Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn eglwys ddwyieithog. Mae'n hen bryd i ni orchfygu hen ofnau a rhagfarnau i gofleidio ein gilydd fel pobl Dduw. Eisioes mae llawer o esiamplau o gapeli Wesleaidd lle mae Cymru Cymreig a Seisnig yn cydfyw yn hapus iawn er budd ei gilydd, gydag ysgolion Sul newydd yn codi a chymdeithasau eraill yn codi trwy gyfrwng y ddwy iaith. I hyrwyddo hyn yr ydym wedi sefydlu Cymanfa newydd gyda chynrychiolaeth o bob cylchdaith o eglwysi trwy Gymru, er mwyn i ni allu llefaru ag un llais ar gynlluniau uno'r enwadau, ac ar bynciau gwleidyddol a chymdeithasol sydd yn gofyn am arweiniad. Gwelir yn y llun gyferbyn swyddogion y cyfarfod cyntaf o'r Gymanfa hon yn Llandudno mis Mawrth diwethaf. Fe wahoddir prif swyddogion ein Cyfundeb yn Llundain atom i rannu yn ein gweithgareddau, ond ni sydd gyda'r rhyddid i benderfynupa ffordd 'rydym nin mynd. Un o'r penderfyniadau hynny oedd cefnogi sefydlu'r esgob ecwmenaidd i fod yn arolygwr ar yr eglwysi ecwmenaidd hynny sydd wedi eu sefydlu eisioes yn nwyrain Caerdydd. Os llwydda'r fenter yna byddwn wedi datrys y rhwystr mwyaf rhwng yr eglwysi anghydffurfiol a'r eglwys esgobol oddi mewn i'r Cyfamod (Enfys) sef derbyn dilysrwydd gweinidogaeth ein gilydd. Penderfyniad arall oedd lansio llyfr gwasanaeth dwyieithog ar gyfer y mileniwm. Ein profiad yw fod y rhan fwyaf o'r gwasanaethau angladd, priodas a bedydd pryd y gwahoddwn y gymuned i mewn i'n heglwysi, bellach yn gorfod bod yn ddwyieithog. Gymaint mwy hwylus fyddai defnyddio llyfr wedi ei baratoi ar gyfer achlysuron fel hyn, llyfr fydd hefyd yn fodd i wahodd ffrindiau nad ydynt yn dilyn ein hiaith i rannu yn ein haddoliad gyda ni. Penderfyniad arall oedd cefnogi'r trafodaethau at undeb rhyngom fel enwad a'r Eglwys yng Nghymru, yn gyfochrog â'r rhai sydd yn cymryd lle yn Lloegr. Mae'r Eglwys Ddiwygiedig Unedig wedi dod yn sylwebydd hefyd. Ar ben hyn 'rydym yn rhan o'r trafodaethau at greu eglwys unedig rydd Gymreig'. Ni allwn droi ein cefnau ar unrhyw gynllun at uno a gweld os ydio o Dduw. Eisoes mae llawer o'n heglwysi Cymraeg mewn partneriaeth â'i gilydd, unai mewn cynllun Gweinidogaeth Bro, neu yn rhannu gweinidogion i ofalu am eglwysi ei gilydd. Y fenter nesaf sydd ar y gweill yw cynllun i hyfforddi gweinidogion, gweithwyr lleyg, athrawon Ysgol Sul ac arweinwyr ieuenctid, trwy ddefnyddio ar y cyd yr holl adnoddau diwinyddol sydd gennym fel enwadau yma yng Nghymru. Cyfnod cyffrous sydd o'n blaenau, ac mae gan Wesleaeth ei rhan bwysig yn y gwaith hwnnw. Yr angen mwyaf yw achub y cyfle i gyflwyno'r efengyl yn y ffordd fwyaf effeithiol sy'n bosibl. I wneud hynny mae'n ofynnol i ni gydweithio â'n gilydd ar draws yr holl sbectrwm Cristnogol. Fel y dywedodd John Wesley yn ei bregeth ar yr ysbryd Catholig: "'Os yw dy galon fel fy nghalon i", os wyt yn caru Duw a holl ddynolryw, ni fynnaf ddim mwy: "dyro i mi dy law' Ynyllun a dynnwyd yng nghanolfan Pabyddol Loretto, yn Lìandudno, odîmgweinyddoìyGymanfa GymreigorEglwys Fethodistaidd yng Nghymru arFawrth 22ain 1998 Y mae (or chwithirdde): Dr. TelfrynPritchard,ParchedigWillMorrey, YChwaerEluned WilliamsM.B.E., Parchedig Donald Ryan, Parchedig Pamela Cram, ParchedigMartin Evans-Jones, Englynion Coffa am John Ashton Edwards A dreuliodd flynyddoedd maith mewn cadair olwyn. Bu'n gadeirydd pwyllgor Anabledd Cymru a chafodd yr O.B.E. am ei wasanaeth gwirfoddol i'r anabl yng Nghymru. Hwn dreuliodd mewn cadair olwyn ei oes, A'i goesau mewn cadwyn, Yn wych ac yn ddi-achwyn Byw i'r Gwir heb air o gwyn. Dewraf un, penderfynol a heriodd Yr oerwynt difaol Yn ei gur rhoi'n ddyngarol Rhoi nes bod dim ar ôl. Rhoi o ffynnon ei ddoniau, rhoi ei hun, A rhannu ei orau Â'i frawd a'r ddynoliaeth frau A'u helyntion fel yntau. Rhoed iddo anrhydeddau am hawlio I'r miloedd dan groesau Annibyniaeth dan boenau Agor hewl a thrugarhau. Iesu oedd ei Dywysydd, a'r Iesu A'i ras, ei ysgogydd, Mewn nef mae'r dioddefydd- Mae yno yn rhodio'n rhydd! J Pinionjones