Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ei mam. Rhaid i mi gydnabod o'r cyfan y gwn am Moelwyn a Mya, bu eu perthynas hwythau'n ddigon tebyg i fywyd dedwydd a sefydlog Mali a Williams mawr yw'r clod i'r gwragedd am hyn!) Yn ei ddehongliad o bererindod ysbrydol a llenyddol Pantycelyn, rhydd Moelwyn lawer o bwyslais ar ei gyfraniad i'r Diwygiad Methodistaidd a'r modd y bwydwyd ei awen gan brofiadau'r saint yn ogystal a'i brofiadau ef ei hun. Ni allai ymateb yn amgenach i'r ffigwr cawraidd hwn, wedi'r cwbl fel cennad y Gair wrth ei waith, a phrydydd y Ffydd yn ei emynau, yr oedd Moelwyn yn ddiogel yn llinach Pantycelyn. Emynau Moelwyn O'r tri emyn gan Moelwyn y ceir canu gweddol o gyson arnynt gan gynulleidfaoedd heddiw, bu mwy o drafod ar destun 'Fy Nhad o'r nef, O! gwrando 'nghri', nau'r ddau arall: Fy Nad o'r Nef, O! gwrando 'nghri; Un o'th eiddilaf blant wyf fi: O! clyw fy llef a thrugarha, A dod i mi y doniau da. Yr ymadrodd 'y doniau da', neu fel y sgrifennodd Moelwyn yn wreiddiol, 'y pethau da', a roes fod i'r drafodaeth, a hynny oherwydd ymateb golygyddion Llyfr Emynau 1927 y Methodistiaid i'r ymadrodd olaf hwnnw. Mae'r stori'n un gyfarwydd, ac feli croniclwyd gan Moelwyn ei hun yn Trysorfa'r Planta chan John Thickens yn Y Goleuad. Oherwydd tuedd pobl y gogledd i ddefnyddio geiriau'r emynydd am 'felysion' ni fynnai'r golygyddion ei gynnwys yn rhan o'r emyn. Yn rhy aml fe wnaethom ni'r Cymru ddotio at hanesion pert neu dramgwyddus neu drychinebus a roes fod i'n hemynau, gan anghofio am eu dilysrwydd ysbrydol a'u cynnwys sylweddol. Pobl y profedigaethau yn lle pobl y profiadau a fuom ers llawer, llawer dydd. Cynnyrch ieuenctid Moelwyn yw'r emyn, ddiwrnod ei benblwydd yn ddeunaw oed (30 Mai 1884), ac effaith pregeth arno a'i ysgogodd i fyfyrio am y pethau da a rydd ein Duw i'w bobl. Mae ysbrydoledd yr emyn yn aeddfed iawn o gofio am oedran yr emynydd: Fe all mai'r storom fawr ei grym A ddaw â'r pethau gorau im; Fe all mai drygau'r byd a wna I'm henaid geisio'r doniau da. Derbyn trefn Rhagluniaeth Duw a wna Moelwyn yma, gyda'r sylweddoliad mai yng nghanol profiadau negyddol bywyd yn aml y caiff cymeriad ysbrydol dyn ei lunio a'i gryfhau. Emyn mwyaf Moelwyn yn ddiamau yw 'Pwy a'm dwg i'r Ddinas gadarn?' Mae'n gyfanwaith mawreddog, a chystal dweud bod tôn Llew Madog, Tyddyn Llwyn a roes fod i'r emyn yn y lle cyntaf, yn gyfraniad gwerthfawr at ddwysder y geiriau. Ar ddiwrnod ei benblwydd y sgrifennodd Moelwyn yr emyn hwn hefyd, a'r bardd pedair ar bymtheg oed erbyn hyn, gartref ar ei ben ei hun ar nos Sul wedi colli ei gyhoeddiad i bregethu y diwrnod hwnnw oherwydd y ddannodd. Gan agor ei Feibl, träwyd ef gan rhythm a chadernid cwestiwn y Salmydd yn Salm 60:9 a 10: 'Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn? Pwy a'm harwain hyd Edom? Onid tydi, Dduw Y Gair a fu'n ysbrydiaeth i Moelwyn ar y noson ddiflas honno yn ei hanes felly, ac y mae trwch y gyfeiriadaeth Feiblaidd sydd yn yr emyn yn brawf o ehangder a dyfnder ei fyfyrdod yn yr ysgrythurau. Ond y mae'r emyn hefyd yn hynod grefftus a'r esgyniad naturiol yn yr adeiladwaith yn peri i'r credadun esgyn yr un pryd i'r ddinas sanctaidd a phinacl ffydd: Iesu a'm dwg i'r Ddinas gadarn: Derfydd crwydro'r anial maith, Canu wnaf y gainc anorffen Am fy nwyn i ben fy nhaith; Iechydwriaeth Ydyw ei magwyrydd hi. Yn debyg i'w arwr Pantycelyn gallai Moelwyn yntau gyrraedd uchafbwynt o sicrwydd terfynol ar ddiwedd emyn. Mae'n gwbl briodol mai fel "bardd y ddinas gadarn" y cyfenwyd Moelwyn yn y gyrfol deyrnged iddo a gyhoeddwyd gan Wasg Pantycelyn dan olygyddiaeth Dr. Brynley F. Roberts ym 1996. RADD ALLANOL Prifysgol Cymru A hoffech wireddu breuddwyd oes? A hoffech wynebu her addysg brifysgol? A hoffech astudio ar gyfer gradd BA? Os mai ymateb cadarnhaol fu gennych i'r cwestiynau hyn, yna mae gan Brifysgol Cymru y cynllun delfrydol ar eich cyfer chi.. Mae'r RADD ALLANOL yn gynllun gwych ar gyfer y sawl sydd am ddilyn cyrsiau prifysgol yn ystod ei oriau hamdden ac yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau dan ofal rhai o ddarlithwyr mwyaf profiadol Prifysgol Cymru, Aberystwyth. ANFONWCH NAWR am restr gyflawn o'r cyrsiau a gynigir, a manulion vellach. Prifysgol Cymru Aberystwyth The University oí Wala r Lynne jones, uarntnyaa a goiai y Radd Allanol, Prifysgol Cymru, Yr Hen Goleg, Stryd y Brenin, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2AX. Ffôn: 01970 622049/50 E-bost: ppj@aber.ac.uk Tudalennau ar y We: http:www.aber.ac.uk/~cymwww/Allano_ Yn Hybu Rhagoriaeth meum Dysgu ac Ymchwil