Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TE DEUM Deangòò qr ggpeR aòòolíaò grzzbp (boeò gn gynalleidfa feckan, un gRcôp defosiwn nea'n gyfaRfod gcoeòòi) TEYRNASIAD DUW I alluogi'r grwp i ymdawelu a chanoli ar y thema, caner yn dawel a myfyrgar, 'Ceisiwch yn gyntaf deyrnas ein Duw' (Atodiad 886; Canwch i'r Arglwydd 173). Arweinydd Gawn ni ymdawelu gerbron Duw a dwyn ein meddyliau, ein dyheadau a'n haddoliad o dan arweiniad ei Ysbryd. (distawrwydd) Gawn ni ofyn i Ysbryd Duw deyrnasu ynom, ein cofleidio, ein llenwi a'n sancteiddo a'i gariad. (distawrwydd) Arweinydd: Y mae dy holl waith yn dy foli, Arglwydd, a'th saint yn dy fendithio: Pawb: Dywedant am ogoniant dy deyrnas a sôn am dy nerth,er mwyn dangos dy weithredoedd nerthol ac ysblander gogoneddus dy deyrnas. Arweinydd: Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas, a saif dy Iywodraeth byth bythoedd: Pawb: Y mae'r Arglwydd yn gyfiawn yn ei holl ffyrdd, ac yn ffyddlon yn ei holl weithredoedd. Arweinydd: Bendigedig yw'r deyrnas sy'n dod, teyrnas ein tad Dafydd: Pawb: Bendigedig fyddo'r Arglwydd, Duw Israel; a bydded yr holl ddaear yn llawn o'i ogoniant. Caner eto'r pennill cyntaf o 'Ceisiwch yn gyntaf. Arweinydd: Gweddiwn. Arglwydd, diolchwn am i ti'n galw i fod yn bobl i ti ac yn ddeiliaid dy deyrnas ar y ddaear; gad i'n calonnau ymateb i'th gariad; defnyddia'n bywydau i dystio i'th drugaredd; cymer ein dwylo i gyflawni dy waith, a thywys ni i rodio yn dy ffyrdd ac i fwynhau dy gwmni. Amen. Darllen: Nid tiriogaeth, na gwlad, na darn o dir ar fap yw teyrnas Dduw, ond yn hytrach ei deyrnasiad ef ym mywydau'r rhai sy'n credu yn ei fab lesu Grist ac sy'n byw yn ôl gofynion ei ddysgeidiaeth. Dysgodd lesu fod teyrnas Dduw wedi cychwyn gyda'i weinidogaeth ef, ond ei bod hefyd i dyfu a dwyn ffrwyth ym mywydau ei ddilynwyr ac yn y byd: Marc 4: 26-32. Y mae angen doethineb a gras i fyw yn deilwng o'r alwad i fod yn ddeiliaid teyrnas Dduw ac y mae Paul yn atgoffa Cristnogion Colosae o hynny yn ei lythyr atynt: Colosiaid 1: 9-14 Emyn: 'Yr lesu a deyrnasa'n grwn. Arweinydd: Gweddiwn Arglwydd sanctaidd, deled dy deyrnas di ynom ni ac yn yr holl greadigaeth. I'r unig a'r trist; y rhai sydd dan faich straen a gofid; y rhai sydd wedi colli pob hyder ac yn methu gweld ffordd ymlaen trwy gors eu hanobaith: Arglwydd y deyrnas Pawb: Deled dy deyrnas a gwneler dy ewyllys. Arweinydd: l'r rhai sy'n rhoi eu holl fryd ar eiddo, arian a llwyddiant; y rhai sy'n anfodlon eu byd ac yn methu canfod boddhad ac ystyr i'w bywyd: Arglwydd y deyrnas Pawb: Deled dy deyrnas a gwneler dy ewyllys. Arweinydd:\r rhai sydd mewn argyfwng enaid, yn teimlo'u ffydd yn darfod, amheuon yn eu blino, eu gafael arnat ti'n llacio a fflam eu cariad yn diffodd: Arglwydd y deyrnas Pawb: Deled dy deyrnas a gwneler dy ewyllys. Arweinydd: l'r rhai sy'n tyfu ym mywyd y deyrnas, yn meithrin ffydd yn eu heneidiau, cariad yn eu perthynas ag eraill, a gobaith yng ngwaith a thystiolaeth dy eglwys: Arglwydd y deyrnas Pawb: Deled dy deyrnasa gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef. Arweinydd: Ac i ti y bo'r gallu a'r gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Elfed ap N. Roberts