Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Has God many names? Dewi Arwel Hughes, Gwasg Apollos, Pris £ 1 4.99. Y mae'r awdur, sy'n frodor o'r Bala ac yn gyn- fyfyriwr o Goleg Bala-Bangor, yn cyflwyno'r gyfrol swmpus hon o dros ddau gant a hanner o dudalennau wedi eu gosod mewn teip clos fel 'Rhagarweiniad i Astudiaethau Crefyddol'. Er mwyn deall ergyd teitl y llyfr yn iawn y mae'n rhaid cofio i John Hick, a symudodd yn ei 'ddatblygiad' ysbrydol o safbwynt pliwralaidd, gyhoeddi llyfr yn 1980 yn dwyn y teitl: God has many names. Nid yn unig y mae'r gyfrol newydd hon yn cyflwyno adwaith yr awdur yn erbyn safbwynt Hick ond y mae hi'n cynnwys ymchwil drwyadl i fewn i gwestiwn (leoliad awdurdod ym maes astudiaethau crefyddol ynghyd â thrafodaeth ddysgedig o'r sefyllfa ddiweddar a chyfoes yn y maes hwnnw. Ar ôl iddo gyflwyno amlinelliad o'r agweddau clasurol hynny a ddylanwadodd ar ddatblygiad astudiaethau crefyddol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, megis pwyslais idealaidd ar bwysigrwydd symbolau a'r pwyslais positifaidd ary method gwyddonol y mae Dewi Arwel Hughes yn ymdrin mewn modd ysgafnach â safbwyntiau seicolegol William James, anthropolegaidd R.R. Marrett a chymdeithasegol Max Weber cyn iddo fynd yn ei flaen i drafod y gwahanol agweddau tuag at grefydd fel y darlunir hwy gan ysgolion hanes crefydd, ffenomenoleg crefydd, cymdeithaseg crefydd a seicoleg crefydd. Rhydd gryn ofod yn y fan hon i drafod syniadau Mircea Eliade ac y mae'n drueni, ym marn un adolygydd beth bynnag, na thalwyd y sylw daladwy yn yr adran hon i gyfraniad Ernst Troeltsch i ddatblygiad y ddisgyblaeth. Yn nhraean olaf y llyfr y mae'r awdur yn trafod cwestiwn awdurdod crefyddol gan edrych ar gyfriniaeth ynghyd ag ar y syniad am y Real mewn Cristnogaeth a Hindwaeth, cyn iddo gyflwyno crynodeb o'i gasgliadau ei hun yn agos at ddiwedd y llyfr. Gall y sawl sy'n mynegi diddordeb yn y pwnc ddysgu llawer oddi wrth y gyfrol hon. Nid oes mo'r amheuaeth leiaf ynglŷn â brwdfrydedd byw yr awdur ei hun yn y pwnc, brwdfrydedd a gynhaliwyd yn wyneb beirniadaeth ac annioddefgarwch cynadledwyr pliwralaidd yn erbyn ei safbwynt efengylaidd. Y mae Dewi Arwel Hughes yn berchen ar gyneddf yr athro llwyddiannus i gyflwyno ac egluro syniadau cymhleth mewn modd eglur a gafaelgar ac nid yw'n brin o dynnu sylw at rai o'r pwysleisiadau anghyflawn a chamarweiniol a feirnedir ganddo. Pwyslais cyson yr awdur yw mai Duw yn lesu Grist yn hytrach na gwareiddiadau gwahanol dyn sydd â'r hawl i ddweud wrthym pwy ydym ni ac i ba beth yr ydym ni yn dda. Tra bod llawer yn y Ilyfr hwn i ddiolch amdano y mae'n hawdd gweld iddo gael ei ysgrifennu o'r safbwynt polemaidd. Golyga hyn fod gan Dewi Arwel Hughes ddiddordeb mawr mewn cynnal y pwyslais Cristnogol datguddiadol yn erbyn y pwysleisiadau mwy ffasiynol a arferir ym maes astudiaethau crefyddol cyfoes. Y piti ydyw bod