Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffordd crefydd ffordd gwyddoniaeth Ein Tras a n Crefydd A barnu oddi wrth nifer y llyfrau yn trafod gwyddor a chrefydd a ymddangosodd yn ystod y deng mlynedd diwethaf, a'r trafodaethau yn y wasg a thrwy'r cyfryngau, rhaid cydnabod fod y ddadl rhyngddynt yn dal yn ei hanterth o hyd. Mae'n debyg mai Darwiniaeth a'r ddamcaniaeth esblygiadol a enynnodd yr holl drafodaeth, ac er i'rddadl daw'elu o dro dro, erys y broblem sylfaenol heb ei datrys yn derfynol. Credaf fod Darwin wedi cael effaith andwyol ar gredo ac yn arbennig felly ar ein crefydd draddodiadol, ac ef oedd y cyntaf gyffesu hynny. Yn anffodus o ran datrys y broblem, ymddengys mi nad oes eto ddigon o drafodaeth glir a gwaelodol rhwng y diwinyddion ar y naili law a'r gwyddonwyr esblygiadol ar y llall. Y duedd ydyw i theistíaid wrthod dod i'r afael â rhai o'r casgliadau a ddaeth i'r wyneb yn y blynyddoedd diwethaf hyn gan y Neo-Ddarwiniaid a'r genetegwyr moleciwlar. Tybiaf mai'r prif reswm dros hyn ydyw'r ffaith sylfaenol wyddonwyr ein cyfnod ni yn arbennig, brofi yn effeithiol gywir holl Iwybr esblygiad bywyd. Fe ail ddiffiniwyd Darwiniaeth hyd at y presennol ac nid oes angen bellach ymchwilio ac arbrofi ynglŷn â ffeithiau newydd i'w chadarnhau. A chyda'r cyfrifiaduron modern, gellir ymestyn llwybr esblygiad i'r dyfodol. Dyma faes sy'n datblygu'n brysur ar hyn o bryd, ac fe all y canlyniadau fod yn arswydus o'u sylweddoli'n Ilawn. Yn wir, efallai mai dyma sydd wrth wraidd yr holl ymrafael sy'n bodoli a bod hyn yn arwain laweroedd wrthod ymateb. Yn wahanol iawn wyddor, y mae crefydd o bob math mewn dimensiwn gwahanol. Nid ydyw yn ymateb ffeithiau y gellir eu harbrofi a'u cael yn gywir neu'n anghywir. Yn wir, os gall arbrawf brofi cywirdeb datganiad o unrhyw fath, gellir dadlau yn gryf nad crefyddol mo'r datganiad hwnnw yn y bôn. Nid oes raid wrth y mymryn lleiaf o ffydd gredu mewn ffaith sydd eisoes wedi ei phrofi'n gywir drwy arbrawf. Yn grefyddol, erys gwirioneddau i'w datguddio sydd mewn byd na all gwyddor fyth ei droedio. Y mae'r cynllun yn rhy fawr ac ofnadwy unrhyw ddamcaniaeth wyddonol ddechrau ei hegluro. O ganlyniad, rhaid wrth gynlluniwr a chreawdwr. Ond wedi dweud hynny, y mae angen pwysleisio fod rhai agweddau o'n crefydd draddodiadol sydd bellach wedi eu profi yn wallus gan wyddor, ond sy'n cael eu harddel o hyd fel canllawiau cadarn a diysgog gan gredinwyr selog. Un o'r lladmeryddion mwyaf blaenllaw yn eu dehongliad nad esblygiad Darwinaidd ydyw'r eglurhâd terfynol o'r byd sydd ohoni ydyw yr Athro Polkinghorne; ffisegydd o fri, yn gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol ac ar hyn o bryd yn Ganon Diwinyddol Cadeirlan Lerpwl. Dafydd Wynn Parry Ei ddadl sylfaenol ef ydyw fod holl ogoniannau a phriodoleddau bywyd yn ei amryfal ffyrdd a chan gynnwys dyn, mor rhyfeddol a chymhleth fel na allai esblygiad noeth fyth gyfrif amdanynt a'u hesbonio'n llawn. Dyma un o brif rediadau ei gyfrol ddiweddaraf "Beyond Science"(Gwasg Prifysgol Caergrawnt 1996). Y mae Polkinghorne yn amddiffyn gwyddor fel un ffynhonell o wybodaeth o fewn ei maes arbennig a'i chyfyngiadau ei hun. Ond er hynny, pwysleisia y ffaith na o gwyddor o unrhyw fath fodloni y syched sydd mewn dyn ddehongli cyfrinachau mawr y cread nag ychwaith egluro ei natur ef ei hun. Y mae gwirioneddau gwyddonol i'w darganfod o hyd. Enghraifft o hyn ydyw yr ymchwil gan ffisegwyr ddod o hyd i'r proton a'r niwtron, a'r rheiny yn eu tro yn arwain at y cwyrc a'r glwon. Dywed Polkinghorne fod hyn oll ymysg gorchestion mwyaf yr ugeinfed ganrif. Serch hynny, meddai, y mae fywyd ei ystyr a phwrpas i'w gwblhau ac er Ddarwiniaeth ddirnad yn rhannol, darlun anghyflawn a rydd o angenrheidrwydd. O ganlyniad rhaid priodoli yr holl gread a'r cosmos allu goruwch naturiol. Ond wedi dweud hynny, y mae Polkinghorne yn mynegi'r syniad na chreodd Duw fyd gorffenedig ond yn hytrach, fyd â'r gallu ganddo esblygu a bod i'r esblygiad hwnnw bwrpas dwyfol. Charles Darwin Rhydd y ddadl yma amlinelliad modern or hyn a fynegwyd gan John Ray a William Paley flynyddoedd lawer yn ôl, y ddadl fod holl arfaethau bywyd a'u nodweddion nodedig ac unigryw y tu hwnt esboniad a phob damcaniaeth, a'u bod hefyd y tu draw ddirnadaeth dynol. Rhaid oedd credu mewn cynllun sylfaenol a phendant wedi ei briodoli Dduw. Yn y blynyddoedd diwethaf hyn, chwalwyd y ddadl yma yn gyfangwbl gan Dawkins ac eraill. Iddynt hwy, dewisiad naturiol sydd wrth wraidd pob math o fywyd y proses hwnnw sy'n hollol ddall ac heb bwrpas o unrhyw fath i'w ganfod ynddo, na ffordd ychwaith wedi ei ragfynegi yn yr arfaeth ar ei gyfer. Dyma i'r Neo- Darwiniaid sy'n cyfrif am holl amrywiaeth bywyd. Ac wrth fywyd addasu ar gyfer yr amgylchfyd, y mae methiannau a thrychinebau yn anorfod. Nid hawdd