Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Moelwyn a'i Emynau Ar lawer ystyr yr oedd John Gruffydd Moelwyn Hughes (1866-1944) yn nodweddiadol o ysgol y bardd-bregethwr a gâi gymaint o glod a sylw'r werin Gymraeg ar ddechrau'r ganrif hon. Yr oedd yn un o gewri'r pulpud ar y pryd, a chyda nifer o rai eraill, yn arloeswr y delyneg. Fodd bynnag, saif un gwahaniaeth aruthrol fawr rhwng Moelwyn a'i gymrodyr: troes ei gefn ar y sefydliad eisteddfodol, yn wir beirniadai'r sefydliad hwnnw'n ddiflewyn ar dafod ar adegau: Credaf innau na wawrìa oesauryrawen Gymraeg hyd nes rhyddhao eihunanyn llwyr oddiwrth ddylan wad yr eisteddfod. (O'r Rhagymadrodd i Ganiadau Moelwyn: y Drydedd Gyfres) Yn debyg i ambell fardd nodedig o'i flàen, megis Robert ap Gwilym Ddu, ac yn wahanol i'r mwyafrif o feirdd enwog ei gyfnod yr oedd yn uchelgais bendant ganddynt ennill rhai o'i phrif wobrau ystyriai Moelwyn yr eisteddfod a'r peiriant cystadlu'n fagl ar ddatblygiad celfyddyd a meddwl barddoniaeth Gymraeg. Nid yw'n syn felly mai unwaith yn unig, hyd y gwyddys, y gwahoddwyd ef i feirniadu un o brif gystadlaethau'r Genedlaethol. Ym Mangor ym 1931, Moelwyn, ynghyd â Dyfnallt a W.J. Gruffydd, oedd beirniad y Goron. Daeth 24 o gynigion i'w hystyried, ac yr oedd Dyfnallt a Gruffydd yn gwbl esmwyth eu meddwl mai 'Mordan' oedd y gorau. Fe wyr y cyfarwydd mai ffugenw Cynan oedd hwnnw, ac enillodd ei drydedd Goron. Yr oedd Moelwyn, ar y llaw arall, yn feirniadol iawn o'r holl gystadleuaeth ac mewn beirniadaeth 25 tudalen (!) mynegodd ei farn yn unplyg a chroyw: Waethpa morniferus fo rhagoriaethau ymgeisydd, ni ddylid 'mo'i wobrwyo onid 'yw'n bur, dyrchafol, urddasol. (Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 1931) Yr oedd yn arbennig o lawdrwm ar bryddest Cynan: yn ei farn ef yr oedd y gerdd yn anhestunol ac yr oedd y bardd wedi puteinio'i awen: "Gresyn fod gwr o athrylith ddiamheuol heb sylweddoli'i gyfrifoldeb a'i gyfle (Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 1931 t.87) Hawdd synhwyro yma ddiffuantrwydd a dewrder Moelwyn, a rhaid edmygu cysondeb ei farn a chryfder ei safiad. Pennod annodweddiadol o'i bererindod fu cysylltiad Moelwyn â'r eisteddfod, eithr gwelid yr un rhinweddau ynddo, ei onestrwydd llwyr a'i amharodrwydd i aberthu egwyddorion sylfaenol ei fywyd ar allor poblogrwydd a bri, yn dod i'r brig ar adegau pwysicach. Ar hyd ei oes bu Moelwyn yn sosialydd, yn genedlaetholwr a: yn heddychwr, ac er na fu'n ffasiynol i lefaru'n gyhoeddus am y pethau hyn bob amser, pan gafodd un o'i lwyfannau gan y Dr Kathryn Jenkins gorau posib sef ei araith o gadair Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru traddododd anerchiad gyda'r mwyaf gwleidyddol a fu erioed. Yn oes anterth yr Efengyl Gymdeithasol, soniodd Moelwyn mewn modd gwbl ddadleuol, am y credoau a fu'n ganllaw iddo fel Cristion a gweinidog i Iesu Grist. Y mae ffydd a chyffes bersonol Moelwyn i'w gweld ymhob rhan o'i waith llenyddol hefyd. Cyhoeddodd bedair cyfrol o Ganiadau rhwng 1893 a 1914, a chyhoeddwyd Caneuon Olaf Moelwyn un mlynedd ar ddeg ar ôl ei farw. Nid anodd dod o hyd i'r pregethwr, y meddyliwr crefyddol a'r athronydd y tu ôl i'r cerddi. Yn ei gerddi natur nid bod cymaint â hynny ohonynt, yn fwy nag yr ymddiddorai mewn cerddi serch clyw melodïau'r cread yn canu clod y Creawdwr, ac yn gyffredinol yn ei waith daw'r gynneddf i greu moeswers i'r golwg yn gyson. Yr oedd hyn, wrth gwrs, yn gwbl nodweddiadol o'i gyfnod. Er enghraifft, yn ei feirniadaeth yntau ar y Goron ym 1931, cwynodd W.J. Gruffydd am duedd bron pob un o'r beirdd i weld arwyddocâd crefyddol ym mhob agwedd ar bob testun! Cyfraniad pennaf Moelwyn i ni heddiw yw y ddau neu dri o'i emynau a ddeil yn wirioneddol boblogaidd, a'i gyhoeddiadau ym maes beirniadaeth lenyddol a diwinyddol ar yr emyn. Fel Elfed a ymddiddorai ym mhob agwedd ar emynyddiaeth Cymru ac Ewrop, yr oedd gan Moelwyn hefyd farn bendant ar nodweddion ysbrydol a llenyddol emyn. Daeth hyn i'r amlwg yn y dauddegau gyda chyhoeddi Pedair Cymwynas Pantycelyn (1922) a Mr. Saunders Lewis a Williams Pantycelyn (1928). Yr oedd y cyfnod hwn yn un pwysig a chynhyrchiol iawn ei ymdriniaethau ar emynyddiaeth. Diau i ddathlu daucanmlwyddiant geni Pantycelyn ym 1917 roi hwb eithriadol i'r gweithgarwch. (Gyda llaw, gallai gwraig Moelwyn, Mya, olrhain cysylltiad â Williams ac ochr