Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Swildod yr Anghydff urfwyr ynghylch Symbolau gan Maurice Loader Ym 1948, Dyfnallt a wahoddwyd i annerch mytyrwyr Coleg y Presby, Caerfyrddin a oedd yn ymadael y flwyddyn honno. Beth fyddai gan yr hen weinidog 75 oed i'w ddweud wrth y glaslanciau? Yn rhyfedd iawn, dewisodd sôn am dri o symbolau grymusaf y traddodiad offeiriadol ac uchel-eglwysig, sef goleuni'r ffenestr liw, fflam y gannwyll wêr ac arogldarth y thuser. Ac meddai, gan droi at yr egin bregethwyr: "Er na fydd y symbolau hyn at eich gwasanaeth ym mhensaernïaeth foel y capel, eich tasg chi fydd dwyn y sylwedd y mae'r symbol yn ei gynrychioli ganol bywyd eich pobl: sef amrywiaeth lliwgar diwylliant a dysg; gwres a fflam argyhoeddiad; a chariad aberthol lesu Grist ein Harchoffeiriad mawr. Er ei foelni, 'dyw'r capel Anghydffurfiol ddim yn gwbl amddifad o symbolaeth, serch hynny. Yn wir, gellid dadlau mai ei foelni yw'r symbol grymusaf a fedd. Mae'n rhaid ymweld â Maesyronnen, y capel Anghydffurfiol hynaf a saif heddiw neu ei debyg cyn llawn sylweddoli hyn. Cafodd y moelni pensaerniol hwn amddiffynydd glew ym mherson Anthony Jones o Goleg Celfyddyd Llundain. Mae ei lyfr braf ar gapeli Cymru yn wrthwenwyn i'r sen a'r gwawd a arllwyswyd arnynt gan lawer ac mae'n dda mai pensaer proffesiynol a achubodd eu cam. "Mae'r Anghydffurfwyr," meddai, "yn rhannu'r gred sylfaenol fod y gynulleidfa wedi dod ynghyd i un diben yn unig, sef i addoli trwy wrando ar Air Duw yn cael ei gyfeirio atynt o'r pulpud. Dyma, felly, raison d'êtreyr adeilad, y cnewyllyn nad yw'r capel ond megis cragen helaeth o'i gwmpas." At ei gilydd, plaen a diaddurn yw patrwm y cysegr Anghydffurfiol. Etifeddodd y Tadau Anghydffurfiol yr un petruster a nodweddai'r Brotestaniaeth gynnar ynghylch dwyn delw a llun i mewn i'r addoldy. I'r cwestiwn, "Oni chaniateir darluniau yn yr Eglwysi i weithredu fel llyfrau ar gyfer y lleyg?" rhydd Catechism Heidelberg yr ateb ar ei ben: "Na, oherwydd ni ddylem fod yn ddoethach gerfiedig na'r Duw sy'n gwrthod caniatáu hyfforddi ei bobl trwy gyfrwng delwau". Dyna pam yr oedd delwau'n waharddedig yng ngolwg y Tadau Protestannaidd: am mai dyna a ddysgai'r Ysgrythur. Oni waharddwyd hwynt yn y Dengair Deddf mewn termau digymrodedd: "Na wna iti ddelw gerfiedig" (Exod. 20. 4)? Yr oedd pob ymgais feidrol i ddarlunio Duw dan gondemniad am fod hynny'n gyfystyr â chreu Duw ar lun a delw dyn, a chyfnewid llinyn mesur dyn am linyn mesur Duw. Onid dyna swm a sylwedd y molawd yn Eseia 40 a ddisgrifiwyd gan un fel "y gerdd fwyaf ysblennydd am yr Anghymharol a gyfansoddwyd erioed"? Pwy a fesurodd y dyfroedd yng nghledr ei law a gosod terfyn y nefoedd â'i rychwant? Pwy a roes holl bridd y ddaear mewn mantol a phwysau'r mynyddoedd mewn tafol, a'r bryniau mewn clorian? bwy y cyffelybwch Dduw? Pa lun a dynnwch ohono? Ai delw? Cwestiynau rhethregol yw'r rhain ar wefus y proffwyd. Mae Duw mor annhebyg neb o'i greaduriaid fel na fedrwn ei osod mewn unrhyw gategori dynol, na'i fesur ag un llinyn na'i bwyso mewn un clorian o wneuthuriad dyn. Yn hyn o beth 'roedd greddf meibion Israel gynt yn agos iawn i'w lle. Ond aeth y Testament Newydd un cam sylweddol ymhellach gan ymwrthod â phob delw nid am fod delw'n annigonol, ond am ei bod yn afraid. Oherwydd cafwyd ym Mherson yr Arglwydd lesu Grist y ddelw ddiffiniol o Dduw: "Hwn yw delw'r Duw anweledig" (Col. 1. 15); "ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn trigo'n gorfforol" (2. 9). Am fod "stamp a sylwedd Duw" (Hebreaid 1. 3) i'w canfod ym Mherson Mab Duw ei hun, y mae pob ymgais o eiddo meidrolion i lunio delw nid yn unig yn annigonol ond hefyd yn afraid. A byddai ymgrymu gerbron delw o areadiaaeth dyn yn gabledd.