Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mi fydd Mici Plwm yn gyfarwydd i ddarllenwyr Cristion fel actor ar lwyfan a theledu, fel Plwmsan y Twmffat Twp i sawl cenhedlaeth o blant ac fel actor a darlledwr mewn amrywiol sefyllfaoedd. Yma mae'n rhannu gyda ni yr hyn sy'n ei gyflyru a'i gyffroi! Beth yw eich enw llawn? Michael Lloyd Jones. (Rho ni'n rhy ifanc i brotestio!) A beth am eich gwreiddiau? Wedi fy ngeni a'm magu ym mhentra Llan Ffestiniog. Yn hynod falch o'r ffaith hefyd un o 'Hogia Llan' ydw i. A dyna fyddai. Yr ail blentyn o bedwar. (Maureen y fi Monica a Malcolm). Huw Morris Jones (fy niweddar Dad) yn ddisgynnydd i Llew Tegid, Penllyn a'r emynyddwraig Ann Griffiths. Daphne Eva Harrison (fy niweddar Fam) yn hanu o Swydd Corc De Iwerddon. (Mwngral 'Celtaidd' go iawn.) Yn lIe derbynioch chi eich addysg? Ysgol Gynradd Llan Ffestiniog (Ysgol Gynradd Bro Cynfal.) Atgofion hyfryd am athrawon fel Miss James; Mrs. Vaughan Jones ar annwyl garedig Mr. Goronwy Williams, (Mr. Williams, 'Standard Tw'.) Ysgol Sir Ffestiniog (Ysgol Y Moelwyn Blaenau Ffestiniog.) Atgofion hyfryd am gyfeillion fel James Allan Roberts; Brian Rushworth, ac eraill Pa ddiddordebau hamdden sydd gennych? 'Hamdden' wedi mynd yn beth prin iawn ond mi fyddai'n mynnu mod i'n cael peth! Hwylio (rasio) Llong hwyliau o'r enw 'Panache' ym Mae Ceredigion neu arfordir Iwerddon. Fel dwi'n heneiddio, ac fe ddaw i pawb, treulio ambell i awr yn darllen neu fyfyrio'n dawel. Beth yw eich hoff raglen ar y radio/teledu? Y rhaglenni sy'n cael eu cynhyrchu gan gwmnïau sydd wedi fy nghyflogi i ymddangos ynddynt! Dwi'n cael dileit mawr mewn gwylio rhaglenni dogfen boed yn trin a thrafod natur neu agweddau o gymdeithas. Mae rhaglenni comedi da wedi mynd yn bethau prin iawn. Pa bynnag gyfrwng sydd dan sylw os oes yna ormodiaeth o'r iaith fain o fewn rhaglen Gymraeg ei hiaith waeth pa mor ddiddorol ydi'r cynnwys fe gaiff y botwm gen i. Iaith sathredig yn beth arall sy'n tynnu dagra a gwneud imi droi'r cloc yn ôl, a holi fy hun yn dawel be goblyn oedd y pwrpas imi dreulio nosweithiau oer, nid yn unig ar ben mastiau teledu (gweler archifau Cymdeithas yr Iaith) ond hefyd yng ngharchardai Abertawe a Risley, Lloegr? Beth yw eich hoff fwyd? Mae'r Mici Plwm 'newydd' yn bwyta popeth heblaw pwdin 'sego' ych a fi!! Ers blwyddyn a hanner bellach dwi'n 65 pwys yn ysgafnach ac yn mynychu'r gampfa yn rheolaidd. Dwi'n bwyta popeth ond mewn cymedroldeb. Fe ges i'r 'cyri' diwethaf neithiwr! (Fe faswn i'n bwyta rhywbeth sy'n dod o deulu 'cyri' pob dydd tasa'n rhaid ac mae'n rhaid!!) Beth yw eich syniad o wyliau delfrydol? "Rhowch imi ynys". Oes na lyfr da a ddarllensoch yn ddiweddar? Oes The days of Henry Thoreau' (Walter Harding) a 'Walden' (Henry Thoreau) byth yn blino ail ddarllen y ddau ac fe gaiff y ddau lyfr wyliau 'ynysig' eto'r Hâf yma ynys yng ngwlad Groeg ac Ynys y Shetland. Oes yna rywun y buasech yn hoff o'i gyfarfod? Tydw i ddim cweit wedi dwad i adnabod fy hun yn iawn eto! Pryd gychwynnodd y diddordeb mewn actio? Gweler llun Michael Lloyd Jones (ieuanc) tra'n actio'r 'Prif Gymeriad' mewn cynhyrchiad gan Ysgol Gynradd Llan Ffestiniog ("Yr Hwsmyn"), yr actor Grey Evans yn gyd-ddisgybl, (ac yn sefyll y trydydd o'r dde. Rhag ofn tydi pawb ddim yn adnabod Mici y chweched o'r pen!)