Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Eifion Evans, Pursued by God. A selective transla- tion with notes of the Welsh religious classic, Theomemphus, by William Williams, of Pantycelyn. Evangelical Press of Wales. Un o fanteision mawr bod yn ddwyieithog yw fod dyn yn gallu gwerthfawrogi cynnwys a chynnyrch mwy nag un diwylliant. Fel Cymry diwedd yr ugeinfed ganrif, gallwn edrych yn ôl gyda balchder ar gynnyrch ein pobl ein hunain, nid yn unig yn y cyfnod diweddar, ond hefyd yn ystod amrywiol gyfnodau y gorffennol. Mae pob cenedl yn gallu gwneud hynny. Mantais dwyieithrwydd yw ein bod yn gallu codi ein golygon a gwerthfawrogi cynnyrch diwylliannau eraill. Ochr yn ochr â llenyddiaeth Gymraeg, gallwn gael budd mawr o ddarllen tlenyddiaeth Lloegr a'r Alban, llenyddiaeth Iwerddon, Awstralia a Seland Newydd. Daw ambell i gyfraniad buddiol o'r diwylliant Americanaidd, a dylem bob amser gofio y cynnyrch Eingl-Gymreig a gawn o fewn ein gwlad ein hunain. Yr hyn sy'n bwysig i'w sylweddoli yw, nad ydym, fel rhai cenhedloedd eraill, yn gaeth i'n hiaith na'n diwylliant ein hunain: gallwn edrych dros y cloddiau, gweld cnydau ein cymdogion, a mwynhau'r olygfa. Ond wedi dweud hynny, rhaid cydnabod fod ochr arall i'n dwyieithrwydd sy'n ein harwain i ofyn cwestiwn: sut mae galluogi y cymdogion i edrych dros y clawdd o'u hochr hwy, a gwerthfawrogi cynnyrch ein diwylliant ni? Dyma a geisiodd Eifion Evans ei wneud wrth fynd ati i gyfieithu rhan o gerdd hir William Williams, Bywyd a Marwolaeth Theomemphus. Yr oedd yn dasg uchelgeisiol; 1,451 o benillion, a'r rheini, yn ôl Syr Thomas Parry, mewn mesur rhigymaidd sy'n aml 'yn flinderus ac undonog', er y byddai nifer o feirniaid eraill yn llwyr anghytuno â gosodiad o'r fath. Beth bynnag am hynny, rhaid oedd mynd ati i ddewis a dethol. Felly, yr hyn a gawn yn y gyfrol hon yw cyfieithiad o 507 o'r penillion, digon i alluogi'r darllenydd i ddilyn y stori, tra hefyd ar yr un pryd yn cael blas ar yr arddull. Ymddengys hon fod yn ystyriaeth bwysig i Dr Evans; nid dim ond cyfieithu'r geiriau oedd ei fwriad, ond dangos hefyd rai o nodweddion canu Pantycelyn. O ganlyniad, cawn yn y gwaith gystrawen drwsgl a thalfyriadau, fel yn y gwreiddiol. Cawn hefyd ddiffuantrwydd ochr yn ochr â hiwmor, a theimlwn wres yr argyhoeddiad a roddodd fodolaeth i'r gerdd yn pelydru trwy'r tudalennau. Er newid yr iaith erys y teimlad ein bod yn cael ein harwain gan 'sylwedydd craff a chywir ar symudiadau'r meddwl dynol'; gwelwn yn eglur nad ffrwyth dychymyg yw'r gerdd, ond rhan o brofiad y gwr a'i cyfansoddodd mewn cyfnod eithriadol gynhyrfus o'n hanes. Prin yw'r brychau yn y cyfieithu. Anaml iawn mae'r ystyr yn mynd ar goll, mor anaml fel nad yw'n werth manylu. Yn ddiddorol iawn, teimlir o dro i dro fod y cyfieithu wedi cryfhau'r mynegiant, yn enwedig yn achos y penillion hynny sy'n cynnwys hiwmor. Enghraifft o hynny yw'r canlynol: 'Ac er mwyn gwneuthur cariad yn llawer uwch ei ryw, O asen gwryw gwnaethpwyd y fenyw gynta' 'yn fyw; A phwysy'n berchen deall yn awr all rwystro dyn Gofleidio, a chael meddiant o 'i asgwrn gwyn ei hun ?' 