Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

7. Chi yw Ysgrifennydd Cyffredinol ENFYS. A wnewch chi ddweud wrthym ni pwy a beth yw ENFYS? ENFYS yw enw newydd y Cyfamod yng Nghymru neu i ddefnyddio'r ffurf gywir, "Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol". Penderfynwyd ar ENFYS am mai hwn oedd y symbol amlwg ar gyfer Cyfamod ers amser Noa! Fe drafodwyd y ffurf sy'n fwy cyfarwydd yng Ngheredigion, o ble rwy'n dod, sef Bwa'r Arch. Ond llawn cystal hwyrach mai ENFYS gariodd y dydd yn wyneb yr anawsterau a gaiff y Saeson wrth ynganu Cytûn! Dechreuodd y Cyfamod yn 1975 pan gafwyd cytundeb rhwng y Presbyteriaid, y Wesleaid, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig yng Nghymru a'r Eglwys yng Nghymru i ymgeisio am undod gweladwy. Ddwy flynedd wedyn, ymunodd rhyw ddwsin o eglwysi sy'n perthyn i Undeb Bedyddwyr Prydain â'r bartneriaeth i wneud pump. Yn ei hanfod, uno Eglwys a Chapel yw'r pwrpas. 2. Beth yw'r prif faterion rydych yn eu trafod ac yn eu gwneud y dyddiau hyn ? Y prif faterion sylfaenol mewn unrhyw broject tuag at undod yw'r tri hyn: Bedydd, Cymun a Gweinidogaeth. Mae'n ddiddorol fod yr Eglwysi Cyfamodol wedi dechrau drwy ystyried y Cymun. Yn y cyswllt hwn, cafwyd datblygiad arwyddocaol yn 1986 gyda ffurf ar wasanaeth a awdurdodwyd i'w defnyddio gan bob un o eglwysi'r bartneriaeth. Mae wedi bod yn boblogaidd iawn ers hynny, a bu'n rhaid ail-argraffu nifer o weithiau a'i gynhyrchu fel taflen hefyd. Pan gaiff ei ddefnyddio'n gyd- enwadol, bydd gweinidogion y partneriaid i gyd yn llywyddu gyda'i gilydd. Ac, wrth gwrs, mae wedi ei ddefnyddio mewn gwasanaethau unedig lle ceir cyfuniad o enwadau sy'n fwy eang na'r cyfamod. Ar ôl y Cymun, fe drodd yr Eglwysi Cyfamodol at Fedydd, ac mae'r prif gwestiynau yma yn ymwneud ag aelodaeth a pherthyn a symud. Mae wedi bod yn fater sensitif o hyd aelodau'r Eglwysi Rhyddion wrth ymgartrefu mewn Eglwysi Anglicanaidd y gellir gofyn iddynt gael eu Conffyrmio gan esgob. O ganlyniad i'r gwaith a wnaed gan yr Eglwysi Cyfamodol yn y cyswllt hwn, mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru wedi cytuno fod angen rhyw ddull groesawu Cristnogion sydd wedi newid enwad, mewn ffordd nad yw'n amau dilysrwydd eu profiad blaenorol, fel byddai mynnu conffyrmasiwn esgobol yn gwneud, mae'n amlwg. Dyna wedd ddiwinyddol ENFYS, ac mae'n bwysig i gael cytundeb ar hynny. Ond ecwmeniaeth leol yw fy niddordeb neilltuol i, ac felly rhoddwyd croeso mawr i ddeddfwriaeth 1991 yr Eglwys yng Nghymru yn y maes hwn. Mae'n caniatáu i weinidogion yr Eglwysi Rhyddion mewn Projectau Ecwmenaidd Lleol i lywyddu mewn Cymun bawb gan gynnwys Anglicaniaid. Cethin Abraham Williams gydag Esgob Tŷ Ddewi a Cardinal Cassidy yng Nghaerdydd, Mai '97 3. Clywsom yn ddiweddar am y posibilrwydd 0 gaelesgob Cyfamodol. A wnewch chi egluro'r cynllun i ni? Esgob Ecwmenaidd yn hytrach na Chyfamodol yw'r enw a ddefnyddir gennyn ni. Os edrychwch chi ar Eglwysi Unedig sy'n cynnwys Anglicaniaid a'r Eglwysi Rhyddion mewn rhannau eraill yn y byd, fel De'r India, sydd eleni'n dathlu hanner canrif o undod, mae ganddyn nhw gyd esgobion. Fedrwn ni ddim gweld y gall hi fod yn wahanol ni yng Nghymru. Mae'r cynnig presennol yn ffordd ni gael ymgyfarwyddo a chael un esgob yn gyffredin, wrth barhau o hyd fel enwadau ar wahân, er mewn Cyfamod. Fe fyddai'n arbrawf, i'w adolygu ar ôl pedair blynedd, a byddai wedi ei gyfyngu un ardal arbennig o gwmpas Dwyrain Caerdydd. Os ceir cytundeb, fe allai'r esgob ddod o unrhyw un o'r traddodiadau. 4. Mae rhai eglwysi Bedyddiedig yn y Cyfamod onid oes? A ydych rhywfaint yn nes at bontio'r gwahaniaethau rhwng y ddau draddodiad? Er bod eu nifer yn fach, does dim dwywaith fod Eglwysi Cyfamodol Undeb Bedyddwyr Prydain wedi cyfrannu at y broses gyfamodi y tu hwnt i fesur eu maint. O ran yr enwad yn gyfan, credaf eu bod hefyd wedi helpu gadw drws ecwmeniaeth ar agor os nad yn agored led y pen yng Nghymru. Ac fel Bedyddiwr, yn naturiol rwy'n falch iawn o hynny. Yn sicr mae Bedyddwyr Prydain yn gyffredinol yn teimlo'n fwy cartrefol ynghylch y cyfryngau ecwmenaidd nag y gellid fod wedi dychmygu saith mlynedd yn ôl. Fodd bynnag, rwy'n amau a fydd y Bedyddwyr Cyfamodol yn cael eu hystyried gan weddill yr enwad fel dim byd ond carfan leiafrifol. 5. A yw gweddill y byd yn gwybod unrhyw beth am ENFYS? Un peth sy'n fy synnu yn fy ngweinidogaeth bresennol yw gymaint y bydd pobl mewn gwahanol rannau o'r byd yn gwybod am ENFYS a'rhyn y mae'n