Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(boed un gynulleidfa fechan, un grtdöp òefosicon neu'n gyfanfod gŵeddi) GAIR EIN DUW Arweinydd: Gras chwi a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd lesu Grist. Pawb: Tyrd atom, Arglwydd, a llefara wrthym. Arweinydd: Ti yw ein llusern, Arglwydd, yn troi ein tywyllwch yn ddisglair: Pawb: Y mae dy air yn llusern i'n troed ac yn oleuni i'n llwybr. Canu: Caner yr emyn 'Mae yn y gair oleuni glân' (Llyfr Emynau 278) ac yn ystod yr emyn gosoder Beibl agored yng nghanol y grwp yn ffocws i'r addoliad. Arweinydd: Arglwydd, cafwyd geiriau gennyt, ac aethant yn ymborth ni: Pawb: Daeth dy air yn llawenydd i ni, ac yn hyfrydwch ein calon. Arweinydd: Y mae dy air, O Arglwydd, yn dragwyddol: Pawb: Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. Distawrwydd: Cofiwn fod Duw yn ein mysg ac yn dymuno llefaru wrthym. Gofynnwn i'r Ysbryd Glân ein helpu glywed ei lais. Arweinydd: Llefara, Arglwydd, canys yr ydym yn disgwyl ac yn gwrando: Canu: Yn y dwys ddistawrwydd, Dywed air, fy Nuw; Torred dy leferydd Sanctaidd arfy nghlyw. Arweinydd: Diolch ti, Arglwydd, am siarad wrthym drwy dy air, ddysgu ni dy wirionedd, ddangos ni ystyr bywyd ac ddatguddio ni gyfoeth dy gariad yn lesu Grist. Canu: O! fendigaid Athro, Tawel yw yr awr; Gad im weld dy wyneb, Doed dy nerth lawr. Arweinydd: Maddau i ni, Arglwydd, TE DEUM Deangdd qr gypeR aòòolíaò gRŵp am ni wrthod gwrando arnat, anufuddhau i'th ddeddfau, a mynnu dilyn ein llwybrau'n hunain. Estyn ni drugaredd a rhyddha ni o bob bai. Canu: Ysbryd, gras, a bywyd, Yw dy eiriau pur; Portha fi â'r bara Sydd yn fwyd yn wir. Darllen: Y mae Eseia'r proffwyd yn ein hatgoffa fod ffyrdd a meddyliau Duw yn uwch na'n heiddo ni, ond y mae'n galw arnom geisio Duw ac ymddiried ynddo, gan fod ei air ef yn sicr o Iwyddo. Eseia 55: 6-11 Arweinydd: Gweddïwn Arglwydd, gofynnwn am dy gymorth bwyso arnat ac ymddiried yn addewidion dy air. Pan gawn ein temtio gan y drwg a gwneud a dweud yr hyn na ddylem: Pawb: Arglwydd, llefara wrthym a rhoi i ni dy nerth. Arweinydd: Pan fyddwn yn llawn pryder, wedi'n llethu gan broblemau ac yn methu gwybod ble droi: Pawb: Arglwydd llefara wrthym a rho i ni dy nerth. Arweinydd: Pan fyddwn mewn afiechyd a phoen, ein gwendid yn ein digalonni a'n gwaith yn mynd yn drech na ni: Pawb: Arglwydd, llefara wrthym a rho i ni dy nerth. Arweinydd: Pan fyddwn yn teimlo'n unig a heb neb droi ato rannu'n baich ac i'n calonogi: Pawb: Arglwydd, llefara wrthym a rho i ni dy nerth. Arweinydd: Pan brofwn ddirmyg a gwawd a phan gawn ein gwrthwynebu am ein tystiolaeth i'r Efengyl: Pawb: Arglwydd, llefara wrthym a rho i ni dy nerth. Dysg i ni ufuddhau i'th air, ac i ddwyn clod a gogoniant i'th enw. AMEN. Canu: 'I Dad y trugareddau gyd' (Atodiad 897). Elfed ap Nefydd Roberts