a gyflawnodd ei waith mawr yn ninas Genefa yn y Swisdir. Cawr o feddyliwr, diwinydd o ddifrif a gweinidog awdurdodol a berthynai i'r ail genhedlaeth o ddiwygwyr. Ffrind mawr Philip Melanchton, a fu'n gymaint o ddylanwad ar Mar- tin Luther. Dawn arbennig Calfin oedd adeiladu system o ddiwinyddiaeth yn nhraddodiad rhai o feddylwyr pennaf yr Eglwys, fel Awstin Sant. Ond yr oedd gan John Calfin hefyd ei gyfraniad ei hun. Ef oedd y cyntaf i bwysleisio undod gwaith yr Arglwydd lesu Grist o dan dri teitl Y Proffwyd, Yr Offeiriad a'r Brenin. Ef oedd y cyntaf hefyd yn hanes yr eglwys i roddi pwyslais ar undod yr Ysbryd Glân. Ef yw diwinydd mawr yr Ysbryd Glôn. Y mae gan bob diwinydd ei gyfraniad. Cyfraniad Awstin Sant oedd athrawiaeth gras a phechod, cyfraniad Martin Luther oedd pwysleisio cyfiawnhad trwy ffydd a chyfraniad John Calfin oedd athrawiaeth ar waith yr Ysbryd Glân. Daeth Calfin hefyd a dealltwriaeth gytbwys o Swper yr Arglwydd gan bwysleisio gwreiddiau trindodaidd y sacrament. Iddo ef yr oedd y dasg o achub pechaduriaid yn eiddo'r drindoa. Duw'r Tad sy'n ethol personau i'w hachub a'r Mab sydd yn eu hachub tra mai'r Ysbryd sydd yn cario allan ewyllys y Tad a gwaith y Mab yn eu sancteiddio a'u hadnewyddu. Nid fel atodiad i'r athrawiaeth o Dduw yw rhagordeinio ac etholedigaeth fel fel y mynnal rhai o'r diwinyddion Calfinaidd ond fel amlygiad o ffydd a gras. SYLW BYD-EANG Heddiw y mae diwinyddiaeth John Calfin yn cael cymaint o sylw ag erioed, nid yn gymaint yng Nghymru ond yn fyd-eang. Oherwydd i Caffîn y peth pwysicaf y medrwn ni wybod amdano ydyw Duw. Nid oes dim byd arall yn werth gwybod amdano i gymharu â'r wybodaeth o Dduw. Hoff adnod y Calfinydd ydyw'r gwirionedd a gawn yn llyfr y Proffwyd Jeremeia (pennod 9, adnodau 23 a 24): "Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, ac nac ymffrostied y cryf yn ei gryfder, ac nac ymffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth; Eithr y neb a ymffrostio, ymffrostied yn hyn, ei fod yn deall, ac yn fy adnabod i, mai myfi yw'r Arglwydd a wna drugaredd, barn, a chyfiawnder, yn y ddaear; oherwydd yn y rhai hynny yr ymhyfrydais, medd yr Arglwydd." Dyma pam fod yn rhaid i grefyddwyr heddiw fynd yn ôl at Galfin a'i ddiwinyddiaeth. Ysgrifennais erthygl un tro gyda'r teitl 'Yn ôl i Genefa', a chofiaf i aml i leygwr ddiolch i mi am yr alwad honno. Oherwydd yr ydym yn byw mewn gwareiddiad (ac yn arbennig yng Nghymru) lle mae pobl wedi colli'r cyfeiriad ar Dduw. Nid dyna'r cwbl, fel y dywed un o'r Calfiniaid cyfoes, Carl F H Henry, yn ei gyfrol God, Revelation and Au- thoritya gyhoeddwyd yn 1982. Dywed Henry am y dyn cyfoes: gan D. Ben Rees "He is unsure how to pronounce God's name and at times unsure of that name, or whether in fact God is nameable". Yn ei ddiweddglo i un o gyfrolau pwysicaf