Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BAtìAI) COFAION y BVCAtt Wrth ateb y ffôn yn ddiweddar dyma glywed llais benywaidd, braidd yn betruagar yn holi am y gweinidog. Wedi iddi hi ddeall mai'r gweinidog oedd yn siarad, dyma egluro ei neges. "Tua 4 blynedd yn ôl fe gladdoch chi mam, dwn i ddim os ydych chi'n cofio." Wedi eglurhâd pellach fe gofiais yr achlysur. Doedd yr un o'r teulu yn aelodau yn y capel, ond rwy'n cofio ymweld â'r aelwyd i drefnu'r angladd, a chyfarfod â'r merched, pedair ohonynt, ac yn amlwg yn deulu agos iawn. Deall fod y fam yn siarad Cymraeg ac wedi bod yn gapelwraig selog yn ei hen ardal, ond ar ôl symud, priodi a magu teulu, fel llawer un arall, heb ymaelodi yn unman. Y merched wedi cael peth Cymraeg yn eu magwraeth, ond hwythau bellach wedi priodi a magu teuluoedd eu hunain, ac wedi colli'r ychydig o'r iaith oedd ganddynt. Dyma'r llais ar y ffôn yn mynd yn ei flaen, "Rwy'n ofni na wnes i ddim eich talu chi am yr angladd, ac mae'r peth wedi bod yn pwyso ar fy meddwl. Fyddai'n iawn i mi ddod i'r capel nos Sul, er mwyn setlo gyda chi." Diolchais iddi am ei chonsyrn, gan ei sicrhau nad oedd angen iddi hi ofidio. Byddai'r ymgymerwyr wedi fy nhalu, a'r tâl yna wedyn yn cael mynd ar y bil i'r teulu, ond hyd yn oed pe na bai hynny wedi digwydd, roedd pedair blynedd wedi mynd heibio ers yr angladd a dylai anghofio popeth amdano. Na roedd hi'n bendant fod yn rhaid gwneud pethau yn iawn. "Fe fydd bil yr ymgymerwr yn nodi a gesifynhalu/'meddwni. Fe addawodd edrych. Roeddwn yn synhwyro fod yna rhywbeth arall ar ei meddwl, ac ymhen ychydig dywedodd, "Fe hoffwn i ddod i'ch capel chi beth bynnag, byddai'n iawn i mi ddod dydd Sul nesaf?" "Wrth gwrs," meddwn i, a dyna fynd ati i sôn am amserau a natur gwahanol yr oedfaon, gan ei sicrhau y byddai'r gynulleidfa yn falch iawn i'w gweld hi. Daeth y sgwrs i ben gydag addewid pendant y byddai'n dod. Roedd hynny fis yn ôl a dydi hi heb ddod eto, a dim enw, cyfeiriad na rhif ffôn i geisio dod o hyd iddi hi. Fe fyddai'n rhwydd wfftio'r holl beth. Roedd y wraig fach yn teimlo'n euog ac fe ddywedodd rhywbeth ar y pryd oedd yn gwneud iddi hi deimlo'n well, ac yn plesio'r gweinidog bach neis oedd wedi claddu ei mam. Rwy'n gwbl argyhoeddedig fy hunan ei bod hi'n chwilio am esgus i ddod i'r capel. Rhywbeth i roi rheswm iddi ddod oedd y tâl, a phe byddwn i wedi bod yn effro i'r sefyllfa, dylaswn fod wedi dweud wrthi am ddod a'i thâl, gan feddwl am reswm dros ei wrthod wedi ei chael hi yno. Rwy'n cofio ffrind i mi yn dweud nad oedd erioed wedi sylweddoli gymaint o rwystr yw hi i lawer o bobl i groesi'r trothwy i fewn i'r capel, nes iddo sgwrsio â mam ifanc oedd wedi dod i oedfa lle'r oedd ei mab yn cymryd rhan. "Dydw i ddim wedi bod mewn capel ers ugain mlynedd a does gyda chi ddim syniad faint o ymdrech gymerodd hi i mi ddod yma heddiw." Sawl gwaith glywsom y peth yn cael ei ddweud, "Mae drws y capel yn agored i bawb, dydi ni ddim yn rhwystro unrhywun rhag dod." Nid ydym falle, ond a ydym yn gwerthfawrogi gymaint o bethau eraill sy'n gallu rhwystro pobl ac efallai fod llawer un yn chwilio am reswm i ddod? Faint o ymdrech a wnawn i roi cyfle i bobl i ddod, i gymell a gwahodd ymhlith ein ffrindiau a'n cydnabod? Faint o ymdrech a wnawn ni i sicrhau pobl nad oes angen gofidio ynglýn â dod, ond mai cymdeithas gynhwysol a chroesawgar sy'n eu disgwyl. Yn gynharach eleni, roeddwn mewn priodas, a dyma sgwrsio gyda gwr oedd yn byw rhai strydoedd i ffwrdd, yr oeddwn wedi ei weld yn achlysurol dros y blynyddoedd. Sylweddolais am y tro cyntaf ei fod yn medru'r Gymraeg a bod ganddo gefndir capel. Meddai, "Rwyf wedi meddwl dod atoch rhyw ddydd Sul." "Dewch," meddwn i, "fe fyddwn yn falch iawn o'ch gweld." Diolchodd gan ychwanegu, "Rwy'n nabod sawl un o'r aelodau, ond does yr un ohonyn nhw wedi sôn wrtha'i am ddod." Onid yw hynny'n gondemniad mawr arnom? Fe gymerodd amser iddo fentro ac yn anffodus roeddwn i ffwrdd ar y Sul y daeth. Rwy'n falch i ddweud iddo gael croeso ac y mae wedi addo dod eto. Gobeithio y byddwn yn manteisio ar bob cyfle i'w gymell. A does ond gobeithio y bydd y wraig ar y ffôn yn gallu goresgyn ei hofnau un dydd Sul, a'n bod ninnau, yn mynd i allu ymateb yn deilwng, pe bai hynny'n digwydd.