Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Byw Gyda'n Gilydd neu Farw ar wahân Y mae crefydd gyfündrefnol Cymru yn derfynol wael. Colli tir, a hynny'n ddybryd, a wnawn i gyd. Dros y chwarter canrif ddiwethaf gostyngodd aelodaeth yr enwadau Cymreig o draean. Mewn patrwm o HanesyrAchos gan y Dr. Gwyn Lewis, Caernarfon yng Nghymdeithasfa'r Gogledd Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym Methesda mis Mai diwethaf cyflwynwyd ystadegau bod 40% o aelodau Henaduriaeth Arfon dros eu 60 oed gyda 66% o'r blaenoriaid dros yr oed hwnnw. 30% yn unig o aelodau sydd dan 40 oed. Os yw hyn yn wir am Bresbyteriaeth yn Arfon mae'n eithaf tebyg o fod yn wir am eglwysi Cymru'n gyffredinol. Awgrymwyd gennym yn ddiweddar fod dyddiau'r weinidogaeth draddodiadol wedi eu rhifo. Er na fu llawer o ymateb ni chafwyd unrhyw lais yn anghytuno. Afraid yw sôn am y baich cynyddol a llethol o gynnal ein hadeiladau; baich sy'n llyncu'r rhan fwyaf o arian, ymdrechion ac egni'r gweddill ffyddlon gyda'r canlyniad nad oes adnoddau ar gael i waith cenhadol o unrhyw fath. Yn wyneb hyn i gyd ymddengys bod dyddiau crefydd enwadol yng Nghymru wedi eu rhifo. Y mae hyn yr un mor wir am yr eglwysi mwyaf ag am yr enwadau llai. Yr unig wahaniaeth yw y bydd y broses o edwmo yn arafach gyda'r enwadau mwyaf. Oherwydd dwysder y sefyllfa y mae arafwch yr enwadau i agosáu at ei gilydd ac i uno yn syndod. Os ydym yn dymuno llwyddiant yr Efengyl yn ein gwlad ac yn credu fod gan yr eglwysi traddodiadol gyfraniad o bwys i'w wneud o hyd, un o'r atebion amlycaf i'n hargyfwng fyddai dyfod at ein gilydd. Cydnabyddwn y byddai'r rhai mwyaf radical yn credu mai gwell gadael i'r enwadau farw er mwyn cael bywyd newydd sbon. Ni allwn ni gytuno â'r gosodiad hwnnw. Credwn, er ei holl wendidau, y byddai hi'n ddyddiau du iawn ar Gristnogaeth yng Nghymru pe diflannai crefydd gyfundrefnol. Golygyddol Yn nyddiau cynnar ecwmeniaeth codwyd pob math o ddadleuon diwinyddol yn erbyn uno. Wrth i'r rhain gael eu hateb ac wrth i'r rhesymau dros uno ddyfod yn gryfach symudwyd y tir. Aethpwyd i godi bwganod ynteu am esgobion neu ddiffyg trefn, neu am gael ein llyncu gan forfil biwrocrataidd, ond wrth leisio'r rhagfarnau hyn dengys y gwrthwynebwyr dlodi eu crebwyll o drafodaethau rhyng eglwysig. Chwarae ar ofnau pobl yw un o'r ffyrdd mwyaf cyffredin, a hynaf, o ddylanwadu ar bobl gan wleidyddion ond go brin ei fod yn deilwng o Gristnogion. EIN CYFUNDREFNAU NEU'R DEYRNAS ? Er na fynnem fychanu argyhoeddiadau enwadol pobl onid materion eilradd yw'r rhai sy'n ein cadw ar wahân yn hytrach na mawrion bethau'r Ffydd ? Y syndod yw fod anghytuno llawer mwy oddi mewn i enwadau ar hanfodion y Ffydd nag sydd rhyngddynt â'i gilydd. Gall ffwndamentalwyr a radicaliaid gyd- fyw oddi mewn i'r un eglwys ond eto gall llywodraeth eglwysig, na fyddai unrhyw ddiwinydd gwerth ei halen