Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mi fydd Gwyn Elfyn yn gyfarwydd i ddarllenwyr Cristion fel Densil ar Pobly Cwm. Yma mae Cristion yn cael y cyfle i holi'r actor profiadol am ei fywyd, ei ddiddordebau a'i ffydd! BYWGRAFFYDDOL Beth yw eich enw llawn? Gwyn Elfyn Lloyd Jones. A beth yw eich gwreiddiau? Geni Bangor. Magu Drefach, Llanelli, gyda chyfnodau byr yn fychan iawn yn Neiniolen, Carno a Phorthmadog. Yn lle derbynioch chi eich addysg? Ysgol Gynradd Drefach; Ysgol Ramadeg y Gwendraeth a Choleg Prifysgol Cymru, Aberyst- wyth. DIDDORDEBAU Pa ddiddordebau hamdden sydd gennych? Rygbi; peldroed a cheir. Beth yw eich hoff raglen ar y radio/teledu? Pam fi Duw?; Have I Got News for You; Sgorio. Beth yw eich syniad o wyliau delfrydol? Mynd gyda llond awyren o ffrindiau i Fflorida (ar ôl i mi ennill y loteri). Oes yna lyfr da a ddarllenoch yn ddiweddar? New Zealand Rugby Greats (sori Mam). Oes yna rywun y buasech yn hoff o'i gyfarfod? Nelson Mandela. GYRFA Pryd gychwynnodd y diddordeb mewn actio? Trwy gymryd rhan yn ymarferol yn y capel ac yna yn ysgol y Gwendraeth yn cael cyfle i gymryd rhannau swmpus mewn dramâu. Beth yw eich atgof cynharaf o fod ar lwyfan? Sut brofiad oedd o? Rwy'n cofio chwarae rhan cymeriad o'r Beibl y syrthiodd llechen ar ei ben mwya'r cywilydd, alla i ddim cofio ei enw, ar lwyfan Hebron festri sydd gan ein capel ni ynghanol y pentre, a teimlo mor annheg yr oedd hi fod rhaid i mi gymryd y rhan a mwyaf i ddweud am fy mod yn fab i'r gweinidog! Ond cof melys iawn yw cofio adeiladu'r llwyfan yn y festri ar gyfer rhoi'r cyfle i bawb berfformio fy nhad, yn saer coed wrth grefft, yn mynd ati gyda help y dynion i godi'r campwaith yma! Mi fydd pawb yn gyfarwydd â chi fel Densil yn Pobl y Cwm* Ers faint mae Densil yn bod? A oes yna debygrwydd rhwng Densil a Gwyn? Da neu ddrwg? Mae Denzil yn gymeriad ers dros 13 mlynedd bellach. Y tebygrwydd mwyaf yw fod Denzil, fel finnau, yn hen foi iawn! Yr unig beth arall oedd yn ein cysylltu oedd amaethyddiaeth. Fe dreuliais lawer o amser yn gweithio ar fferm y Wern yn Drefach ac o ddewis, buaswn wedi mynd i ffermio. Pa actor/es y buasech awydd gyfarfod/chyfarfod? Jack Nicholson actor gwych a chymeriad cymhleth neu Jamie Lee Curtis am resymau hollol wahanol. Oes yna broject diddorol ar y gweill ar hyn o bryd? O ran gwaith mae Pobol y Cwm yn cymryd yr amser i gyd. Yn fy amser hamdden rwyf yn hyfforddi tim rygbi dan 13 Y Tymbl sydd heb golli ers dwy flynedd ac mae hyn yn bleserus iawn. Rwyf hefyd newydd gael fy apwyntio yn gyfarwyddwr ar fwrdd rheoli Mentrau Iaith Myrddin ar gychwyn cyfnod digon cyffrous. Lle gwelwn ni chi nesaf? Denzil yng Nghwmderi. Gwyn Y Mans yng Nghapel Seion neu Glwb Rygbi Tymbl. A oes gennych uchelgais arbennig sydd heb ei gyflawni hyd yma? Gwneud cyfraniad positif fyddai o fudd i Gymru a'r iaith Gymraeg. FFYDD Fuoch chi'n mynd i'r ysgol Sul? Do, hyd tua 16 oed yn Hebron, cangen o'r capellle cafodd nifer o blant nad oedd eu rhieni yn mynychu oedfa, sylfaen gadarn i'w bywydau. Oes yna werth i'r ysgol Sul erbyn heddiw? Oes yn sicr, dyma lle mae dyn yn dysgu byw. Yr unig wendid yw bod angen llusgo'r ysgol Sul, fel y capel, i gystadlu gydag atyniadau diwedd y 20fed. ganrif. Lle ydych chi'n addoli ar hyn o bryd? Capel Seion, Drefach. Pa brofiadau sydd wedi cael dylanwad arnoch? Magwraeth dda, gariadus, nad oedd yn mygu; 3 blynedd o fywyd mewn coleg prifysgol; sylfaen Gristnogol gadarn a chyfeillgarwch ffrindiau da sy'n