Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

barod ar S4C a'r BBC a HTV Hen, hen gwyn bellach yw prinder rhaglenni crefyddol a does dim angen dilyn yr hen sgwarnog yna. (Ond mae'n ffaith mae'r BBC wedi canoli crefydd ym Manceinion erbyn hyn, a does yna ddim adran 'crefydd' gan S4C.) Mae pob math o resymau am hyn rhaglenni ddim yn apelio, ac yn bendant nid ar yr oriau brig; Cristnogion yn leiafrif gwan erbyn hyn; y cwmniau teledu gorau a diddordeb ym mhob peth ond rhaglenni crefyddol Nid beirniadaeth yw hyn, ond ffaith. Os yw teledu yn adlewyrchu'r cyfnod yna does dim disgwyl llawer ac y mae'n rhaid bod yn ddiolchgar am y tamed o 'God-slot', sydd efallai yn adlewyrchiad ddigon teg o gyflwr crefydd yng Nghymru. Mae teledu yn adlewyrchu'r gymdeithas. c) Mae'r Ffydd Gristnogol a chrefydd mewn perygl o ddod yn bwnc achlysurol i raglenni dogfen. Fe roddodd HTV chwe (ia/6) rhaglen ar ddechrau 96 ('On a wing and a prayer; edrych ar yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Fe fu rhaglen 'Plant Mari' am Gatholigaeth ar S4C ym mis Ebrill. Fe aeth cwmni Elidir ar ôl y paranormal a'r ymylol (?) yn y gyfres Tu hwnt i'r deall'. Ac y mae cyfres 'fawr a phwysig' ac addawol ar fin dechrau ar S4C. Chwe rhaglen 50 munud fydd 'Rhwng Duw a Dyn' fiydd hefyd yn cael eu darlledu yn Saesneg 'Saints and Sinners') a ffrwyth blynyddoedd o gyd-weithio rhwng Opus (i S4C), RTE (Iwerddon) a La Cinquieme (Ffrainc). Er mai cyfres am y Babaeth ydyw, mae'r cwmnïau yn addo ei bod yn fwy na hynny gan ei bod yn rhoi cip olwg o hanes yr eglwys hefyd. Y mae Merfyn Williams ac Amanda Rees (Anglicanwr ac Annibynwraig) yn gyffrous iawn ynglýn â'r gyfres. Y mae cydweithio fel hyn ar raglenni swmpus wedi bod yn un o gryfderau S4C ac fe fydd yna gynulleidfa gyfyngedig yn gwylio'n eiddgar. Mae'n rhaid canmol S4C am fynd i'r afael a phwnc mor fawr a maes mor bwysig.Mewn termau ariannol y mae'n fuddsoddiad sylweddol iawn, ond mewn termau rhaglenni, fe fydd, efallai'n, cael ei ystyried yn ddigon am weddill y flwyddyn. Chwyldro'r teledu digidol Ond ch) Ond nid yw'n ddigon: a dyma ple mae'n rhaid i'r Eglwys bwyso ac ymgyrchu dros ffydd 'gyhoeddus'. Mae gwahaniaeth rhwng crefydd fel dogfen a'r Ffydd Gristnogol fel sylfaen a sylwedd ein gwareiddiad a'n diwylliant a'n bywyd. Os yw S4C yn Gymraeg a Chymreig yna mae'n rhaid iddi roi lle amlwg i'r Ffydd Gristnogol, er bod honno yn ymddangos yn 'lleiafrifol' bellach. Y gwir yw ei bod yn llawer mwy na'r nifer fechan sydd yn ymwneud yn 'eglwysig' a'r ffydd honno. Mae'n fwy nag ystadegau eglwysig. Mae iddi hi cymaint ran a lle yn y cyfnod ô 1-fodernaidd ag unrhyw agwedd o'n bywyd cenedlaethol. Y mae'n rhan o'r mudiad mwyaf dynamig a lliwgar yn y byd. Dyna pam fod S4C yn methu yn sylfaenol wrth beidio gwneud y ffydd Gristnogol yn elfen llawer mwy cyson ac amlwg feddylfryd y sianel. Does hyd yn oed ddim rhaglen gylchgrawn grefyddol bellach, ac achlysurol yw addoli a thrafod bywiog, heb sôn am ddychymyg byw ac argyhoeddiad dwfn. Llugoer yw'r gair! Yn y newidiadau digidol y mae S4C mewn sefyllfa ardderchog roi llawer mwy o sylw Gristnogaeth. Mwy o oriau? I be? Yr oedd y Beibl wedi ei animeiddio yn ddatblygiad cyffrous ac arwyddocaol iawn S4C, ac nid yw wedi cael hanner digon o sylw na chlod. Ond mewn termau rhaglenni a chynllunio, awyrgylch ac ethos sianel mae'n rhaid gofyn: animeiddio be ? Ac i bwy? Y CYLCH CATHOLIG ENCIL BENWYTHNOS PANTASAFF HYDREF 17 19 dan arweiniad Y TAD DORIAN LLYWELYN Profiad i'r sawl sydd wedi ystyried mynd ar encil ond nad yw erioed wedi cael amser na hyder Ar ffurf sgyrsiau, litwrgi a chyfnodau o lonyddwch bydd y penwythnos, a phe dymunir, ceir cyfle i gael sgyrsiau preifat a'r Tad Dorian. Er mai yn ol y drefn Gatholig y dethlir y litwrgiau, bydd yr encil hon yn ogystal yn addas i bobl o draddodiadau Cristnogol eraill. Cost: £ 50 (i gynnwys pob dim) Cysylltera: Sue Roberts 01758 614977