ei ddisgrifiad o gynnwys y datguddiad Cristnogol braidd yn ddewisol a heb fod yn rhoddi lle i athrawiaethau megis yr 'Imago Dei' a gweithgarwch yr Ysbryd Glân yn y byd nac yn delio mewn dull digon creadigol â'r ffordd y gellir cyflwyno'r datguddiad hwnnw mewn modd effeithiol ac atyniadol i bobl sy'n perthyn i grefyddau a diwylliannau eraill. W Eifion Powell Taro'r SuI Maurice Loader, 1996, TŷJohn Penri, £ 5.00, tt. 131 "Oferedd yw printio llawer o lyfrau; blinder yw cynnwys llawer o feddyliau; peryglus yw dywedyd llawer o eiriau, a ffolineb yw ceisio ateb holl resymau dynion, ond O! ddyn, cais di adnabod dygalon dy hun a mynd i mewn drwy'r porth cyfyng." Geiriau Morgan Llwyd a ddyfynnir yng Ngwasanaeth y Sulgwyn yng nghyfrol Maurice Loader Taro'r Sul. Y mae'n rhaid i mi gyfaddef fod y geiriau yn cyfleu yr hyn sy'n achosi cryn bryder i mi y dyddiau hyn. Fe fu cyfnod pan oedd prinder dybryd o adnoddau ar gyfer yr eglwysi, ond yn ddiweddar gwelwyd symudiad o un pegwn i'r llall a gwelwyd boddi'r fasnach hon â chyfrolau "ail law" sef cyfrolau a addaswyd neu a gyfieithwyd o'r Saesneg. Er fy mod innau yn bersonol wedi cyfrannu i'r fasnach honno ac wedi cael budd a bendith wrth y gwaith rhaid cydnabod fy mhryder nad oes cyflenwad digonol o gyfrolau gwreiddiol Cymraeg sy'n siarad â ni yn ein hiaith ein hunain ac am ein sefyllfa ein hunain yng Nghymru. Diolch i Wasg Tŷ John Penri ac yn arbennig i Maurice Loader am gyfrol newydd wreiddiol! Yng nghyfnod prinder pregethwyr i gynnal oedfaon ar y Sul gwn mai'r duedd gynyddol yw hepgor yr oedfa yn gyfan gwbl mewn sawl ardal. Ond dyma'r math o gyfrol na rydd reswm i'r saint esgeuluso eu cyd-gynulliaid. Y mae'n gyfrol sy'n cynnwys pymtheg o wasanaethau cyflawn a chyfle i bawb rannu yn yr addoliad. Y mae i'r bregeth a'r neges Ie canolog yn nhrefn yr oedfa a rheini'n Ilawn o eglurebau diddorol ac effeithiol. Yn wir, dyma gyfrol sylweddol ac eto syml a fydd yn sicr o gyfoethogi profiad a gwybodaeth y cyfrannwr a'r gwrandawr fel ei gilydd. Gwetir yr athro yn Maurice Loader yn amlygu ei hun sy'n benderfynol o ddysgu wrth gyhoeddi. Hyfryd i mi yn bersonol yw'r cyfeiriad yng ngwasanaeth Sul y Beibl at Arthur Evans, Rhydcymerau. Er yn flaenor yng nghapel y Presbyteriaid yn Rhydcymerau, yn Llanybydder bu'n byw am flynyddoedd cyn ei farw. Mynychai'r oedfaon, yr ysgol Sul, a'r cwrdd gweddi yn eglwys Aberduar lle'r oeddwn yn weinidog ar y pryd. Roedd Arthur yn wr na welodd angen cymorth yr un Llawlyfr Gwasanaethau, trwythodd ei hun yng Ngair Duw ac yr oedd ei gyfraniad i waith yr Arglwydd yn adlewyrchu hynny. Gwr a geisiodd adnabod ei galon ei hun ac a aeth i mewn drwy'r porth cyfyng. Coffa da amdano! Ond gan nad ydym ysywaeth yn cynhyrchu cymeriadau o'r ansawdd hwnnw y blynyddoedd hyn y mae arnom ddyled i Maurice Loader am drysor o gyfrol a fydd yn ganllaw diogel i lawer wrth drefnu'r addoliad. Olaf Davies