Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Seeds" yn ddiweddar. Roedd eu perfformiad mor gyfoes a ffres ac yn cynnig syniadau newydd ar gyfer cyflwyno hanesion Beiblaidd heddiw. A oes gennych hoff emyn? Molwn Di O! Arglwydd rhif 720 yn y Llawlyfr Moliant Newydd ar y dôn Lilian fy hoff linell yw: "Tyr ar draeth ein heisiau, fôr dy ryfedd gariad" Pa adnod/au sy'n bwysig i chi? "Fel y dymunwch i ddynion wneud i chwi, gwnewch chwithau yr unfath iddynt hwy. (Luc6:31). "Y mae gennyffiffydd, helpa dify niffygffydd" (Marc 9: 24). Beth fuasech yn dymuno gweld Cristnogion ac eglwysi'n gwneud mwy ohono? Bod yn llai rhagfarnllyd yn erbyn ei gilydd. Beth yw eich gweddi ar gyfer y dyfodol? Y bydd pobl yn gweld gwerth yn y "Frawdoliaeth" y canodd Waldo amdani: "Cymod a chyflawn wê Myfi,Tydi,Efe." Pa her a fyddai gennych i Gristnogion ifainc yng Nghymru heddiw? "Profwch bob peth a glynwch wrth yr hyn sydd dda." lThes 5:21. Pryd y gwnaethoch benderfynu dilyn gyrfa fel Gweinidog? Ni fedraf ddweud yn union pryd, ond roedd rhyw awydd yn tyfu dros gyfnod pan oeddwn yn fy arddegau. Beth yw'r ffordd ymlaen i'r eglwys heddiw? Ymateb yn greadigol i anghenion ysbrydol y Gymru gyfoes; dyna gyfrifoldeb yr eglwys ym mhob cyfnod. 'YSGOLORIAETH GOFFA SAUNDERS LEWIS' Y mae Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa Saunders Lewis yn gwahodd ceisiadau gan bobl ifainc o dan 35 mlwydd oed am Ysgoloriaeth Goffa i'w galluogi i dreulio peth amser ar gyfandir Ewrop yn astudio un o bedwar maes: Ar gyfer yr ysgoloriaeth hon cynigir cyfanswm o £ 10,000 dros ddwy flynedd. Gellir cael manylion pellach oddi wrth Ysgrifennydd Pwyllgor Rheoli'r Gronfa, sef Ann Ffrancon, Llain Wen, Blaenplwyf, Aberystwyth, a dylai pob cais fod yn llaw'r Ysgrifennydd cynlonawr31, 1999. ( Mae ceisio gwneud hynny tra'n cynnal gormod o adeiladau, yn ogystal ag uno mwy a mwy o gapeli dan ofal un gweinidog yn rhwystr mawr; ac mae'n bosib mai nid trwy'r capeli y cyrhaeddir y nod, ond yn hytrach er eu gwaethaf. drama a/neu ffiltn systemau gwleidyddol cysylltiadau llenyddol y celfyddydau cain Ceredigion, SY23 4QJ,