Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFATH REBU Y mae'n air gweddol ddiweddar ond yn weithgaredd sydd gyfoed â'r ddynoliaeth. Fe gynnwys pob math c gyfathrach rhwng bodau dynol o'r amneidio mwyai cyntefig i'rcyflwyno syniadau mwyaf aruchel. Gwyddom y gall anifeiliaid gyfathrebu â'i gilydd, ond bodau dynol yn unig sydd â'r gallu ddefnyddio geiriau ac drin syniadau. Fe ddywedwyd cyn hyn mai hynny yw cyfrinach datblygiad a mawredd y ddynoliaeth. Un o brif swyddogaethau'r Eglwys yw cyfathrebu. Credwn mai'r Efengyl yw'r gwinronedd terfynol am ein byd ac mai Iesu Grist yw Arglwydd a Gwaredwr y ddynoliaeth gyfan. Gosodwyd rheídrwydd arnom gyhoeddir newyddionda amdanoac icjeisio ennill pawb gredu ynddo. Nid yw'n ormodedd dweud mai cyfathrebu'r Efengyl yw cenhadu. Gwyddom fod dulliou a ffurfiau cyfathre bu yn datblygu ac yn newid o oes i oes, Nid yw dyn ddiwedd yr ugeinfed ganrif yn cyfathrebu yn yr un modd àdyny ganrif gyntaf. Nid yw papurau newydd heddiw yn yr un bydysawd â rhai ddechrau'r ganrif. Ynein canrifni gwelwyd dim llai na chwyldro cyfathrebu gydag amrywiaeth syfrdanol o gyfryngau cyfathrebu ar gael erbyn hyn. Nid oes gan unrhyw gorff, boed yn fusnes, yn blaid wleidyddol neu'n eglwys, ddewis ond defnyddio'rdulliau cyfathrebu sydd ar gael. Os yw am werthu ei nwyddau neu gyflwyno ei neges gorfodir hi i droi at ddulliau cyfathrebu'r oes. Cymharer ymgyrchoedd y pleidiau gwleidyddol yn yr ethotiad diwethaf gydag ymgyrchoedd genhedlaeth yn ôl. Ni ddylai'r Eglwys feddwl y gellir ei heithrio rhag ymddwyn yn yr un modd â phob sefydliad dynol. Os yw am genhadu yn effeithiol y mae'n rhaid iddi ddefnyddio dulliau cyfathrebu y cyfnod. Y mae lle amau a yw eglwysi yn gyffredinol, a rhai Cymru'n arbennig, yn llawn sylweddoli hyn. Oes y gweledol yw'n un ni, gyda ffilm, Ilun a symbol yn holl bwysig ond ar y cyfan cwbl ymylol yw'r cyfryngau hyn yn ein bywyd eglwysig or wahân i'r gwaith clodwiw a wneir gyda phlant mewn amryw o eglwysi. Faint o wahaniaeth sydd rhwng ein haddoliad heddiw ac addoliad canrif yn òl? A ydym wedi cymryd unrhyw sylw o gwbl o'r newid yn y modd y mae pobl yn ein dyddiau ni yn meddwl, yn ymdeimlo ac yn canfod gwirioneddau ? Y mae'r pwyslais parhaus a roddir ar bregethu yn arwydd o'r un agwedd meddwl. Nid oes amheuaeth na chafwyd pregethu grymus ac effeithiol O GADAIR Y GOLYGYDD yng Nghymru am ddwy ganrif ond a yw cael un gwr draethu'n eiriol am ugain munud a rhagor yn gyfathrebu effeithiol mewn oes sy'n rhoddi'r pwyslais ar y byr, y bachog a'r cryno? Tybed a fyddai cenhadwr mwya'r byd, yr Apostol Paul, wedi bodloni ar 'bregethu' pe bai ein dulliau ni o gyfathrebu ar gael iddo? Y mae mawr angen bawb sydd yn aelod eglwysig yng Nghymru heddiw, ac yn enwedig y rhai sydd yn gyfrifol am ein haddoliod a'n gwaith addysgol ystyried a yw eu dulliau о gyfathrebu'n effeithiol. SWYDDOGAETH CRISTION' Honnwyd gan un o arweinwyr yr Eglwys Fethodistaiddyn Lioegr yn ddiweddar nad yw aelodau eglwysig yn darllen mwyach. N fydd clywed hynny'n newydd syfrdanol i'r rhan fwyaf ohonom. Ond eto, diolch am hynny, mae cnewyllyn sy'n parhau brynu'r papurau enwadoi ac ddarllen cylchgronau crefyddol Cymraeg a Saesneg. Y mae darltenwyr Cristion yn y dosbarth hwn a diolch amdanoch. Credwn fod rheidrwydd ddarparu deunydd rqisy'n ymdeimlo ô'n hargyfwng crefyddol ac sydd eisiau gweld trafod hânfodion ac oblygiodau ein ffydd. Ond y mae angen gwneud hynny mewn ffordd fydd yn ddeniadol o ran diwyg ac yn gyfoes a pharthnasol o ran cynnwys. Gobeithiwn wahodd cyfranwyr fydd mewn gwahanol ffyrdd yn medrucyflwyno neges dragwyddol yr Efengyl mewn iaith ac, yn bwysicach o lawer na hynny, mewn cysyniadau fydd yn ddealladwy i rai sy'n wynebu ar fileniwm newydd. Hoffem gredu bod rhai yng Nghymru o hyd a all godi uwchtaw'r mynegiadau traddodiadol o'n ffydd gan gyflwyno ei mêr mewn ffordd sy'n ystyrlon i'n dyddiau ni. GAIR O DDIOLCH Ni fyddai'n briodol i'r rhifyn hwn ymddangos heb ein bod yn mynegi gwerthfawrogiad diffuant iawn i'r cyn-olygydd, y Parch Ddr. Densil Morgan, am ei olygyddiaeth alluog a gofalus. Bu graen eithriadol ar Cristion dan ei ofal. Llwyddodd ddenu amrywiaeth o ysgrifau a'n goleuodd a'n hysgogi ond, yn llawer pwysicach, a ddyfnhaodd ein ffydd yn Efengyl yr Arglwydd lesu Grist. Costiodd y gwaith yn ddrud mewn ymdrech ac amser iddo. Gwnaeth gyfraniad nodedig eisoes i fywyd crefyddol ein cenedl yn Ilafar ac yn ysgrifenedig a gwyddom fod ganddo lawer iawn i'w gyfrannu eto. Aiff yn awr o'i 'gadair' i'w ddesg ac edrychwn ymlaen at elwa llawer trwy ei feddwi miniog a'i ffydd gadarn yn y dyfodol.