Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

athrawiaeth. Wedi'r cyfan i Galfinydd nid oes angen offeiriad i eiriol drosto na dod rhyngddo ef a'i Dduw. Mae'n sefyll ar ei draed yn unig, yn bererin o bechadur, gyda'r Ysbryd Glân yn pledio'i achos gerbron Duw. Roedd Calfin wedi pwysleisio yr angen o foliannu a gwasanaethu Duw trwy waith caled, defnyddiol i gymdeithas. Ac yn namcaniaeth Weber y mae'r syniad o etholedigaeth a galwad wedi rhoddi hyder i unigolion a gwledydd i orchfygu ac i ddatblygu a dyfeisio a chreu byd newydd a chynnyrch amlycaf y byd hwnnw oedd y masnachwr, y gwyddonydd a'r diwydiannwr. Beirniadwyd y ddamcaniaeth yn llym, yn arbennig gan rai sy'n coleddu syniadau Sosialaeth Gristnogoì. Tynnwyd sylw at y ffaith nad yw cyfalafwr llwyddiannus o reidrwydd yn Brotestant. Cafwyd cyfalafwyr ymhlith y Catholigion, fel teulu'r Medici yn ninas Florens a Jacob Fugger, banciwr i'r Pab yn y Fatican. Mae Weber yn dod o hyd i gyfalafwyr yn y mannau hynny y mae'n dymuno eu cael, fel gwledydd Gogledd Ewrop, yn arbennig Lloegr a'r Iseldiroedd. Ac nid yw Weber er ei ddysg yn ddigon o arbenigwr mewn diwinyddiaeth, a dyna pam iddo osod John Wesley, yr Armin yn yr un cwch cyfalafol a'r Calfin, Richard Baxter. PEDWAR TRADDODIAD Wedi dweud hynny, beth yn union yw Calfiniaeth? O blith y diffiniadau dylid sylwi ar bedwar traddodiad. Y traddodiad cyntaf yw'r hyn a alwaf yn Draddodiad Princeton. Ar enw pwysicaf yn y traddodiad hwn yw Benjamin Warfield (1851-1921). Ef oedd Athro Diwinyddol Prifysgol Princeton yn yr Unol Daleithiau o 1887 i 1921. Mae ganddo ddylanwad mawr a pherthyn Warfield i'r traddodiad Albanaidd athronyddol gyda'i bwyslais ar reswm, a gellir gweld hyn yn ei lyfr ar y Gwyrthiau. Gwrthyd Warfield lawer o'r gwyrthiau. Nid yw Duw, meddai, yn cyflawni gwyrthiau ond ar gyfer pwrpas neu achos arbennig. Perthyn y gwyrthiau i oes yr Apostolion ac nid i'n hoes ni. I Warfieìd gwybodaeth bendant am Dduw sy'n allweddol a dylid ar bob cyfrif ddefnyddio'r ddawn y'n bendithiwyd ni a hi, sef rheswm i ddeall ac ar ôl deall adnabod yr unig wir a'r bywiol Dduw. Credu yn Nuw yw'r alwad, ac os ydym o ddifrif yn barod i gredu ynddo, yna fe ellid troi y dwr yn win. Yr ail draddodiad yw'r traddodiad a gysylltir gydag Abraham Kuyper (1837 1920). Perthynai ef i draddodiad atnronyddol Immanuel Kant ac yr oedd yn amheus o'r profion am fodolaeth Duw. Iddo ef yr oedd terfyn i reswm dyn. Gwenwynwyd rheswm gan bechod. Gall personau fyth feddwl yn gwbwl glir. Llurguniwyd ei allu i wneud hynny gan gwymp Adda. Cyfraniad arall Kuyper oedd gosod egwyddorion Calfiniaeth ar waith ym myd gwleidyddiaeth a da beth yw troi'n achlysurol i'w gyfrol Common Grace. Camp Ytrydydd traddodiad ywtraddodiad Argyfwng Cred, y traddodiad â gysylltir a diwinyddiaeth Karl Barth yn anad neb. Daeth ef a'i gyd-weithwyr â syniadau John Calfin i ganol bywyd Ewrop yn y dau ddegau. Yr oedd y syniadau yn ddieithr cyn i