Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wna ddelw gerfiedig Mae hyn oll yn codi cwestiwn addolwr. A chaniatáu bod delw o Dduw a luniwyd gan feidrolion yn waharddedig, a yw pob defnydd o symbolaeth hefyd yn waharddedig wrth addoli? Go brin, er bod Anghydffurfwyr wedi bod yn gyndyn iawn gydnabod hynny, gan ymwrthod hyd yn oed â symbolaeth Croes yn ein haddoldai yn fynych (ond nid yn ddieithriad). Ac eto, er pob swildod ynghylch llunio delw a darlun ni chafodd Anghydffurfwyr unrhyw anhawster wrth bortreadu, a darlunio a delweddu mewn pregeth ac emyn. "Fel Cymry," meddai Edwin Price Jones, "nid oes gennym draddodiad artistig o bortreadu wyneb Crist ond y mae'r emynwyr wedi gwneud fyny am hynny." Clywais Anghydffurfwyr yn rhyfeddu at gelfyddyd Michelangelo a'i gampwaith wrth beintio ffrescoau Capel y Pab Sixtus yn Rhufain. Darllenais gyfeiriad edmygus gan Anghydffurfiwr at eiconau'r Eglwys Uniongred sydd "megis ffenestri'n agor gyfeiriad y dwyfol". Cyfaddefaf minnau hefyd sefyll yn syfrdan wrth ryfeddu at arddull baróc a rococo ambell Eglwys Babyddol ar gyfandir Ewrob a oedd yn ddigon fynd a'm hanadl. Ond pa fath o Philistiaeth yw hon sy'n caniatáu Anghydffurfwyr edmygu'rfath gelfyddyd mewn traddodiad eglwysig estron a'r un pryd wahardd pob awgrym o ddarlun a cherflun o fewn ein traddodiad ni ein hunain? parhad o Agenda tud 3 Dyfarnodd yr ynadon o blaid caniatáu cynllun yr Ei- steddfod gan osod amodau clir ynglýn â'r drwydded. Sefydlwyd Pwyllgor Rheoli y Maes leuenctid, gynnwys swyddogion yr Eisteddfod ac asiantaethau eraill fel Cymdeithas yr laith Gymraeg (fu'n gyfrifol am y Babell Adloniant), Triban Penílyn (fu'n gyfrifol am redeg y bar), y Gorlan yn ogystal â'r gwasanaethau tân, ambiwlans, heddlu ac ymgynghorwyr iechyd. Cafwyd trafodaethau manwl ar bob agwedd posibl o'r Maes leuenctid gyda'r pwyslais ar sicrhau y byddai y bobl ifanc a ddeuai i'r Bala yn sylweddoli fod yr Eisteddfod yn falch eu bod nhw yno, ac am greu amodau tecach iddynt fwynhau holl agweddau y Brifwyl gan gynnwys Maes yr Eistedd- fod ei hun, ei bebyll, ei gornel chwaraeon, ei Iwyfan a'i urddas a'i hwyl. Os mai'r Babell Adloniant fyddai'r dewis gyda'r hwyr, ac nid oedd na bar nac arall yno hyd saith y nos, yna fe fyddai'r adloniant o'r raddfa uchaf. Lleolwyd y bar oddi allan i'r neuadd adloniant ei hun. Diodydd ysgafn, ac am brisiau rhesymol, yn unig a gynigid yno. Cynlluniwyd gwarchodaeth gyfrifol ar y twnel yn arwain i'r bar, geisio sicrhau na fyddai neb o dan oedran yn mynd yno. Ni chaniatawyd gario diodydd alcoholaidd o'r tu allan mewn unrhyw ran o'r Maes leuenctid. Beth, tybed, fyddai ymateb y Maes Carafanau reol debyg yn y fan honno? Y mae yna gost ychwanegol i'r Eisteddfod ddarparu fel y gwnaed yn y Bala, ond y mae'r gost hefyd, yn ei dro, yn fuddsoddiad mewn cenhedlaeth o fechgyn a merched a fydd, yn y mileniwm nesaf, yn ystyried eu cyfrifoldeb fel Cymry fod yn dewis rhoi ysgwydd dan y baich o gynnal y Brifwyl yn Llanelli, yn Ninbych, yn Nhy Ddewi, ym Maldwyn ac ym mha Ie bynnag y cynhelir yr Eisteddfod ymlaen i'r dyfodol. Pa dystiolaeth ar ymarferoldeb y cyfan y byddech chi yn dymuno i'r Cyngor ei ystyried ar ôl profiad y flwyddyn gyntaf? Oallat dderbyn tod pob ymgais lunio delw o Uduw yn afraid i'r Cristion, ac y mae ymgrymu gerbron delw o'r fath yn wrthun minnau. Ond go brin bod hynny'n gyfystyr â chau allan yn llwyr o'n haddoliad bob defnydd o symbolaeth. Yn wir, mae'n deg cofio bod rhai o wirioneddau mwya'r Ffydd wedi eu cyfryngu ninnau, Anghydffurfwyr, yn rhannol trwy'r llygad, megis yn symbolaeth y bara a'r gwin yn ordimhad y Cymundeb, a thrwy symbolaeth y dwr yn y Bedydd. Sylwais hefyd fod ambell Anghydffurfiwr mor ddiedifar a'r diweddar Ifor Parry yn gallu cael maeth i'w enaid yn y symbolaeth bensaernïol sy'n perthyn draddodiad eglwysig arall. Dyma fel yr adroddodd ei brofiad wrth syllu ar y cerflun o'r Crist yn ei Fawrhydi yng Nghadeirlan Llandaf: yr argraff ar un ymwelydd o leiaf oedd bod y cerflun yn rhy fawr i'r adeilad. Hwyrach mai dyna'r neges yr oedd Epstein am ei chyfleu, bod y Crist yn llawer mwy nag unrhyw Eglwys ac unrhyw addoldy. Rhaid oedd cymryd cam tuag yn ôl, gael golwg lawnach arno Ac yn ôl eto, wysg ein cefn, nes cael ein hunain oddi allan wrth y drws agored". Ac meddai'r ymwelydd, yn gynnil, "Hwyrach bod neges yn hyn hefyd". Cynigir y Coleg y cyrsiau canlynol: в BA: Astudiaethau Crefydd; Astudiaethau Theatr; Cymraeg; Hanes; Saesneg в BA Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau в BSc: Gwarchod Treftadaeth (Archaeoleg); lechyd a'r Amgylchfyd; Systemau Gwybodaeth a Thechnolegau; Yr Amgylchfyd Gwledig в BA Addysg: Dewis o brif bwnc в Tystysgrif Addysg i Raddedigion: Cynradd; Uwchradd Astudiaethau Crefydd в Graddau Uwch: MPhil/PhD; MTh; MA, gan gynnwys: MPhil/PhD Diwinyddiaeth Ymarferol ac Addysg Grefyddol; MTh mewn Addysg Grefyddol neu Addysg Ysgol Eglwysig; MA Ysgrifennu Creadigol Cysylltwch â'r Cofrestrydd am fanylion Ffôn: 01267 676767 Elusen Gofrestredig 525786 Yn Darparu Addysg Uwch o Safon yng Nghymru