Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AGENDA Gwestai Gwadd: Rhian Williams GODDEFGARWCH Gwylltio wnes i. Dydi hynny ddim yn beth anghyffredin, mae gen i ofn. Y gwallt coch 'na, meddai rhai. Esgus rhy handi, medda eraill. Cwmni yn Lloegr wrthododd dderbyn mai Heol Manod ydi fy nghyfeiriad ac nid Manod Road. Onid oedd eu cyfrifiadur nhw'n dweud mai'r ffurf Saesneg oedd yn gywir a doedd dim gwrth-ddweud y peiriant? Wedi egluro i'r ferch gynta, ac yna i'r Adran Gwasanaethu Cwsmeriaid, cael llythyr ganddynt i Heol Manod yn dweud na allent anfon ataf y peth a ofynnais amdano am nad oedd fy nghyfeiriad yn bodoli! Os oeddwn wedi gwylltio ar y ffôn, mi wylltais yn waeth wedyn a dechrau llythyru o ddifri. Ffoniodd cyfaill y noson ganlynol a gofyn i mi sgwennu rhywbeth. Alla'i ddim, medda fi, mae gen i angen sgwennu erthygl i Cristion ac nid yn unig dydwi ddim wedi dechrau ond does gen i ddim clem am beth i sgwennu. Sgwenna am oddefgarwch, medda fo. Goddefgarwch? A finnau newydd wylltio'n gacwn? Pa hawl fyddai gen i i sgwennu am beth felly? Dechrau meddwl am y goddefgarwch 'ma. "Y mae (cariad) yn goddefi'r eifhaf, yn credu i'r eithaf, yn gobeithio i'r eithaf, yn dal ati i'r eithaf' (1 Cor. 13:7). "Byddwchyn ostyngedigacaddfwynym mhobpeth, acyn amyneddgar. gan oddef eich gilydd mewn cariad. Ymrowchigadw, ârhwymyn tangnefedd,yrundodymae'r Ysbrydyn ei roi." (Eff. 4:2) Dyna fi'n methu'n siwr, medda fi. Dydi'r goddefgarwch 'ma ddim yn dod yn hawdd i mi. Rhaid ffrwyno tafod a meddwl cyn siarad, 0 leiaf, ond rhaid cael rhywbeth dyfnach a mwy cadarnhaol nac ymatal i fod yn wir oddefgar. Does yna sôn am y Cristnogion cynnar yn goddef carchar ac erledigaeth, caledi ac adfyd, gwaradwydd a cham oherwydd eu cred? Efallai nad ydi'n byd gorllewinol ni'n rhoi'r amgylchiadau hynny ger ein bron ond mae'r Cristnogion cynnar hefyd yn goddef ei gilydd, neu o leiaf yn cael eu siarsio i wneud hynny. Ond arhoswch funud, mae 'na sôn hefyd yn yr Epistolau na ddylen nhw fod yn goddef gau-broffwydi na drygioni ac mae digon o sôn yn yr Hen Destament am Dduw yn gwrthod goddef camwri'i bobl ddim munud hwy e.e. "Gwrando, dilwyfh, a chyngor yddinas. Aanghofìafenilliontwyllodrus yn nhŷ'r twyllwr, a'r mesur prin sy'n felltigedig? A oddefaf gloriannau twyllodrus, neu gyfres o bwysau ysgafn?" (Micha 6: 9-11) (onid ydi'r Mynegair newydd yn grêt o beth?) A yw goddefgarwch felly ynddo'i hun yn rheol na ddylid byth ei thorri? A chymeryd bod dogn da o oddefgarwch yn angenrheidiol at gydfyw o fewn eglwys neu gymdeithas, ac yn sicr mae hynny'n wir yn wyneb amrywiaeth dynolryw, onid oes gwerth mewn tynnu llinell lIe na ddylid goddef y tu hwnt iddi? Alla i ddim gweld y dylid goddef anghyfiawnder a dyna sut y ces fy hun yn swyddog undeb am gyfnod a sut y bu imi beidio â phrynu