Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mi fydd Tecwyn Ifan yn gyfarwydd i ddarllenwyr Cristion fel canwr a chyfansoddwr ac fel gweinidog. Yma cawn gyfle i'w holi am ei fywyd. BYWGRAFFIADOL Beth yw eich enw llawn? Tecwyn Rhys Ifan A beth am eich gwreiddiau? Roedd fy rhieni yn dod o Salem Llangyfelach. Ganwyd fi yng Nglanaman, a bûm yn byw yn Ystalyfera nes oeddwn yn 6. Roedd fy nhad yn weinidog yno. Yna symudodd y teulu i Login sydd ar y ffm rhwng Sir Gar a Sir Benfro. Oddi yno yr es innau i Fangor yn 1970. Yn lle y derbynioch eich addysg? Ysgol Ffynnonwen, Login, Ysgol Ramadeg Hendygwyn ar Daf a Choleg y Bedyddwyr Bangor. DIDDORDEBAU Pa ddiddordebau hamdden sydd gennych? Pysgota, gwylio pêl-droed, cerdded a beicio. Beth yw eich hoff raglen radio/ teledu? Rhaglen werin gan Gwyndaf Roberts ar Radio Cymru, a "Cerddwn Ymlaen" ar S4C. Beth yw eich syniad o wyliau delfrydol? Pabell yn Llydaw. Oes yna lyfr difyr a ddarllenoch yn ddiweddar? Blodyn Tatws Eirug Wyn a Creativity in Worship Paul Alexander. Beth yw eich hoff gerddoriaeth? Gwerin cyfoes grwpiau fel Mojos a Gwerinos Rwyf hefyd yn hoff o wrando ar Alan Stivell, Meredydd Evans, Siantiau y Myneich Gregoraidd a phob math o gerddoriaeth mewn gwirionedd. GYFRA A FFYDD Rydych yn weinidog gyda'r Bedyddwyr. Beth sy'n rhoi y boddhâd mwyaf yn eich gwaith? Bedyddio pobl ifanc ar eu proffes o ffydd yn yr Arglwydd Iesu. Daeth 1 5 yn aelod yn y cylch y llynedd. Nhw yw'r dyfodol. 1 Beth yw agweddau anoddaf y gwaith? Cael pobl i dderbyn nad brics a mortar yw eglwys Crist. Fuoch chi'n mynd i'r Ysgol Sul? Do yn Ystalyfera a Login. Yn anffodus oherwydd fy mod yn Weinidog ar dair Eglwys ac yn pregethu dair gwaith y Sul ni chaf gyfle i fynychu. Byddwn yn falch o fedru mynd i'r Ysgol Sul a chredafy dylai pob Gweinidog gael y cyfle oherwydd mae "trafod" gyda phob oedran mor bwysig. Oes yna werth i'r Ysgol Sul heddiw? Oes, yn bendant. Yno caiff pob oedran gyfle i ddod i adnabod y Beibl, ei drafod a'i ddehongli, a gweld ei berthnasedd i'w bywyd nhw. Beth yw cylch eich gweinidogaeth? Tair eglwys Fedyddiedig Nazareth Hendygwyn ar Daf, Ramoth Cwmfelin Mynach, a Chalfaria Login. Pa brofiadau sydd wedi cael dylanwad arnoch? Bod yng Ngholeg Bedyddwyr Bangor pan oedd y diweddar Barchg. D. Eirwyn Morgan yn Athro a Phrifathro yno. Cynghorodd ni i weithio pregeth gyda Beibl yn un llaw a phapur newydd yn y llall. Hefyd, gweld cyflwyniad gan gwmni