Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMRY LERPWL A'R CYFFINIAU Cyfrol 1, D. Ben Rees (Cyhoeddiadau Modern Cymreig) ni roddir pris. YSGUB O'R WISGON YSGRIFAU, TJ.Davies, Gwasg Carreg Gwalch £ 4.25 JANE EDWARDS Mihangel Morgan, Llên y Llenor, Gwasg Pantycelyn, Pris: £ 3. Mae yna lun ar glawr 'Cymry Lerpwl Ilun du a gwyn yn wreiddiol ond sydd wedi ei liwio yn portreadu Cymry Lerpwl ar wibdaith ysgol Sul. Dyma nhw: pobl lewyrchus da eu byd yn eu dillad parch yn sbïo yn hyderus fyw llygad y camera. Mae nhw'n 'ol reit' rhein. Ond y mae'r llun hefyd yn fy llenwi â'r felan. Darfu'r byd yma yn llwyr. Mae D. Ben Rees a'i gapel ar ôl. Ac mi greda' mai yn eiliadau olaf y machlud y mae gosod y gyfrol hon. Cyfrol werthfawr ar sawl ystyr sy'n croniclo'r hanes yn gelfydd, yn wir, yn gariadus bron. Y mae yma luniau bendigedig o'r gwyr prin yw'r gwragedd yn edrych allan ar y byd drwy Iygaid hyderus ymherodrol: Cadvan yn gwisgo ei fedalau eisteddfodol; Pedrog yn braf yn ei gadair a enillodd yn eisteddfod Porthmadog Hoffais y gyfrol yn fawr iawn ac y mae'n werth ei chael. Ond peidiwn ag anghofio mai'r byd cyfalafol Samuel Smiles a'i Self-Help a ddethlir yma. Fe wnaeth sawl un ohonyn nhw yn "very nice thank you very much" Cyfrol ddeniadol iawn yw Ysgub o'r Wisgon- ysgrifau gan T.J.Davies. Mae'r arddull yn gartrefol, groesawgar, yn ein tynnu fyd T.J.Davies. Nid oes arlliw o sentimentaliaeth yn perthyn i'r Ilyfr fel ag y mae sawl cyfrol debyg. Mae'r ysgrifau yn ddiddorol ac yn cyflwyno pethau ni gnoi cil yn eu cylch. Wrth reswm fod ambell ysgrif yn gafael yn well na'r llall a chawn o dro dro berlau bychain yma megis: Nadolig wrth y goeden, Lluniau, Gordon a Synhwyro. Hoffais yn fawr iawn y myfyrdodau a gawn ar ddechrau'r gyfrol. Dylai T.J.Davies feddwl am wneud mwy o'r math yma o beth. Teimlaf fod "Yno" a "Blwyddyn Newydd" yn afaelgar dros ben. Mwynhewch ddarllen Ysgub o'r Wisgon drosodd a throsodd. O bawb sy'n ysgrifennu yn y Gymraeg Jane Edwards yw fy ffefryn i. Hi a Mihangel Morgan. Pryd bwyd á la Carte llenyddol felly oedd gweld cyhoeddi Jane Edwards astudiaeth o'i gwaith gan Mihangel Morgan yn y gyfres gwerth chweil honno Llên y Llenor. Dyma astudiaeth wirioneddol gyffrous sydd yn fy marn i yn torri tir newydd mewn beirniadaeth lenyddol yng Nghymru. Ydy, y mae Adolygiadau dylanwad y beirniad Ffrengig Roland Barthes ar y gwaith a'i bwyslais o ar "bleser y testun" gan fynd i'r afael â'r testun hwnnw drwy "rwydwaith o obsesiynau'r llenor". Hyn ynghyd â phwyslais tebyg gan John Gwilym Jones. Ond wrth ddarllen y gwaith dirnadwn fod Mihangel Morgan yn creu beirniadaeth lenyddol newydd Gymraeg. Clywch o'i hun yn deud: "Credaf ei bod yn rhy hawdd (a diog) dderbyn termau (a syniadau) estron a'u rhoi mewn sillafiad Cymreig gan ein twyllo'n hunain ein bod ni'n feirniaid digon da, yn lle meddwl yn feirniadol yn Gymraeg yn y lle cyntaf." A dyna welwch chi yn y gyfrol hon "meddwl yn feirniadol yn Gymraeg." Wrth gyhoeddi'r gyfrol hon gwelwn mai Mihangel Morgan yw olynydd ond olynydd gwahanol iawn John Gwilym Jones. Cefais yr un wefr wrth ddarllen y gyfrol hon ag a gefais wrth ddarllen Swyddogaeth Beirniadaeth (J.G.J.) flynyddoedd yn ôl Ond nid John Gwilym Jones arall ydyw. Mae'n feirniad sy'n meddu ar lais newydd, hyderus ac anhygoel o ffres. Pleser llenyddol ynddi ei hun yw darllen y gyfrol. Ac y mae'n cyflawni prif swyddogaeth beirniadaeth lenyddol sef ein danfon ein danfon, sylwch at destunau Jane Edwards gan ddirnad o'r newydd eu cyfoeth a'u lleufer. Aled Jones-Williams, Porthmadog. Aberystwytn The University of Wales ARan y GyRAG Tmpysçol Cymm AbejiysTwyrh Dyma Adran uchel ei bri y cydnabuwyd rhagoriaeth ei gwaith ymchwil a dysgu gan Gyngor Cyllido'r Prifysgolion. Nid oes unlle gwell i astudio'r iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth. Cyrsiau: · Cymraeg Sengl mae arbenigwyr ar bob cyfnod yn hanes ejn llên ar staff yr Adran · Graddau Cymraeg Cyfun gyda dewis helaeth o gyrsiau deniadol i'w cyfuno â'r Gymraeg: e.e. Astudiaethau Busnes, Astudiaethau Ffilm a Theatr, Gwleidyddiaeth, Hanes Cymru, Llyfrgellyddiaeth · Astudiaethau Celtaidd gradd Sengl 3 blynedd sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio Llydaweg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban · Gwyddeleg Cyfun gyda chyfle i dreulio cyfnod yn astudio yn Iwerddon · Graddau Uwch M.A., MPhil., a Ph.D. · Tystysgrif Prifysgol Cymru Mewn Cyfieithu (Rhan amser) Gellir cael llyfrynnau gwybodaeth drwy anfon at: Dr Bleddyn Owen Huws, Tiwtor Derbyn, Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Aberystwyth, SY23 2AX. Ffôn: 01970 6221 16 I e-bost: boh@aber.ac.uk Cyfeiriad tudalennau'r Adran ar y Rhyngwe: http:www.aber.ac.uk/cymwww/ Hybn rhagoriaeth mewn addysg ac ymchwil