Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mynegair i'r Beibl Cymraeg Newydd Y mae cyhoeddi Mynegair cyüawn fel yr un a gyhoeddwyd ym Medi 1998 yn ddigwyddiad o bwys. Y gwir yw nad ydym erioed wedi cael Mynegair Ysgrythurol cyflawn a boddhaol yn Gymraeg. Fe gyhoeddwyd rhai, wrth gwrs; y mae rhestr ohonynt i'w chael yn y Mynegairhwn. Ond rhaid cyfaddef mai annigonol yw'r gorau ohonynt. Y mae hynny'n beth rhyfedd rywsut, o gofio'r toreth o ddefnyddiau yn ymwneud â'r Beibl sydd wedi eu cyhoeddi dros bedair canrif. Cafwyd dau eiriadur Ysgrythurol rhagorol, y naill gan Thomas Charles a'r llall gan Adran Ddiwinyddol Urdd y Graddedigion. Ac fe gafwyd esboniadau di-rif ar wahanol lyfrau'r Beibl- rhai ohonynt yn wych iawn, ac eraill heb fod felly. Ond ni fuom mor lwcus gyda'r mynegeion. Y mae'r rheswm am y bwlch hwn yn amlwg; fe fyddai eisiau peiriant o ddyn i eistedd i lawr i gyfansoddi mynegair llawn i'r Beibl. Byddai gan hwnnw'r gwaith blinderus o gofnodi yn gyntaf, o gyfundrefnu wedyn, ac yn y diwedd copì'o'r cyfan yn gyfanwaith swmpus i'w argraffu. Dyna ddigon o dasg i dorri calon y dewraf o ysgolheigion. Pan ddywedodd fy nghyfaill O. E. Evans yn ôl yn 1988, blwyddyn cyhoeddi Y Beibl Cymraeg Newydd, ei fod yn bwriadu mynd ati i lunio Mynegair, yr oedd llawenydd mawr oherwydd hynny, gan y gwyddem y caem fynegair llawn a safonol. Erbyn heddiw y mae hynny'n bosibl. Yr oedd YBeiblCymraegNewyddar ddisgiau, a thrwy ddefnyddio technoleg fodern fe ellid casglu'r defnyddiau, eu rhestru a'u gosod mewn trefn yn weddol ddi-drafferth. Y mae'r Mynegair newydd hwn yn gyfrol hardd o yn agos i 1200 0 dudalennau, a'r rheini mewn colofnau dwbl, ac yn cynnwys miloedd ar filoedd o gyfeiriadau. Ac nid yw'r gyfrol hon yn cynnwys gan Yr Athro Gwilym H. Jones popeth; fersiwn ychydig yn llai yw'r gyfrol argraffedig o fersiwn oll- gynhwysfawr y gobeithir ei gael ar y we yn y Llyfrgell Genedlaethol. Rhyfeddol yn wir yw'r ffordd y mae'r gyfrol hon wedi dod i olau dydd, ac am y defnydd effeithiol o'r dechnoleg hon yr ydym yn drwm yn nyled yr Is-olygydd, David Robinson. Yr ydym yn gwerthfawrogi llafur di-arbed y ddau ohonynt. Y mae adnod yn y Beibl yn sôn am A oes gennych docynnau llyfrau i'w cyfnewid? BEIBL CYMRAEG NEWYDD Owen E Evans a David Robinson 1216 tudalen, 276 x 201mm, clawr caled Yn eich siop lyfrau nawr dderbyn yn ddwbl o law'r Arglwydd' (bydd y Mynegairyn gymorth i ddod o hyd iddi!) Nid derbyn cosb ddwbl a wnaeth Owen Evans, ond ymroi i dasg ddwbl. Bu wrthi am chwarter canrif ar YBeibl Cymraeg Newydd, ac yna ymroi ati am 10 mlynedd arall i baratoi'r Mynegair. Llongyfarchwn ef ar ddod â'r dasg i ben; yr ydym yn ddiolchgar iddo am y fath gymwynas, a gobeithiwn y caiff ei wobr o wybod y bydd defnydd helaeth ar y gyfrol. Beth am brynu MYNEGAIR I'R Golygyddion £ 30.00