Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ddiwedd mis Mai daeth y newyddion am fethiant ARC 2 igael ei hariannu. ARC 2 oedd y sianel deledu grefyddol Seisnig/Prydeinig gyntaf gael ei sefydlu a hynny mewn ymateb i'r cynydd aruthrol mewn sianelau teledu drwy cebl a lloeren Y mae hyn yn awgrymu mai cwmnïau teledu crefyddol Americanaidd fydd yn ennill lle ýn y 'Chwyldro Teledu' yr ydym yn ei ganol. Hanfod y chwyldro yw: dewis. Nid dwy neu bedair sianel fydd y dewis bellach, ond, yn llythrennol, cannoedd. Rhyw fis yn ddiweddarach yr oedd S4C yn cyhoeddi pa gwmnïau annibynnol oedd wedi ennill cytundebau wrth S4C fynd yn 'ddigidol' ac y mae 'digidol' yn golygu y bydd S4C yn un yng nghanol IIu o sianelau eraill. Fe fydd mwy o raglenni Cymraeg, ond fe fydd hefyd fwy o gystadleuaeth ac er bod Huw Jones, S4C wedi ceisio ein hargyhoeddi na fydd safon rhaglenni yn gostwng, y perygl yw fod llai o arian greu mwy o raglenni yn siwr o beryglu safonau. Y mae TAC mewn ymateb chwyrn i'r cytundebau yn poeni yn fawr am safonau. Yn ystod yr un cyfnod daeth y newyddion fod y cawr cyfryngol United news and Media (perchnogion Teledu Anglia a Meridian, yn ogystal â'r Daily Express a Daily Star !!) wedi Ilyncu HTV. Mewn geiriau eraill, mae'r cwmni annibynnol mwyaf oedd â chysylltiad clos â Chymru er i'r cwmni weld cyfnodau anodd wedi mynd ymhellach oddi wrthym. Mae'r addewidion tymor byr gan United Media yn siwr o fod yn ddigon cywir, ond mae'r tymor hir yn llawn ansicrwydd. Llyfr Agored Rhaid gofyn beth yw oblygiadau hyn i gyd ddarllenwyr Cristion? I geisio ateb y cwestiwn mae'n werth nodi fod yna 'raglen' mileniwm arbennig yn cael ei chyflwyno i'r eglwysi (drwy Cymdeithas y Beibl a Chyngor Eglwysi Prydain ac Iwerddon CCBI) eleni gyda'r teitl Open Book'. (Y mae Cytûn wedi cytuno fod yn rhan o'r rhaglen) Nod y rhaglen yw gwneud y Ffydd Gristnogol a'r Beibl yn arbennig yn 'gyhoeddus' eto ac wneud hynny drwy gyflwyno amddiffyniad (apologetics) o'r ffydd ym myd addysg, cyfryngau, diwylliant, Bam ar vj Bocs Pryderi Llwyd Jones celfyddydau a gwleidyddiaeth. Oherwydd fod y ffydd Gristnogol wedi mynd gyrion, os nad o'r golwg, yn y bywyd 'cyhoeddus', y mae'r Open Bookyn ystyried fod angen adfer y gwirionedd Beiblaidd nad eiddo 'personol', 'unigolyddol' a 'phreifat' yw Cristnogaeth: mae'r Beibl yn Air i bawb ac i'r 'byd', nid yn unig i'r eglwys. Nid ymgyrch 'efengylu', yn ystyr gyfyng y gair, yw Open Book. Nid ymdrech i wneud Cristnogaeth yn fwy 'sefydliadol' chwaith bellach mae hyd yn oed Eglwys Loegr yn dechrau ystyried 'datgysylltu' o ddifrif. Ymdrech a symudiad yw adfer y Ffydd Gristnogol ganol bywyd cyhoeddus a chenedlaethol. Be' nesa? Fe hoffwn wneud rhai sylwadau ar sefyllfa teledu yng Nghymru yng ngoleuni yr Open Book. a) Mae dyfodiad sianel(i) grefyddol loerenol Amercanaidd yn hunllef. Yr oedd ARC 2 o leiaf yn ceisio creu sianel fyddai yn 'edrych ar y byd' drwy berspectif Cristnogol a hyn drwy amrywiaeth o raglenni ac nid rhaglenni 'crefyddol' yn unig. Nid sianel 'efengylu' oedd hi: Mae'r syniad o sianel a fydd wedi ei hanelu yn llwyr at Gristnogion, a Christnogion yn ceisio perswadio rhai eraill edrych arni er mwyn iddynt gael 'iachawdwriaeth' yn ddychryn. 'Nid cynulleidfa, ond marchnad', meddai Andrew Walker, sydd hefyd yn ein hatgoffa fod Neil Postman (awdur Amusing Ourselyes to DeafhJ yn meiddio cyfeirio at deledu Americanaidd fel pornog- raphy, gospel preaching and soaps. in a series of hypnotic and disconnected images" Mae'n wir fod Postman yn adweithio yn eithafol i'r gwaethaf yn yr wythdegau ond fe fyddai sianeli teledu crefyddol yn ynysu'r ffydd 'o'r bywyd cyhoeddus' i griw bychan gyda gweledigaeth gyfyng fyddai'n ceisio gwerthu'r Efengyl. Gwaeth hyd yn oed na hynny fyddai clywed sianeli eraill yn dweud 'Mae ganddyn nhw eu sianel eu hunain' Fe fyddai ynysu o'r fath yndrychineb. b) ryw raddau y mae'r 'ynysu' wedi digwydd yn