Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr hyn a ofynnir amlaf i blant yw hyn: "Beth dych chi am 'neud pan dyfwch chi fyny?" A dyna'r cwestiwn a ofynnais innau un tro i ddosbarth iau yr Ysgol Sul. Roedd pob bachgen a'i fryd ar bêl-droed a phob merch ar fagu plant. Ond roedd un yn eu plith yn gwbwl fud a dyma droi at y seithmlwydd swil a gofyn: "A beth wyt ti am 'neud Richard?" Dyma'i ateb: "Riteiro"! Erbyn hyn, dyna uchelgais canran uchel o bobl ein dydd, oherwydd, wedi ymddeol cânt oll fywyd gwell. Wn i ddim a yw hynny'n wir, ond, yn ddiau, y mae'n fywyd gwahanol. Mor wahanol fel y darperir cyrsiau i'n paratoi ar gyfer y cyfnod newydd; mae'n rhaid ein dysgu i segura. Yn ôl yr arbenigwyr, dyma wna'r ymddeoledig yn ddiddig: Cerdded pob rhostir, dringo pob mynydd a seiclo milltiroedd heb symud o'r fan. Paentio tirluniau, cerfio campweithiau; gwnio a gwau a 'sgrifennu nofelau. Gweithio drwy'r wythnos yn siopau Barnados; cynorthwyo'r Groes Goch a mudiad Oxfam. Gwarchod yr wyrion, a thylwyth yr wyrion gan fynd â nhw i gyd yn rhes i bob man. Dyna'r canllawiau a'n gwna yn ddedwydd; bellach ry'n ni'n gwbwl rhydd! Un arfer yn unig sy'n waharddedig eistedd nôl i hel atgofion; na feiddied neb wneud hynny! Ond wedi ymddeol, hel atgofion yw'r gorchwyl hawsaf ohonyn nhw'i gyd. Erbyn hyn, mae'n haws cofio ddoe na chofio heddiw, mae'n haws cofio am nôl nac am nawr a daw dyddiau pur plentyndod yw fyw i'r côf. Cofio'r amser llon a chofio'r amser prudd; cofio hen wynebau a chofio hen rodfeydd; cofio hen weddïau a chofio chwedlau'r tir ac yn well na'r cyfan cofio beth oedd chwarae. Chwarae siop a chwarae ysgol; chwarae ty bach a mynd i'r cwrdd. Chwarae priodi a chwarae angladd y rhai prin o anal a phob cath a chi. A chyhoeddi emyn o'r Hen Ganiedydd un mil, un cant ac undeg a thri. "Nid wy'n gofyn bywyd moethus, •Riteiro' gan Nan Lewis aur y bydna'iberlau mân." Emyna luniwyd, ni a dybiem, i blant y coliers. Rhoddwyd botymau yn y casgliad. Daw'r cyfan yn ôl i'r côf yn gwbwl ddi-ymdrech; y cyfan, hynny yw, heblaw un peth Fedra'i yn fy myw gofio pryd y cwrddais i â'r Iesu. Mae na rai a all nodi'r dydd a'r eiliad ond ni fedraf i. Roedd Iesu yno erioed; presennol o'r dechreuad. Lan llofft; lawr llawr; tu fâs a thu fewn; roedd yn wastad yn un o'r cwmni. Yn yr ysgol; yn y caeau; ar lethrau'r tip glo ac yn y festri. Fe dyfon ni fyny yng nghwmni'r Iesu; roedd E wastad yn un ohonom ni. Ond wrth fynd yn hýn, aeth rhai i amau fod Iesu'n real ac aeth credu yn ei fodolaeth yn fater cymhleth. Yn awr rhaid wrth ddadl a thrafodaeth; cred ac athrawiaeth. Daeth diwinyddiaeth i'n cymysgu. Y diwinydd cyntaf i mi erioed ei gwrdd oedd Johny James! Gwr na chafodd fawr o addysg, ond yn hwyrddydd oes dechreuodd ddilyn dosbarthiadau nos y Parchedig Stanley John a'r Athro Dewi Z Phillips ac aeth i siarad am Barth, Tillich a Bonhoeffer fel petae nhw'n byw drws nesaf. Wrth fynd i Ysgol Sul Horeb, Treforus am y waith gyntaf, dyma ei gwestiwn i mi: "A beth i chi Mrs. Lewis yn feddwl am existentialism?" Daeth Johny James i gredu'n well ym modolaeth Duw a'i fab Iesu Grist trwy gymorth diwinyddiaeth, ond nid dyna'r cyfrwng sy'n cynorthwyo pawb. Y mae byw yng nghwmni pobol dda yn fodd i gynnal ffydd nifer ohonom. Byddai Mrs. Fanw Jones (merch y diweddar Barchedig John Salmon) yn bywhau drwyddi wrth sôn am bobl dda ac yn codi ei llais wrth gyfeirio atynt. "Halen y ddaear," canai, ac yna'n uwch yn Saesneg: "Salt of the earth; salt of the earth." Yn ôl y Geiriadur Saesneg ystyr y term yw: "people for whose existence the world is better; the moral élite." Ac yn ôl Geiriadur yr Academi y gair Cymraeg am "élite" yw y goreuon. Wedi cyfnod hir yn y weinidogaeth gydag Eifion, yr hyn sy'n aros fwyaf yn y côf yw cwmni'r "goreuon", y bobl hynny â nod Iesu Grist ar eu talcennau. Cofiaf glywed y diweddar Barchedig D.J. Roberts, Aberteifi'n dweud: "Does dim fel y weinidogaeth i'ch codi chi i'r entrychion a 'does dim fel y weinidogaeth i'ch gadael chi'n swp ar lawr." Fe wyr pob gweinidog am gyfnodau anodd a thrist ond fe wyr pob gweinidog hefyd am brofiadau pen y mynydd ac ymhob profiad y mae Duw'n defnyddio'r "goreuon" i'w gynnal. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwawdiwyd a beirniadwyd yr Eglwys yn ddi-dostur ond pan y caeir drws pob llan a chapel, pa sefydliad arall fydd ar gael i fagu pobl dda; i fagu'r goreuon? Pa sefydliad arall fydd yn creu dynion a'u bryd ar wneud y byd yn lanach byd? Er symud i bedwar cylch yn ystod y deugain mlynedd a bod yn rhan o fywyd deg o gapeli, mae'n syndod mor debyg yw pobl dda y diadelloedd. Daethant oll o dan ddylanwad yr un Efengyl ac am hynny y maent yn debyg o ran daioni. Yr un egwyddorion sydd gan bobl dda Ceredigion a Chaerfyrddin; pobl dda Cwm Gwendraeth a Chwm Tawe. Am hynny, pwy all anghofio'r rhain? Ac eto, mae'n rhaid ymatal rhag hel atgofion wedi ymddeol meddent hwy. Yr hyn a'n gwna yn ddiddig yw: cerdded pob rhostir; dringo pob mynydd a seiclo milltiroedd heb symudo'rfan. Paentio tirluniau. Gweithio drwy'r wythnos yn siopau Barnados; cynorthwyo'r Groes Goch a mudiad Oxfam. Gwarchod yr wyrion a thylwyth yr wyrion gan fynd â nhw i gyd yn rhes i bob man. Beth a fynnwch chi wneud wedi tyfu i fyny?