Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YNYS ENLLI YNYS Y SAINT Christopher Armstrong Hon yw'r gyntaf mewn cyfres ar fannau neilltuedig Os yw Enlli yn cael ei hystyried fel 'ynys sanctaidd' gall hyn fod dim ond oherwydd fod Eglwys y cenhedloedd Celtaidd yn Eglwys Sanctaidd. Mae sancteiddrwydd yn bodoli oddi mewn bobl ac nid mewn cerrig. Ac eto, mae prydferthwch hudolus Ynys Enlli, sydd yn gorwedd dwy filltir oddi ar Benrhyn Llyn, fel Ilawer allor pellennig y gorffennol Cristnogol, yn procio'n penelin yn anghyffyrddus. Efallai fod y bobl hynny, wedi gweld Duw 'mewn' natur? Efallai fod eu Duw hwy YN wahanol i'n Duw ni Duw sydd yn ein cysuro, ein hamddiffyn, yn rhoddi pedwar pryd y dydd o fwyd i ni a phob mathau o 'hawliau' mewn cymdeithas? Gall Ynys Enlli fynd a ni tuag at glogwyn y byd yr ydym yn ei adnabod, wyneb yn wyneb â Duw sydd â safonau llym, esthetig a moesol sydd hefyd yn Ilawn gofynion a her fyfyrio arnynt. Gadawodd pob mynach orchwylion bywyd ynys pan ddygwyd eu heiddo gan Henry VIII. Wedi cyfnod hir o berchnogaeth breifat, mae'r ynys erbyn hyn yn perthyn Ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Eisteddaf ar Gyngor yr Ymddiriedolaeth, sydd yn cyfarfod pob deufis lunio polisiau rheoli. Mae'r gweinyddu dydd ddydd dan ofal cyfarwyddwr, Mr Seimon Glyn, sydd yn byw yn lleol. Un yn unig o'r elfennau hynny sydd yn denu y nifer o bobl ymweld â'r ynys heddiw yw'r un grefyddol. Mae rhai yn ymweld oherwydd yr adar, eraill oherwydd bywyd môr, rhai ddianc yno ymlacio, rhai am fod ganddynt bethynas bersonol dyfn efo'rfangre. Mae'n hawdd iawn 'gymeryd rhan' efo Enlli, a gall rhwymiadau emosiynol cystadleuol achosi cymhlethdodau rhwng pobl a'i gilydd wrth geisio gweinyddu'r ynys. Mae'r ynys (450 erw gan gynnwys y Mynydd) yn cael ei rhannu rhwng y rhai sydd yn gyflogedig i'r Ymddiriedolaeth, y tenantiaid pori (teuluoedd amaethyddol lleol sydd wedi penodi bugail), a Gwylfa Maes ac Adar Ynys Enlli. Mae'r Ymddiriedolaeth a'r Wylfa wedi uno benodi Warden Ynys sydd yn byw yno gyda'i deulu (tri phlentyn ifanc). Mae yno hefyd reolwr ynys a'i ddirprwy. Yn ystod yr haf mae pobl yn tyrru yno ar eu gwyliau neu ymneilltuo: y ddau weithiau! Mae chwe thy ar gael i'w gosod yn wythnosol. Ni chaniateir gwersylla, a does dim carafanau. Yn achlysurol gall grwp neilltuol logi tai neu efallai pob ty. Yn am) mae pobl yno am resymau eraill. Nid yw pob grwp sy'n encilio yn grwp Cristnogol. Gall rhai fod yn grwpiau 'Yr Oes Newydd' ('NewAge). Mae Enlli yn cynnig ei hun fel man lle gall ffydd draddodiadol gynnal deialog gyda ffydd mwy diweddar wrth geisio dod o hyd i'r tragwyddol. Mae pysgotwyr lleol yn pysgota o gwmpas yr ynys ac mae'r amaethwyr yn ffermio, ymwelwyr neu encilwyr ai peidio. Mae byd natur ar yr ynys yn mynd yn ei flaen, yn sicr yn y wybodaeth (ydi o'n gwybod go iawn? Mae'r morloi yn fwy dof yn awr nag yr oeddynt!) fod Enlli'n warchodfa natur cenedlaethol (NNR), yn ardal 0 ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSI), yn ogystal ag ardal amgylcheddol sensitif (ESA). Ni ddylid difrodi dim ar fynydd sanctaidd Duw! (cf. Eseia 65: 25). Yr wyf yn trefnu wythnos ymneilltuo bobl, a rhai yn eu mysg yn dod o Eglwys Sant lago, Picadilly. Mae fy nghyd drefnydd yn gweithio yn Picadilly IIe mae yn dysgu athrawon ieithoedd. Mae yn feistr ar Tai Chi, ac yn chwarae'rgitaryn fendigedig. Mae o'n caru Enlli. Rydym yn dweud fod yn rhaid bobl wrando ar beth mae'r ynys yn ei ddweud wrthynt. Byddaf yn darllen gwaith R.S.Thomas (cyn-ficer Aberdaron) a bydd yntau yn darllen Chuang Tzu, ond fe fyddwn yn ceisio dod â phopeth dan adain dyner Crist. Bydd dathliadau aml o'r Cymun Bendigaid yn arferol. Mae complin am 9.30 y.h. yn wasanaeth wrth fodd ein hencilwyr. Fel y bydd yr haul yn toddi yn fachlud i'r môr byddwn yn adrodd salmau traddodíadol, gan ddiolch Dduw am ei oleuni, a myfyrio ar y diwrnod gan gynnig ein hunain a phopeth a greodd Duw i'w ofal o yn ystod y tywyllwch. Mae sgrechiadau aflafar yr Adar Drycin Manaw wedi hanner nos yn ein hatgoffa o fynd a dod yn y gorffennol pell, teithiau hir, a'r patrymau natur, sydd wedi eu plethu o'n cwmpas ac sydd yn ail adrodd eu hunain drosodd a throsodd yn dragwyddol. Yr enw arall ar yr encil yw 'Llanw a Thrai Rhythmau Amser a Llanw'. Nid yw wedi ei gyfeirio yn benodol at bobl Llundain ond fe ymddengys eu bod yn gwerthfawrogi hyn: 'yn naturiol' fe allwch ddweud! Fe ystyriaf y ffaith nad yw'r Eglwys bellach yn berchen ar Enlli yn fendith. Rhaid Gristnogion sefyll ochr yn ochr gydag eraill ofalu am y fangre, beth bynnag fo'n cymell eraill. Nid yw'r ffaith fod Enlli yn 'Ynys Sanctaidd' a chysegr pererinion yn golygu fod yr hawl ganddom ni arglwyddiaethu dros eraill arni! Gall unrhyw un a ddymuna fynegi ymrwymiad o gyfrifoldeb ochr yn ochr gyda gweddill yr aelodaeth, wneud hynny. £ 12 yn unig yw cost aelodaeth ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Yn bersonol buaswn yn croesawu mwy o aelodau Cristnogol. Dyma'r dyfodol deialog, a hwnnw yn aml yn egnïol ac yn gofyn Ilawer ohonom, gyda'n cyd- ddinasyddion amddiffyn a hyrwyddo lleoedd, pethau a gwerthoedd yr ydym yn eu caru. Allor o Gymru Cristnogol yw Enlli. Byddai'n arbennig o dda pe byddem yn cael mwy o aelodau ymroddgar Cymreig, a fyddai nid yn unig yn ymuno a thalu eu tanysgrifiadau, ond yn ymweld â'r ynys a chymryd diddordeb yn ei buddiannau a'i helfen gadwriaethol i'rdyfodol.