Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

syniadau. Y mae y tu hwnt i bob ymgyrraedd deallusol; mysterium ydyw yng ngwir ystyr y gair. Ffordd ddiriaethol y Beibl o gyfleu hyn yw dweud fod Duw yn llefaru wrth y bobl 'mewn cwmwl teW (Ex. 19:9): dyna hefyd sydd y tu ôl i'r geiriau hyn wrth Moses: ni chei weldfywyneb, oherwyddnichaiffdynfyngweldabyw. cei weld fy nghefn, ondniwelirfywyneb(Ex. 33: 20.23). Pwyslais tebyg sydd yn y Testament Newydd hefyd pan sonia am 'ddoethineb Duw a'i dirgelwch, doethinebguddiedig' (1 Cor. 2:7). Pwysleisia'r emynwyr hwythau ei fod 'uwch cyrhaeddiad meddwl dyn'. Datguddiad Gan mai Duw roddodd ei enw, fe geir awgrym clir mai yn ôl yr hyn a ddatguddia ef ei hun yn unig y gellir amgyffred Duw. Ystrydeb arall yw dweud mai 'crefydd datguddiad yw crefydd y Beibl1. Y mae pwynt i gwestiwn Soffar yn llyfr Job: 'A elhdiddarganfbddirgelwchDuw, neu gyrraedd at gyflawnder yr Hollalluog?'(11:7). A oes yna ddyfodol i Wesleaeth yng Nghymru? Sefydlwyd Wesleaeth Gymraeg yn swyddogol yn y flwyddyn 1800 pan roddodd y Gynhadledd yn Llundain sêl ei bendith ar agor cenhadaeth yn y gogledd ar yr un amser ag yr agorwyd cenhadaeth i'r Caribi. Dau weinidog go glogyrnaidd eu meistrolaeth ar y Gymraeg, sef John Hughes ac Owen Davies, a ddaeth i Wrecsam i roi cynorthwy i ymdrechion arloesol Evan Roberts yn Ninbych, ac Edward Jones a John Bryan yn Rhuthun. Symbyliad cychwyn y genhadaeth oedd y teimlad cryf fod angen y pwyslais Arminaidd yng Nghymru yn wyneb y Galfiniaeth rhonc oedd wedi ysgubo'r wlad. Pwyslais Arminiaeth a John Wesley ei hun oedd: Mae angen ar bob un i gael ei achub. Mi all pob un gael ei achub. Mi all pob un wybod ei fod wedi ei achub. Mi all pob un gael ei achub i'r eithaf. Golygai hyn genhadaeth hollgynhwysol tuag bawb yn ddiwahan, beth bynnag eu hiaith neu eu sefyllfa mewn bywyd. Wrth gwrs yr oedd Wesleaeth Saesneg wedi cael ei sefydlu yn gynharach, yn yr ardaloedd Seisnig, ar yr arfordir yn y Dê a'r Gogledd, ac ar y ffiniau yng Nghaer, Manceinion, a'r Amwythig, trwy ddylanwad a phregethu John Wesley ei hun. Ond iaith felltigedig oedd y Gymraeg iddo fo, a gadawodd y gwaith o efengylu'r ardaloedd Cymraeg i'w gyfeillion Hywel Harries a William Williams. Cyrhaeddodd Wesleaeth Gymraeg y brig o ran aelodaeth Heb ymhelaethu, rhaid nodi fod yn yr hyn a ddywedir am Dduw nifer o gerrynt croes; gwaith diwinydd yw ceisio cysoni'r anghysonderau. Ar un llaw, pwysleisir mai dirgelwch ydyw; ar y llaw arall, awgrymir mai o Fidian trwy Moses y daeth gwybodaeth amdano. A yw ein gwybodaeth o Dduw felly wedi ei chyflyru gan amgylchiadau ac wedi ei chyfyngu oddi mewn i derfynau cyfnod a'i allu i amgyffred? Duw datguddiad ydyw; ond a yw'r datguddiad yn dibynnu ar sefyllfa a dealltwriaeth y sawl sy'n derbyn? A yw'r ffordd y daw datguddiad yn ddarostyngedig i'r ffordd y mae cyfnod arbennig yn meddwl ac yn deall? Cysondeb Awgrym arall a rydd yr adran ar enw Duw yw mai Duw sy'n gyson ydyw; 'Ydwyf yr hwn ydwyf. Dichon mai'r ystyr yw y bydd y bobl yn gwybod sut un yw Duw trwy brofi yr hyn y mae'n ei wneud; ac yn yr hyn a wna y mae bob amser yn gyson. Cwyd hynny hefyd nifer o gwestiynau: ai'r un yw'r Duw dicllon a'r Duw trugarog? a yw yr un yn ei gosb ac yn ei gariad? gan Martin Evans-Jones ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Ond ar i lawr mae pethau wedi mynd ers hynny. Yr oedd tair talaith yn bodoli gyda chymanfa flynyddol yn llywyddu ar y cwbwl hyd y saithdegau. (Cefais i y fraint o gael fy ordeinio yn un o'r rhai olaf, ym Machynlleth, yn 1972). Ond bellach dim ond un talaith dros y gwaith Cymraeg sydd ar ôl, a bregus iawn yw cyflwr honno, gyda dim ond 11 gweinidog amser llawn ac un ddiacones yn dal i wasanaethu. Ac o'r rheiny mae chwech wedi dod atom o'r gwaith Saesneg. Onid yw'n amser rhoi'r ffidil yn y to ac ildio i'r anorfod fod ein cenhadaeth ar ben? Mae'n debyg fod hyn yn wir bellach mewn llawer lle, achos fod y clefyd marwol wedi cydied yn ddyfn iawn. Ond eto credaf yn gryf fod cyfraniad arhosol i'w wneud eto gan y pwyslais Arminaidd sydd yn rhan mor angenrheidiol o'r efengyl, gyda'r amod ei fod yn cael ei gynnigoddimewn i'rmudiadecwmenaidd. I alluogi hyn mae Wesleaeth yng Nghymru yn ceisio dod a'i thy i drefn trwy bontio'r gagendor rhwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ein henwad fel y gallwn resymoli a rhannu ein hadnoddau ar y cyd heb fygythio'r naill na'r llall. Mae hyn yn gwneud synnwyr oddi mewn i'r Gymru gyfoes sydd bellach yn wlad ddwyieithog a dweud y lleiaf. Os oes cenhadaeth i fod gan yr eglwysi yn y mileniwm nesaf, mae'n rhaid iddi fod yn un ddwyieithog. Ac os yw Wesleaeth am gyfrannu yn hyn, rhaid iddi hithau fod parhad ar dudalen 15