Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BAGAD GOFALON y BUGAIL Tebyg fod gan lawer eglwys eu Gwynfor eu hunain. Yr un a fu yng nghanol holl weithgarwch yr eglwys ers cyn cof, ac yn debyg o fod yno hyd y diwedd. Yn gwbl ymroddedig ond nid y rhwyddaf gyd- weithio â nhw. Yn llafar ond yn ddigon amharod wrando ar farn gwahanol. Yn cwyno nad yw'r ifanc yn cymryd rhan ond yn gyndyn ollwng gafael eu hunain er mwyn rhoi cyfle eraill. Yn anfodlon nad oes digon yn mynd ymlaen ond yn geidwadol ac anymarferol eu syniadau. Tueddiad yr aelodau eraill yw gadael llonydd iddynt. Yn wir fe'u cyfrifir yn angenrheidiol, fel math ar gydwybod yr eglwys, sydd yn lleddfu rhywfaint ar gydwybod y rhai hynny ohonom sydd yn rhy brysur wneud llawer ein hunain. Sawl gwaith 'rwy wedi clywed brawddeg tebyg hyn, "Rwy'n gwybod fod Gwynfor yn gwneud gwaith da, tipyn mwy na fi, ond mae'n gallu bod yn anodd". A finnau, a bod yn onest wedi amenio'n dawel! Taniwyd Gwynfor yn ifanc â sêl mawr dros yr efengyl, ac mae'n syndod na chyflwynodd ei hun i'r weinidogaeth. Pa mor hir fyddai wedi parhau sy'n gwestiwn arall, ac er tegwch iddo, efallai ei fod ef yn nyfnder ei galon yn sylweddoli hynny. Fe daflodd ei hun o'r dechrau fywyd yr eglwys leol,ac er tegwch eto y mae wedi aros yno. Yn ddiwinyddol byddai wedi bod yn fwy cartrefol mewn eglwys mwy efengylaidd. Fe'm cystwyodd fwy nag unwaith am beidio gweddïo digon am ddiwygiad na sôn digon am achubiaeth, a phrin y gallaf gredu fod pregethu'r cyn-weinidogion wedi bod yn fwy cydnaws â'i safbwynt. Does dim amheuaeth chwaith na fyddai eglwys Saesneg ei chyfrwng wedi bod yn well iddo. Roedd yn ddiacon, wedi bod yn athro ysgol Sut ac yn un o bileri'r cwrdd gweddi a'r dosbarth Beiblaidd. Dysgais yn fuan fod yn ofalus wrth apelio am wirfoddolwyr, oherwydd byddai'n siwr o gynnig ei hunan, pan oedd eisoes yn gwneud gormod, ac a bod yn gwbl onest pan nad ef oedd yr ateb. Byddai'n dod bopeth yn yr eglwys, onibai fod yna weithgarwch crefyddol arall yn yr ardal oedd yn fwy at ei ddant. Dyna un o wendidau Gwynfor, roedd yr ieithwedd grefyddol gywir yn sicr o'i ddenu fel gwyfyn at y golau, waeth pa mor od neu amheus gallai ambell arweinydd a sect fod. Bu'n gefnogol i'r gwaith rhyng-eglwysig, a does dim amheuaeth iddo wneud lot o waith da. Mae'n anodd hefyd peidio edmygu ei gonsyrn am gardotwyr yr ardal, er bod ei sêl weithiau yn drech na'i synnwyr cyffredin a'i weledigaeth i'w helpu yn gallu bod yn gwbl anymarferol, os nad amhosibl i'w gwireddu. Ond at hyn 'rwy'n dod, er mawr syndod i bawb fe ail-briododd Gwynfor yn sydyn a symud ffwrdd o'r ardal fyw, ac yn fuan iawn dyma'r gweinidog yn gorfod wynebu nifer o broblemau. Doedd neb yn barod ymgymryd â'i waith. Am un peth bu wrthi mor hir a'i uniaethu gymaint â'r gwaith fel bod eraill ofn ei ddilyn rhag cael eu cyfrif yn debyg iddo. Gyda'r pethau ymylol doedd dim llawer o ots. Y peth anoddaf oedd gorfod esbonio i'r bobl oedd yn frwd dros y pethau hynny, nad oedd gan neb o'r eglwys ddigon o ddiddordeb yn eu hachosion a bod y gweinidog Ian i'w glustiau mewn cyfrifoldebau eraill. Gallech gredu ein bod ni'n tynnu allan o'r deyrnas. Ond beth am y pethau pwysicach? Doedd dim dewis mewn gwirionedd Os oeddynt barhau, pwy arall ond y gweinidog neu'r un neu ddau oedd eisoes yn gwneud mwy na digon, ond sydd ddim yn hoffi dweud na wrth y gweinidog. Nawr dw'i ddim yn amau,y mae trwch ein haelodau ar fai am beidio cymryd eu haelodaeth o'r eglwys o ddifrif, gan fod yn barod ysgwyddo peth o'r gwaith. Ond eto, rhaid cydnabod eu bod allan o'r arfer o wneud, oherwydd bod cymaint o'r gwaith eglwysig wedi canoli ers blynyddoedd ar Gwynfor a'i debyg. Oherwydd prysurdeb ac amrywiaeth y bywyd cyfoes, caiff amser pawb ohonom ei lyncu gan rhywbeth neu'i gilydd, ac anodd iawn yw cael pobl i ad-drefnu blaenoriaethau a osodwyd eisoes, onibai fod amgylchiadau bywyd yn newid gan ganiatáu iddynt wneud, neu bod yr annisgwyl yn eu gorfodi wneud. Mae'n hen bryd ni gymryd gweinidogaeth yr holl saint o ddifrif, gan eistedd lawr fel gweinidogion ac arweinwyr eglwysig ystyried siwd mae ei wireddu. Dylasem gymryd pob cyfle feithrin ein cynulleidfaoedd feddwl yn nhermau eu cyfraniad hwy i'r weinidogaeth, gan fod yn ofalus nad yw ein dull ni o weinidogaethu yn tanseilio'r egwyddor. Yn sicr dydi uniaethu gwaith yr eglwys gydag unigolyn ddim yn llesol ddelwedd na dyfodol y gwailth eglwysig. Os daw dyddiau Gwynfor eich eglwys chwi i ben, dywedwch diolch yn fawr, ond 'da chi gofalwch mai ef neu hi fydd yr un olaf.