'To kindle love between them, a rib from man was found, And from it God made woman, the first that was around; Who now, that has some reason, can hinder man from this Embracing and possessing that rib that's rightly his?' Buddiol iawn yw fod Dr Evans wedi cadw at benodau gwreiddiol Pantycelyn, ac wedi cynnwys y crynodebau a gafwyd ganddo ar ddechrau pob un. Buddiol hefyd oedd ei fod ar ddiwedd pob pennill wedi cynnwys cyfeiriad at ei Ie yn y fersiwn Gymraeg fel y'i gwelir yng nghyfrol gyntaf gwaith Gomer M. Roberts, Gweithiau William Williams, Pantycelyn (1964); galluoga hynny ni i symud yn ôl a blaen yn gwbl ddidrafferth rhwng y ddwy gyfrol. Ond cymwynas fawr y cyfieithiad yw fod nodiadau wedi eu cynnwys rhwng y penillion i esbonio i'r darllenydd yr hyn sy'n digwydd, arwyddocâd enwau y cymeriadau sy'n ymddangos a chefndir diwinyddol yr hyn sy'n cael ei ddweud. I'r anghyfarwydd, mae hon yn gymwynas fawr, yn gymorth gwirioneddol ddeall y gwaith. Yn ychwanegol at y gerdd, cawn o fewn y gyfrol bedair adran o eiddo Dr Evans ei hun; ar y dechrau gwelir adran ar fywyd, gwaith a chyfraniad William Williams ynghyd â rhagymadrodd i'r gerdd, ac ar y diwedd gasgliad cryno ynghyd â llyfryddiaeth gyda sylwadau esboniadol. Gesyd y rhain William Williams yn ei gyd-destun diwylliannol a chrefyddol; awgrymant hefyd y modd y bu i'r gwr hwn ddylanwadu ar y genedl yr oedd yn perthyn iddi. Gwelwn hefyd fod Dr Evans yn ceisio esbonio perthnasedd diwinyddiaeth a neges Pantycelyn i'n cyfnod ni heddiw. Gwna hyn hefyd yn y nodiadau rhwng y penillion, ond yn anffodus, nid yw bob amser yn taro deuddeg, a hynny, o bosibl, oherwydd bod gwrthdrawiad yn digwydd rhwng arddull y gorffennol a phatrymau mynegiant y byd cyfoes. O ganlyniad, ymddengys yr ymdrech yn ymwthiol, ac ar adegau yn anamserol. Yn sicr, bydd hon yn gyfrol fuddiol pan fyddwn yn ceisio arwain y di-Gymraeg i werthfawrogi peth o lenyddiaeth y Cymry, ond bydd hefyd yn fuddiol i gyfeiriad arall llawer iawn mwy penodol. I'r sawl sy'n ceisio dysgu i fyfyrwyr uniaith Saesneg hanes y Diwygiad Efengylaidd yng Nghymru, dyry gyfle, nid yn unig i gyflwyno enghraifft o lenyddiaeth y cyfnod iddynt, ond hefyd beth o naws a chyffro y Diwygiad Mawr. Heb amheuaeth, bydd cyfrol Dr Evans, fel eraill o'i gyhoeddiadau, ar restr ddarllen y flwyddyn nesaf, ac ni allaf ond mynegi fy ngobaith y bydd yn mynd ati i gyfieithu mwy ò waith Pantycelyn, er mwyn ein galluogi i rannau ac eraill rai o'r trysorau sydd yn ein meddiant fel cenedl. Geraint Tudur