Barth eu gorseddu. Esgeluswyd hwy. Daeth Barth a'r holl benawdau pwysig fel Penarglwyddiaeth Duw i ganol ein haddoliad fel Protestaniaid. I Barth yr lesu yw'r Duw sy'n ethol a'r dyn delfrydol a etholwyd o dragwyddoldeb. Ef yw'r Etholedig Un a gymerodd arno ei hun feichiau pechod y ddynoliaeth a wrthodwyd a'i hadfer drachefn. Felly mae rhagordeiniad dyn yn weithred o Gariad ac o Ras. Duw sy'n cymeryd y cam pwysig yn lesu Grist. I Barth y mae holl fywyd creadigol, byd diwylliant a byd trefn trwy ymdrechion y gwleidyddion wedi ei sylfaenu ar Grist. Y mae'r agwedd gadarnhaol yma tuag at y greadigaeth yn cael ei phriodi a'r agwedd sy'n gwrthod pob ymgais ddiwinyddol i deall y Greadigaeth ar wahan i Gristioleg. Y pedwerydd traddodiad yw'r traddodiad enwadol, a gafodd ei ymgnawdoli yn yr eglwysi; yn wir yn y teulu Presbyteraidd led led y byd. Ond erbyn hyn bu ymwrthod mawr â Chalfiniaeth fel sustem ddiwinyddol o fewn pob un o'r enwadau Presbyteraidd. Ac yn ôl fy namcaniaeth i rhoddwyd ergydion marwol i Galfiniaeth Genefa gan ddiwygiadaur ddeunawfed ganrif ac i raddau mwy yn niwygiadau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Oherwydd y mae'r diwygiadau yn eu hanfod (ar wahan i gyfraniad Whitefield a'r Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg) yn Arminaidd eu diwinyddiaeth, yn arbennig yn y pwyslais a roir ar y natur ddynol a hefyd yn ein dirnadaeth o Benarglwyddiaeth Duw. DIWYGIAD Paradocs mawr hanes yw mai'r eglwysi Calfinaidd a fu'n gyfrifol am fagu'r diwygwyr mwyaf effeithiol, fel Jonathan Edwards, Daniel Rowland, Charles Finney, Billy Sunday a Evan Roberts. Y mae Calfiniaeth yn sustem ddeallusol tra mae diwygiadau yn apelio bob amser at yr emosiynau. Cawr o feddyliwr praff oedd John Calfin tra mai meddylwyr eilradd oedd Charles Finney a Evan Roberts, ac yn wir Daniel Rowland. 'Roedd syniadau llawer o'r rhain am natur eglwys, er enghraifft, mor wahanol i eiddo Calfin. Ac yn arbennig syniadau'r mwyafrif o'r diwygwyr ar ddisgyblaeth eglwysig. Cydnabyddwn hefyd nad Calfinaidd oedd y mwyafrif o'r diwygwyr. Arminiaid oedd John a Charles Wesley, Charles Finney, D.L.Moody, Ira Sankeyac Evan Roberts. Ac yn ysgrifeniadau y rhain y mae IIu o safbwyntiau gwrth Galfinaidd. Er enghraifft, y mae'r holl syniadau a nodaf yn awr yn wrth Galfinaidd, sef emosiynaeth grefyddol, ysbrydoliaeth y foment a'r gred fod pawb o blant dynion yn cael eu hachub. ERGYD FARWOL Teimlaf ym mer fy esgyrn fod yr ugeinfad ganrif fel petai yn rhoddi hoelen, yn wir hoelion, yn arch sustemau diwinyddol deallusol. Y pregethwyr mwyaf llwyddiannus yn yr Unol Daleithiau yn ystod y deugain mlynedd diwethaf yw'r pregethwyr mwyaf gwrth ddiwinyddol deallus, fel y diweddar Norman Vincent Peale a Robert Schuller. Y tu mewn i ddiwinyddiaeth cawsom ein cyflyru i fod yn gyfoes. Y mae Calfiniaeth yn hen ffasiwn. Duw yw'r gair allweddol mewn Calfiniaeth. Cawsom yn y chwedegau ddiwinyddiaeth a adnabyddid fel