Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae'r wraig wâdd sydd wedi dod i agor ein cynhadledd yn meddu'r ddawn dynnu sylw pawb yn yr ystafell. Mae hi o bryd golau ac yn dlws, mae hi'n feinach ac yn dalach nag o'i gweld mewn lluniau, ac mae ei llais yn alto dwfn a chynnes. Mae hi'n amlwg yn mwynhau cwrdd â phobl, yn ddiymhongar, yn hawdd ei gwên, yn hyderus ac yn feistrolgar wrth gyflwyno sgwrs gryno a gobeithiol. "On'd yw hi'n wych!" meddai'r gwragedd. "Rwy mewn cariad eto!" ocheneidia'r Sais o ddiwinydd y tu cefn mi Pwy? Mary Robinson, Arlywydd yr Iwerddon. Ac erbyn chwi ddarllen y geiriau hyn fydd hi ddim yn Arlywydd mwyach, a bydd Iwerddon wedi dechrau ar y trefniadau am ethol Arlywydd newydd. Oherwydd mae Mary Robinson gymryd cyfrifoldeb am y Comisiwn Hawliau Dynol yn y Cenhedloedd Unedig. Efallai mai dim ond Mary Robinson fuasai wedi dod o hyd i'r amser i groesawu'n swyddogol cynhadledd o ddiwinyddion a chenhadon. "Patrymau cenhadu yn y Mileniwm newydd Columba neu Awstin?"oedd testun y gynhadledd a ddenodd ei sylw. Cymdeithas gymharol newydd yw'r Gymdeithas Brydeinig a Gwyddelig dros Astudiaethau Cenhadol (BIAMS) ac roedd cryn bleser fod rhyw drigain wedi dod ynghyd. Arbennig o ddifyr oedd disgrifiad Mary Robinson o'r ffordd yr oedd Columba'n cael ei ddefnyddio gan ei mam gadw trefn yn y teulu. Yr oedd ar yr aelwyd bedwar o fechgyn, a Mary yn y canol. Mewn sefyllfa felly meddai, beth allai hi ei wneud ond brwydro! A phan fyddai pethau ar eu poethaf byddai ei mam yn adrodd yr hanes am Columba. Bu cweryl ynglŷn â pherchnogaeth llawysgrif y bu Columba yn ei chopïo a gwrthododd roi'r gwaith yn ôl i'r perchennog gwreiddiol. Digiodd yn fawr. Yn ôl yr hanes fel arwydd o'i edifeirwch aeth i fyw yn alltud lona. Y wers oedd fod meithrin gwrthdaro yn arwain at alltudiaeth oddi cartref. Onid trawiadol, yn ein hoes ni, yw clywed rhywun yn anwylo cefndir lle yr oedd buchedd y sant yn cael ei defnyddio fel offeryn disgyblaeth? Cawsai Mary Robinson hefyd y cyfle i ymweld ag lona ac â chanolfan newydd yn ynys Mull lle'r oedd arddangosfa newydd a hynod am Columba a'i bwysigrwydd. Ac heb fentro sôn am fanylion polisi yn ei swydd newydd, amlinellodd rhai egwyddorion y byddai hi'n eu cario gyda hi i'r Cenhedloedd Unedig. Yr oeddem newydd weld rhwysg ymadawiad y Saeson o Hong Kong, un o ganolfannau pennaf y gyfalafiaeth ryngwladol ac fe garai hithau ddwyn tystiolaeth i ffordd o fyw symlach a llai rhwysgfawr. Yr ail oedd parch at y greadigaeth ac o fyd natur fel creadigaeth Duw a ninnau'n gyfrifol amdano. Y trydydd fyddai pwysigrwydd cyfraniad yr ymylon. Mae Mary Robinson yn gallu siarad dros genedl fach gyda chyfuniad o raslonrwydd a chryfder, gydag urddas nag yw'n swnio'n drahaus nac yn gwynfanllyd. Yr un noson yr oedd ysgolhaig Gwyddelig Dr Michael McCraith yn gwrtais amau rhai o gasgliadau'r Arlywydd. Ni thybiai ef fod Columba yn perthyn i'r encilion, yr oedd yn hytrach yn uchelwr a chwaraeai ei ran mewn trafodaethau rhwng brenhinoedd. Gyda thrylwyredd ysgolheigaidd fe ymosododd yn ddi-dostur ar ffug Gelteiddrwydd cynnyrch pobl ofergoelus a rhagfarnllyd. Nododd hefyd ei bod yn gamsyniad i honni fod y saint Celtaidd yn "genhadon". Yng nghyd- destun teuluaidd agos y byd Gwyddelig yr aberth mwyaf oedd ymwahanu oddi wrth y llwyth. Felly yr oedd mynd ar bererindod, peregrinatio, yn aberth ac yn hunanymwadiad yn hytrach nag yn genhadaeth. Yr oedd byw mewn sancteiddrwydd a symledd addoli Duw yn dystiolaeth Grist Yr oedd y dystiolaeth honno yn anfwriadol yn genhadaeth. Ond wedi dymchwel y rhamantiaeth am Columba mynnai Michael McCraith fod yna wersi pwysig ni gan Columba parch at ddysg, parch at y cread, ac at waith creadigol yr artist a'r bardd. Tra gwahanol wrth gwrs oedd bwriad y Pab Gregory wrth anfon Awstin, yn erbyn ei ewyllys, bellter yr ymerodraeth geisio sicrhau strategaeth bellgyrhaeddol a sicrhau cynnwys y Celtiaid yn undod strwythur Catholig yr eglwys. Fore trannoeth yr oedd darlith gan Dr Adrian Hast- ings. Nid aeth ef ati i ddadlau nad dewis rhwng dau unigolyn oedd yma, ond ystyriaeth o ddau fudiad a fu'n gyfrifol am ledu'rffydd Gristnogol yn ynysoedd Prydain ac Iwerddon.