yn barod i ddadlau ei fod yn rhan o hanfod y ffydd, ein cadw ar wahân fel enwadau. Gobeithio nad yw'n ormod o wamalrwydd awgrymu na fydd y Brenin Mawr yn poeni rhyw lawer ar Ddydd y Farn a fuom yn Bresbyteriaid neu'n Annibynwyr ffyddlon neu a oeddem yn yr olyniaeth apostolaidd ai peidio, neu a oedd ein bedydd yn fedydd credinwyr. Os ceir dadl o gwbl yn erbyn uno y dyddiau hyn yr un arferol yw ein bod mor wan fel na wnaiff uno unrhyw wir wahaniaeth. Mae'n hollol wir y byddai'n llawer iawn gwell pe baem wedi uno genhedlaeth yn ôl, ond dengys y mannau hynny yn y byd lle ffurfiwyd eglwysi unedig eu bod wedi arwain at fywyd ac ysbryd newydd. Yng Nghymru y mae digon o adnoddau gennym yn y cynulleidfaoedd a'r enwadau i sicrhau tystiolaeth unedig gref ac effeithiol yn lleol ac yn genedlaethol. Ar y cyfan nid codi ofnau na chynnig dadleuon a wneir yn erbyn uno. Yr hyn sy'n ein cadw rhag uno yw'r llesgedd parlysol sydd wedi ein meddiannu gan arwain at amharodrwydd i wynebu unrhyw newid. Gobaith llawer yw y bydd pethau yn parhau yn ystod eu hoes a'u nod yw gwneud eu gorau i geisio sicrhau hyn heb falio'n ormodol am genedlaethau'r dyfodol. Dylid sylweddoli nad yw hyn ond ffurf ar hunanoldeb. Os yw'r capel neu'r gyfundrefn yn parhau tra byddaf fi pam ddylwn i boeni am y rhai sy'n dyfod ar fy ôl. Fy nghysur a'm lles i sy'n bwysig. Naw wfft i'm plant a phlant fy mhlant. Y gwir plaen yw os na ddeuwn at ein gilydd, a hynny'n fuan ni fydd yng Nghymru ymhen ugain mlynedd ond ychydig o gynulleidfoedd lleol ac ysgerbydau o enwadau, gyda'r dystiolaeth Gristnogol bron wedi diflannu o'n gwlad. Wrth reswm, ynfydrwydd fyddai credu bod uno am ddatrys ein problemau i gyd, oherwydd mae argyfwng crefyddol ein hoes yn ddyfnach o lawer na hynny, ond byddai dyfod at ein gilydd yn rhoddi mwy o nerth ac adnoddau inni wynebu'r argyfwng hwnnw. Byddai cael mwy o gydweithio yn gyfraniad o bwys ond nid dyna'r ateb am y rheswm syml tra bydd enwadau, iddynt hwy y rhoddwn ein teyrngarwch pennaf a dim ond wrth i'r peiriant enwadol fethu y trown at gydweithio. Dangosodd cynllun ardderchog Gweinidogaeth Bro hyn. Dim ond wrth i enwadau fethu trefnu gweinidogaeth oddi mewn i'w henwad yr ystyrir gweinidogaeth bro. Ym mis Ionawr cynhelir Yr Wythnos Weddiam Undeb Cristnogol. Bydd llawer tref a phentref yn cynnal oedfaon undebol, fel ag y gwnaethpwyd ers cenhedlaeth a rhagor erbyn hyn, ond ofer y cyfan os na benderfynwn fynd ati i geisio ateb ein gweddïau ein hunain. Bydd 1999 yn flwyddyn o bwys yng Nghymru gyda chyhoeddi'r cynllun i uno'r enwadau Ymneilltuol a datblygiadau oddi mewn i Enfys fel penderfynu ar esgob ecwmenaidd. A fyddwn, fel o'r blaen, yn eu gwrthod a gweld dirywiad pellach ymhen amser neu a fyddwn yn mentro a'u derbyn? Y perygl yw mai gwrthod a wnawn gan adael i'n plant dalu'r pris. Pris anferth fydd hynny a mawr fydd ein cyfrifoldeb ni.