ffrwythau o Dde Affrig am flynyddoedd. Dyna pam y mae gennyf ddaliadau gwleidyddol a dyna pam y cwynaf am ddiffyg hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg. Dyna pam y ceir lleisiau'n codi ynglyn â dileu dyled y Trydydd Byd a dyna pam fod llochesi yn bodoli ar gyfer merched s/n cael eu cam-drin. Sgwnni nad yw hi'n anghywir i oddef anghyfiawnder o'r fath? Beth wedyn am oddef barn eraill? Un o ystyron technegol y gair yw Goddefgarwch ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg o'r hyn a ystyrid yn sectau crefyddol Ymneilltuol ac onid da o beth yw goddefiad yn yr ystyr yma? Goddef hawl i farn wahanol, goddef trafodaeth agored ar destunau ffydd, goddef ymchwil fydd yn ymestyn dealltwriaeth, ond goddef pob barn, hyd yn oed y rheiny sy'n arwain at drais yn erbyn carfanau o gymdeithas neu hil wahanol? Sgersli bîlif! A ddylai bod pendraw i'n goddefiad fel Cristnogion o'n cymdeithas? Oni ddylem fod yn codi llais yn erbyn nid yn unig anghyfiawnder ond hefyd yn erbyn secwlariaeth ac anfoesoldeb ein hoes? A yw goddef heb ddweud gair yn erbyn tueddiadau rhwygol ein cymdeithas nid yn oddefgarwch sy'n brawf o gadernid ffydd a chred ond yn hytrach yn glaerineb? Troi at Eiriadur y Brifysgol a chael bod sawl ystyr i'r gair: yn eu plith amynedd, hirymarhouster, goddefiad, caniatâd, gadawiad i beth fod, dioddefaint. Iawn cyfri goddefgarwch yn rhinwedd pan ei fod yn golygu amynedd i wrando a chydfyw. Iawn gweld rhinwedd mewn dioddef dros Grist. Ond ydi hi'n rhinwedd bod yn hirymarhous yn lle gweithredu bob tro? A oes ffasiwn beth â bod â gormod o amynedd i aros am rywbeth na ddaw byth heb ymdrech? Drwy wneud a dweud dim yn groes a yw goddefgarwch weithiau yn ffordd o roi caniatâdiddrwg? "Osnadywdyngyda mi, yn fy erbyn i y mae" (Luc 11:23)? Mi hoffwn i ddeall yn well pa Ie mae'r llinell rhwng goddefgarwch a llwfrdra, rhwng goddefgarwch a diffyg cadernid yn y ffydd, rhwng goddefgarwch a pheidio â defnyddio'n meddyliau a'n cyrff yng ngwaith Duw. Pryd mae goddefgarwch yn rhinwedd a phryd yn rhwystr? Pryd dylid cau ceg a phryd lefaru? Meddai Reinhold Niebuhr: "ODduw, dyroinni'rserenedd idderbynyrhyn na ellir mo'i newid, ydewrderinewidyrhynygeUteinewid, a'r doethineb i fedru gwahaniaethu rhyngddynt Goddefgarwch yn rhinwedd ac nid yn wendid? yn wyneb eglwysi llugoer, yn wyneb enwadau disymud, yn wyneb traddodiad digyfnewid, yn wyneb cynulleidfaoedd swrth, yn wyneb pwyllgorau di-weledigaeth? Gweddïaf am Ysbryd i adnabod y gwahaniaeth ac i gymryd o ddifri rhybudd y Pregethwr, fel y darllenais mewn gwasanaeth yn ddiweddar, "Paid â bodyn fyrbwyll â'th enau na bodarfrys o flaen Duw." (Preg. 5:2). Meddai'r Golygydd yn ei lythyr ataf, "Ond o'ch nabod mae gennych ddigon i'w ddweud." Gweddïaf am oddefgarwch fydd yn gwneud y dweud hwnnw'n ddoeth!