Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AGENDA MAES IEUENCTID EISTEDDFOD Y BALA Wedi blynyddoedd o gau Ilygaid i'r ddarpariaeth i bobl ifanc yn y Brifwyl, yn benodol yng nghyd-destun eu gofynion llety ac adloniant, yr oedd llygaid y genedl gyfan yn agored eleni i'r hyn oedd yn digwydd ar y Maes leuenctid. Bu'r cyfryngau yn llygaid i gyd; yr oedd rhieni yn llygady, yn hyderus gobeithio, yr hyn a ddarparwyd; byddai pryder dealladwy yn llygaid eraill rhag i'r cynlluniau fynd i'r gwellt ac yr oedd swyddogion yr Eisteddfod yn cadw llygad ar y Maes, gan mai arbrawf i'w hadolygu yn flynyddol yw'r hyn a baratowyd yn y Bala. Pan fu'r Eisteddfod Genedlaethol yno yn 1967, ddeng-mlynedd-ar-hugain yn ôl, 'doedd y Bala ddim mor 'dirion, deg' o ran ymddygiad pobl ifanc. Fe d'wedwyd hi'n hallt oddi ar y Maen Llog gan Archdderwydd a oedd wedi ei frawychu o weld â'i lygaid ei hun arwyddion o fedd'dod, i raddau na fu'n amlwg i'r un graddau o'r blaen o blith y genhedlaeth iau. Ond ni wnaed unrhyw ymdrech i wynebu y sefyllfa hyd y flwyddyn hon. Bu'r Maes Pebyll o'r golwg ac o hyd braich rhag peri tramgwydd. Ar y Maes hwnnw, fodd bynnag, yr oedd pob math o dramgwydd i iechyd a diogelwch y bobl ifanc eu hunain. 'Doedd dim elfen o reolaeth yn bodoli ar y Maes ei hun ac yr oedd cyrraedd y Maes, berfeddion nos, o ble bynnag y cynhelid y 'gigs', neu o'r tafarnau, yn berygl ychwanegol. Fe gymerodd y Mudiad Efengylaidd gam dewr, ac unig, rai blynyddoedd yn ôl trwy gynnig Iloches ac agor Corlan ar y Maes Pebyll. Gwnaed gwaith ardderchog a di-ddiolch gan rai unigolion eisoes yn y cyfeiriad hwnnw, a hynny bob awr o'r dydd a'r nos. Ond yr oedd prinder adnoddau ac, o'r herwydd, yr oedd terfynau cyfyng i'r hyn y gallent ei gyflawni. Yn y cynllun newydd gosododd yr Eisteddfod adnoddau llawer amgenach i'r Gorlan a bu'r Eisteddfod, yn ei thro, yn ffodus bod yr unigolion profiadol o Gristnogion ifanc yn barod i gymryd y cyfrifoldeb o redeg y Gorlan, oedd eleni yn rhan o Faes leuenctid tra gwahanol ei wedd. Fe ddechreuodd y pwyslais ar yr leuenctid o du'r ieuenctid eu hunain. Fe ddaeth cais i Gyngor yr Ei- steddfod i ystyried gwell amodau i'r ifanc o banel yr leuenctid, un o banelau sefydlog y Brifwyl. Un o brif Gwestai Gwadd R. Alun Evans ystyriaethau y Cyngor yn union cyn hynny oedd gwella amodau i gystadleuwyr o bob oed a ddeuai i'r Eistedd- fod. Cytunwyd ar wella'r cyfleusterau cefn-llwyfan, ar godi'r gwobrau yn sylweddol 0 1998 ymlaen, ac ar well derbyniad mewn rhagbrawf a phrawf terfynol i gystadleuwyr a beirniaid fel ei gilydd. Gan fod hynny wedi ei gyflawni yr oedd y Cyngor bellach yn barod i ystyried cais yr leuenctid. Y maen tramgwydd oedd fod y cais am well amodau yn cynnwys ycbis am far-yfed i werthu diodydd alcoholaidd ar y Maes leuenctid. Nid oedd unrhyw wrthwynebiad i drefnu Maes leuenctid o fewn cyrraedd hwylus i Faes yr Eisteddfod, yn union fel a wneir i'r carafanwyr. Nid oedd gwrthwynebiad ychwaith i'r Maes leuenctid i gynnwys carafanau yn ogystal â phebyll. Byddai hynny yn sicrhau mwy o dawelwch ar y Maes Carafanau yn ei dro, gan fod rhialtwch y dychwelyd o'r canolfannau adloniant yn gallu tarfu ar y carafanwyr. Nid oedd gwrthwynebiad o unrhyw gyfeiriad i'r syniad o godi Pabell Adloniant ar y Maes leuenctid. Gwelid hynny fel cam rhesymol a fyddai'n dileu yr angen i deithio ymhell o'r maes lletya ac, yn ei dro, yn gam at sicrhau diogelwch yr Eisteddfodwyr ifanc. Ond bar yfed Yn amlwg yr oedd yr holl gwestiwn yn gorfodi Cyngor yr Eisteddfod i wynebu realiti y sefyllfa gymdeithasol sydd wedi datblygu yng Nghymru er pan fu'r Eisteddfod yn y Bala o'r blaen. Trwy Bwyllgor Gweithredol (sef Pwyllgor Gwaith y Cyngor), fe wnaed argymhelliad y dylid caniatáu diodydd yn cynnwys alcohol ym Mhabell Adloniant y Maes leuenctid. Bu trafod manwl cyn dod i'r penderfyniad hwnnw, a dylid nodi fod yna aelodau o'r Pwyllgor Gweithredol yn gyfarwydd â gweithio efo pobl ifanc, yn athrawon, darlithwyr, meddygon a rhieni. Trafodwyd y mater ymhellach gan y Cyngor llawn, yn Aberystwyth ac yn Llandeilo, a chafwyd cyfle i wyntyllu y mater eto yng nghyfarfod y Llys (Awdurdod uchaf yr Eisteddfod, gyda'i aelodaeth yn agored i unrhyw danysgrifiwr) yn ei gyfarfod blynyddol yn Llandeilo. Cytunwyd, gyda mwyafrif sylweddol, i fwrw ymlaen â'r cynlluniau gan ddeall y byddai y gair terfynol ar drwydded i werthu diodydd yn fater i ynadon Meirionnydd. parhâd or dudalen 6