Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y gyntaf mewn cyfres o chwe astudiaeth Feiblaidd ar: Yr Arglwydd dy Dduw gan yr Athro Gwilym H Jones 'Ydwyf yr hwn ydwyf' Fe ddechreuwn gydag ystrybed Llyfr Duw-ganolog yw'r Hen Destament'. Mewn gair Duwinyddiaeth yw ei ddiwinyddiaeth. Wrth geisio crynhoi cynnwys yr Hen Destament, fe ddywedodd un ysgolhaig blaenllaw ddiwedd y ganrif ddiwethaf mai dau wirionedd sylfaenol sydd ynddo 'Yahweh, Duw Israel; Israel, pobl Yahweh'. Ond eto, nid oes fawr o drafod ar y ddau wirionedd sylfaenol hyn. Nid mewn trin a thrafod syniadau yr ymddiddora'r Hen Destament; nid ei amcan yw ymchwilio i oblygiadau'r gosodiad hwn a'r gosodiad arall. Adrodd stori yn hytrach na thrafod syniadau y mae. Sôn a wna am y pethau a ddigwyddodd i Israel oherwydd ei pherthynas â Duw, ac nid yw'n cynnig trafodaeth ddiwinyddol ac athronyddol ar y syniad o Dduw. Tra'n sylweddoli mai peth peryglus yw ceisio symleiddio, y mae peth gwirionedd mewn dweud mai meddwl athronyddol yn trafod syniadau yw'r meddwl Groegaidd, ond mai meddwl diriaethol yn cyflwyno darluniau a digwyddiadau yw'r meddwl Hebreig. Y mae felly wahaniaeth sylfaenol rhwng meddylfryd Athen a meddylfryd Jerwsalem. Hyd yn oed yn y mannau lle mae Israel yn adrodd ei chyffes o ffydd, megis Deut. 26: 5-10, adrodd y stori a wneir ac nid cyflwyno rhestr o osodiadau diwinyddol. Amcan y gyfres hon o ysgrifau yw ceisio cyflwyno rhai agweddau ar y darlun o Dduw sydd i'w cael yn y stori. Pwy ydyw? O ddarllen y Beibl o'i gwr, y peth cyntaf un a ddywedir ar ddechrau'r stori yw 'Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a'r ddaear'. Ond ni cheir unrhyw gyflwyniad i ddweud pwy yw 'Duw', beth oedd ei dras ac o ble y daeth. Nid oes unrhyw awgrym ychwaith sut y cychwynnodd ac y tyfodd y syniad o Dduw a'r ymwybyddiaeth ohono. Mae'n sicr y byddai hyn yn taro'n chwithig iawn i rai o gymdogion yr hen Hebreaid; yr oedd ganddynt hwy bantheon, neu deulu o dduwiau. Yr oedd y duwiau'n cyfathrachu ac yn cenhedlu, ac felly hawdd nodi tras duw a dweud pwy ydoedd. Ni rydd y Beibl unrhyw wybodaeth o'r fath am Dduw Israel. Yn wir, gellir cyfieithu'r adnod gyntaf o lyfr Genesis, fel y gwna rhai, fel hyn: 'Yn y dechreuad Duw. Creodd y nefoedd a'r ddaear'. O wthio'r hanes yn ôl cyn belled ac y medrir, fe ddeuir at y cychwyn cyntaf un pryd nad oedd ond Duw. Y cam naturiol i'w gymryd wedyn oedd symud oddi wrth y darlun hwn at ymgais fwy diwinyddol ac athronyddol i ddiffinio Duw fel y di-ddechrau a'r di- ddarfod. Ei enw Y mae'r Hen Destament yn ymarhous iawn i roi enw i Dduw. Yn ôl Ex. 3: 13-15 yr oedd ganddo enw; y llythrennau yn yr Hebraeg yw yhwh, a gyfieithir yn y Beibl Cymraeg fel 'Ydwyf'. Ond nid oedd yr Hebreaid yn awyddus iawn i ynganu enw Duw, ac i osgoi hynny y mae'r Beibl Hebraeg yn ddeheuig a chyson wedi rhoi llafariaid y gair 'Arglwydd' i'r llythrennau, a dyna pam y mae'r Beibl Cymraeg yn ddifeth yn cyfeirio at Dduw fel 'Yr ARGLWYDD' Ffordd arall i osgoi rhoi enw i Dduw oedd cyfeirio ato fel 'yr enw': dyna'r ffordd a ddefnyddid yn fynych iawn yn y traddodiad Iddewig. Yn Sgroliau'r Môr Marw ceir dyfais arall, sef rhoi pedwar dot yn y testun. Mater dyrys iawn yw ceisio egluro o ble y cafodd yr Hebreaid yr enw yma i Dduw. Un awgrym, a fu'n hynod o boblogaidd, yw i Foses ddysgu'r enw gan Jethro, ei dad-yng-nghyfraith, a ddisgrifir fel 'offeiriad Midian', ac un a fu'n aberthu gyda Moses ac Aaron ac yn cynghori Moses ynglyn â'r ffordd i weinyddu barn. Yr awgrym yw i Jethro drosglwyddo llawer o hen grefydd Midian i'w fab-yng-nghyfraith; ef a roddodd i'r Hebreaid yr enw ar Dduw, yr holl system o offrymau ac aberthau a'r drefn o weinyddu barn a chyfiawnder. Os derbynnir damcaniaeth fel hon, yr hyn a olyga Ex. 3: 15 yw fod Moses bellach wedi cael enw ar y Duw a addolwyd cyn hyn gan Abram, Isaac a Jacob, ond nad oedd ganddynt hwy enw iddo. Wrth gwrs, honiad y Beibl ei hun yw mai Duw roddodd ei enw yn uniongyrchol i Moses yn ateb i'w gais am gael gwybod pwy ydoedd. Dirgelwch Y mae'r ansicrwydd sydd ynglyn â tharddiad ac ystyr yr enw ar Dduw yn tanlinellu un gwirionedd beiblaidd pwysig amdano, sef mai dirgelwch ydyw. Nid yw o fewn gallu dyn i'w ddirnad yn llawn. Y mae hyn yn gyson â'r ymwrthod â thrafod syniadau haniaethol; y mae'n ffordd o ddweud na ellir byth ymgyrraedd at Dduw trwy drafod