Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwahoddwyd y Parch Roger Roberts, gweinidog gyda'r Eglwys Fethodistaidd yn Llandudno ac ymgeisydd y Rhyddfrydwyr Democrataidd yn etholaeth Conwy, i fwrw golwg yn ôl ar yr etholiad a Fe gymerodd ddeugain mlynedd blant Israel groesi o'r Aifft Ganaan Ond, wedi cyrraedd, mae'r gwreiddiau yn ddwfn ac yn sicr. raddau helaeth yr un yw hanes Rhyddfrydiaeth yn y ganrif bresennol. Bron i'r blaid fynd o'r golwg yn llwyr yn y pedwardegau a' r pumdegau roedd yr anialwch am ein Ilyncu ond glynodd rhai, yr ychydig, yn eu traddodiad a dal eu gafael yn yr egwyddorion Rhyddfrydol. Wrth edrych yn ôl ar hanes gwleidyddiaeth yn y ganrif bresennol rhaid ni gydnabod arbenigrwydd llywodraeth Rhyddfrydol 1 906. Dan arweiniad Campbell- Bannerman, Asquith a Lloyd George sicrhawyd deddfau eithriadol o bwysig .Yn arbennig cafwyd mesurau cymdeithasol i ysgafnhau tlodi'r henoed ac argyfwng y diwaith. Cwtogwyd ar hawliau Tŷ'r Arglwyddi a symudodd y Ilywodraeth, hwyrach yn rhy araf, sicrhau newidiadau cyfansoddiadol eraill. Dadgysylltwyd yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Ar ôl y Rhyfel Mawr enillodd y Blaid Lafur yr "hen" blaid Lafur gefnogaeth y dosbarth oedd cyn y Rhyfel wedi pleidleislo mor gryf dros y Rhyddfrydwyr. Y broblem oedd beth oedd cyfraniad y blaid Ryddfrydol fod yn y cyfnod newydd ? 'R oedd gwahaniaethau a rhwygiadau yn llesteirio pob brwydr. Yn y tri degau 'roedd tair plaid Rhyddfrydol! Dyna deulu Lloyd George efo pedwar o aelodau seneddol, dilynwyr John Simon, ef, hefyd, o gefndir Cymraeg, a alwyd yn Ryddfrydwyr Cenedlaethol a'r brif garfan dan arweiniad Herbert Samuel. Ar ôl yr ail Ryfel etholwyd deuddeg aelod seneddol Rhyddfrydol yn unig. Roedd Lloyd George yn ei fedd yn Llanystumdwy a'r hen wleidyddiaeth drosodd. Yn etholiad 1 945 'roedd gobeithion y Rhyddfrydwyr yn uchel. Onid oedd un o'u harweinwyr, William Beveridge, â'r cynlluniau mwyaf radicalaidd erioed ddileu tlodi, orchfygu diweithdra a sicrhau gwasanaeth lechyd ? Ond collodd hyd yn oed Beveridge ei sedd. Etholwyd Clement Davies yn arweinydd, ac ar ei ôl, yn niwedd y pumdegau, Jo Grimond. Dyna'r cyfnod pan roedd bodolaeth y blaid yn y fantol.Roedd chwe aelod seneddol a phump o'rrheini am nad oedd y Toriaid wedi rhoi ymgeisydd yn eu herbyn. Mor wahanol heddiw Ar farwolaeth Syr Rhys Hopkin Morris collwyd Sir Gaerfyrddin mewn is- etholiad ac aeth y blaid yn bump. Dyna'r nifer lleiaf erioed a diwedd plaid Gladstone, Asquith a Lloyd George yn y golwg. Mae'n debyg mai i Jo Grimond mae'r diolch i'r Rhyddfrydwyr ddechrau cryfhau yn nechrau'r chwedegau. Roedd yn arweinydd ifanc a charismataidd a pan ddaeth ei amser yntau i ymddeol dywedodd un papur newydd amdano "the best Prime Minister Brit- ain never had." Ond yn ei gyfnod fel arweinydd enillwyd tir ar lefel seneddol ac mewn llywodraeth leol. hynt ei blaid ef yn arbennig. Credaf fod cyfrinach bodolaeth a pharhad y Rhyddfrydwyr ynghlwm a'r enillion lleol yma. Daeth cyfnodau anodd yn y saithdegau cyfnod helynt Jeremy Thorpe, wedyn y cydweithio rhwng David Steel a Jim Callaghan a, hefyd, bygythiad y National Front. Cofiwn nifer o is-etholiadau'r cyfnod weld y National Front yn ennill mwy o bleidleisiau na'r Rhyddfrydwyr. Trwy'r cwbl roedd cynnydd yn nylanwad y blaid ar gynghorau lleol. Pan gyhoeddwyd canlyniadau Etholiad Cyffredinol Mai laf eleni 'roedd y rhan fwyaf o'r seddau a enillwyd mewn trefi lle 'roedd y Democratiaid Rhyddfydol â chryfder yn lleol. Yn Harrogate, Sheffield (Hallam), Hazel Grove, Rich- mond, Taunton ac ymlaen roedd y grym lleol wedi troi yn ennill seneddol. Dan arweiniad Paddy Ashdown enillwyd 46 o seddau a dim un o'r rheini oherwydd ryw blaid arall beidio â sefyll. Y nifer fwyaf ers 70 o flynyddoedd blaid Ryddfrydol. Etholwyd Ilywodraeth Lafur a honno dan brif weinidog ifanc, Tony Blair, efo rhaglen gynhwysfawr ond nid yn sosialaidd. Dewisiwyd gwr ifanc arall, William Hague, arwain y Ceidwadwyr, swydd ddyrys a diddiolch yn y cyfnod presennol. Mae'r blaid Lafur wedi newid yn llwyr i'r hyn yr oedd hi ddeuddeng mlynedd yn ôl a gofyn mae rhywun beth yw'r weledigaeth ac ar ba sylfaen egwyddorol adeiladwyd y blaid honno. Oherwydd, pan ddaw stormydd ac argyfyngau mae angen egwyddor sicr a sylfaen gadarn. A fydd UN plaid Geidwadol ? A yw'n bosib uno criw o aelodau seneddol sydd mor wahanol eu barn a'u gweledigaeth yn enwedig ar faterion megis Ewrob a'n cyfrifoldeb cymdeithasol ? Yda ni am weld diwedd ar y blaid Geidwadol sydd wedi bod yn rym ers cymaint o ddegawdau ? Credaf hyn fod yn bosibl. Beth yw lle y Democratiaid Rhyddfrydol efo'r blaid Lafur newydd wedi gwrthod sosialaeth a mabwysiadu llwyfan ddemocrataidd gymdeithasol ? I ba raddau medr 46 o aelodau seneddol ddylanwadu ar lywodraeth efo cymaint o fwyafrif ? Ac mae'r dyfodol Gymru a'r Alban yn edrych yn fentrus lawn. Onid ydym yn byw mewn cyfnod diddorol ?