diwinyddiaeth y ddeunaw mlynedd diwethaf, Knowing God o waith J I Packer a gyhoeddwyd yn 1973, mae r Calfinydd dysgedig hwnnw yn tanlinellu yr un pwynt a Henry. "Edrychwch", meddai, "ar lenyddiaeth gyfoes Gristnogol, a beth yw'r materion a welir undeb eglwysig, y dystiolaeth gymdeithasol, deialog â chrefyddau eraill, ateb y gwyriadau, datblygu athroniaeth Gristonogol ar fywyd!" Y mae pob un o'r materion yn bwysig ac y mae angen delio â nhw. "Ond y mae'n drasiedi, "ychwanega Packer, "a thristwch pam y rhoddwn gymaint o sylw iddynt a throi meddyliau ein cynulleidfaoedd a'n pobl oddi wrth yr hyn a fu ac a sydd yn hanfod popeth a'r peth cyntaf ar ein agenda sef dysgu sut mae adnabod Duw yn lesu Grist". DIFFINIO Dyna yn sicr y ffordd gyntaf i ddiffinio Calfiniaeth. Yr ail ffordd yw edrych ar safbwynt y disgyblion. Cychwynnodd y traddodiad hwn ar ôl marwolaeth John Calfin yn 1564. Ei olynydd yn Genefa oedd Theodore Beza a newidiodd ef rai tueddiadau yn niwinyddiaeth Calfin. Bu dadl fawr ar hyn ers pan gyhoeddodd Dr R T Kendall, gweinidog Capel Westminster yn Llundain ei lyfr Calvin and English CaMnism to 1649yn y saith degau. Yn ôl Kendall roedd prif gymeriadau Piwritaniaeth Lloegr fel William Perkins a Ẃilliam Ames wedi dilyn diwinyddiaeth Beza yn hytrach na Calfin. Mae'n feirniadaeth ddeifiol na ellir ei hanwybyddu. Dadleua Kendall fod y Mudiad Piwritanaidd a diwinyddiaeth a ddeilliodd o'r Diwygiad Protestannaidd wedi dadwneud gwaith y Diwygiad. Ac y mae y mwyafrif o haneswyr y Diwygiad Protestannaidd yn gweld gwerth yn y feirniadaeth. Cymerwch safbwyntyr Athro Basil Hall. I Hall pwysleisia Beza Iythrenolrwydd ynglyn ag ysbrydoliaeth a dygodd agwedd i ddehongli y Beibl sydd yn gwahaniaethu'n fawr oddi wrth John Calfin ei hun. Dadleuodd Bobi Jones yn Sioc o'r Gofod, (1971), fod y Beibl yn anffaeledig ac yn ddi-wall onid dilyn Beza a wnaeth yn hytrach na Calfin ar bwnc ysbrydolrwydd yr Ysgrythurau! Y mae'r Ysgrythurau wedi eu hysbrydoli bid siwr ond nid ydynt heb lithriadau ychwaith. Ysgrifennodd Calfin esboniadau gwerthfawr ar nifer o gyfrolau'r Beibl ac yn y rhain y mae'n cydnabod fod ambell i air ag angen astudiaeth pellach. Yn wir gellir dadlau fod Calfin yn dod at yr Ysgrythurau fel ysgolhaig hiwmanistaidd ac nid fel ffwndamentalydd. YR ETHIG BROTESTANNAIDD Yn y can mlynedd diwethaf bu dadl fawr arall ar y ffordd y dylid ystyried Calfin a Chalfiniaeth fel dylanwad syniadol a gweithredol ar wareiddiad cyfalafol y Gorllewin. Bu haneswyr economeg a chymdeithasol yn dadlau yn huawdl. Cymdeithasegydd o'r Almaen, Max Weber, a luniodd y cymal academaidd enwog; yr ethig waith brotestanaidd (Protestant ethic of work). Dadleua Weber mai athrawiaeth rhagordeiniad gyda'i phwyslais ar etholedigaeth i'r nefoedd a damnedigaeth i uffern oedd y cymhelliad dros ddatblygiad yr