Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Eifion Evans, Fire in the Thatch. The True Nature of Religious Revivals. Evangelical Press of Wales, 1995, Ni nodir pris, tt. 234 Gwyr pob un sydd â diddordeb yn hanes crefydd yng Nghymru yn ystod y cyfnod modern am gyfraniad mawr y Dr Eifion Evans i'r maes. Ymddiddorodd mewn ffenomenon a oedd ar un amser yn bur gyffredin yn ein plith, sef diwygiadau crefyddol, ac yn sgil ei ymchwil cafwyd amryw gyfrolau ganddo yn trafod hanes, datblygiad, natur a nodweddion rhai o gyffroadau ysbrydol y gorffennol. Rhoddodd sylw mawr hefyd i arweinwyr diwygiadau, ac yn ei ddwy gyfrol ar fywyd a gwaith Howell Harris a Daniel Rowland, ynghyd â'i gyfieithiad diweddar o rannau o gerdd Theomemphus Pantycelyn, cyflwynodd astudiaethau gwerthfawr inni o gyfraniadau y dynion hyn i gyfnod allweddol a chyffrous yn hanes ein cenedl. Gwnaeth hynny gyda mesur helaeth o ddealltwriaeth, nid yn unig o'r ffeithiau hanesyddol, ond hefyd o'r hyn oedd yn ysbrydoli'r dynion hyn. Mantais, wrth drafod profiadau crefyddol a gweithgarwch yr Ysbryd Glân, yw bod â phrofiad personol o'r pethau hynny; gall rhagdybiaethau, agweddau, syniadau neu ymateb y sawl sydd ynghanol cyffro ysbrydol fod yn gwbl estron ac anesboniadwy i'r sawl nad yw wedi profi y fath bethau ei hunan. Er y gall anffyddiwr rhonc wneud cyfraniad pwysig i'n dealltwriaeth o'n gorffennol Cristnogol, mae hefyd agweddau na all ond y credadun eu gwerthfawrogi'n lIawn. Nid tasg hawdd bob amser yw deall teithi meddwl y Cristion, yn arbennig pan fo'n torri cwys newydd ac yn ceisio ymdopi â'r anawsterau. Cryfder astudiaethau Dr Evans yw ei fod fel gweinidog a phregethwr efengylaidd yn gallu cydymdeimlo â diwygwyr y gorffennol tra'n cydymddwyn mewn modd chwaethus a chytbwys â'u gwendidau. Ar wahân i ddwy o'r penodau, yn trafod gweinidogaeth Richard Baxter yn Kidderminster ac ysbrydoledd Griffith Jones, Llanddowror, casgliad o ddarlithiau ac erthyglau gan Dr Evans o'r cyfnod rhwng 1960 a 1992 a geir yn Fire in the Thatch. Mae'n Ilyfr eithriadol ddiddorol, yn cynnwys amrywiaeth cyfoethog o themâu. Ymhlith y bobl y sonnir amdanynt y mae David Jones, Llan-gan, John Davies, Tahiti, Humphrey Jones a Dafydd Morgan, arweinwyr Diwygiad 1859, a George Whitefield, y diwygiwr o Gaerloyw. At hynny ceir dadansoddiadau o beth yw diwygiad a sut y mae'n datblygu, erthygl am ymateb y Methodistiaid cynnar i'r gwrthwynebiad a welsant, trafodaethau ar le'r Beibl a phregethu mewn diwygiad, esboniad o ddiwinyddiaeth a dulliau bugeilio'r dychweledigion ymhlith y Methodistiaid cynnar, ynghyd â phennod i gloi yn gofyn pam nad oes diwygiad yn digwydd heddiw. Fel y byddem yn disgwyl gydag awdur mor brofiadol, y mae dull y cyflwyno yn fywiog ac yn llithrig. I'r sawl sydd â diddordeb yn y maes, mae'r llyfr yn un anodd i'w roi o'r neilltu unwaith y bo dyn wedi dechrau ei ddarllen; cluda Dr Evans ni o'r naill thema i'r llall yn effeithiol ac yn esmwyth gan gyflwyno pob maes newydd yn erbyn cefndir digwyddiadau'r cyfnod. Mae'r ymchwil, wrth reswm, yn fanwl, a'r mynegiant yn glir, ac er mai casgliad o erthyglau sydd yma, y mae'r cyfan yn asio'n ddidrafferth yn un cyfanwaith twt. Y perl yn y casgliad yw'r bennod ar Richard Baxter, ond nid yw hynny yn beth i synnu ato gan mai dyna oedd pwnc doethuriaeth Dr Evans. Un peth oedd yn achos siom imi oedd yr anghysondeb yn y defnydd o droed-nodiadau, y dolennau hynny sy'n caniatau i'r sawl sy'n dymuno astudio pwnc neu thema ymhellach i wneud hynny gyda rhwyddineb. O'r pymtheg pennod, mae naw â throed- nodiadau llawn, un yn rhoi llyfryddiaeth yn unig, un yn cynnwys pedwar cyfeiriad at benodau eraill o'r Ilyfr, a phedair heb droed-nodyn o gwbl, er bod un ohonynt yn frith o gyfeiriadau Beiblaidd. Y mae hyn yn drueni mawr. Pan ddarllenais ddisgrifiad Dr Evans ar dudalen 182, o bentref Beddgelert cyn y diwygiad yno yn 1817, yr oeddwn yn ysu am gael gwybod o ba ffynhonnell yr oedd yr wybodaeth wedi dod. Yr oedd yn union fel petai yr awdur wedi bod yno ei hun, ac wedi gweld y pethau yr oedd yn cyfeirio atynt. Gwaetha'r modd, ni ddatgelir y ffynhonnell mewn troed-nodyn, na ffynonellau eraill mewn mannau eraill. O fod wedi rhoi troed-nodiadau yn rhai o'r penodau, da o beth fyddai bod wedi eu rhoi ymhob un, ac yn sgil gwneud yr ychwanegiad hwnnw, gwelliant bychan arall fyddai bod diweddaru y troed- nodiadau a oedd yn bodoli eisoes, a chynnwys ynddynt gyfeiriadau at erthyglau a chyhoeddiadau sydd wedi ymddangos yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Peth arall a ddaeth i'm meddwl wedi darllen y gyfrol oedd y dylid, o bosibl, fod wedi gosod y penodau mewn trefn wahanol. Credaf y dylai'r ddwy bennod gyntaf, ar beth yw diwygiad, a sut y mae'n dechrau ac yn tyfu, fod wedi ymddangos yn union cyn y bennod olaf. Dylai'r gyfrol fod wedi dechrau gyda'r campwaith ar Richard Baxter, a therfynu gyda thair pennod o esbonio a thynnu casgliadau. Wedi darllen am yr amrywiol bynciau eraill, byddai'r darllenwr wedyn yn medru gweld, gyda'r awdur, sut y mae diwygiadau yn dechrau ac yn datblygu; yna byddai esboniad o beth yw diwygiad yng ngoleuni'r Beibl yn dilyn, a'r gyfrol yn cloi gyda'r cwestiwn pam nad oes diwygiad heddiw. Wedi dweud hynny, ni ddylid gwneud môr a mynydd o'r pethau hyn; y peth pwysig yw fod gennym yma gyfrol fuddiol a chyfoethog, cyfrol y mwynheais ei darllen yn fawr, a chyfrol y bydd llawer eraill yn cael pleser o'i hastudio a bodio ei thudalennau. Un peth a welant yn fuan iawn wrth wneud hynny, yw pwyslais Dr Evans ar bwysigrwydd pregethu yn y genhadaeth Gristnogol, a'i Ie canolog yn y ffenomenon o ddiwygiad neu adnewyddiad ysbrydol. Cyfeiria at hyn dro ar ôl tro, ac yn y cyfnod hwn o ddiffyg hyder yn y bregeth, a diffyg cred yng ngallu Duw i weithredu, da yw clywed llais yn cyhoeddi fod gobaith eto. Yr hyn a gyflawnodd Duw yn y gorffennol, gall ei gyflawni eto, ac y mae hwnnw yn bwyslais yr wyf yn llwyr gytuno ag ef. Geraint Tudur