Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae'n glir felly mai dysgu oddi wrth ymdrechion sydd eisoes yn digwydd sydd yma, gyda'r bwriad o ddefnyddio y profiad fel sbardun ac anogaeth. Y mae i'r prosiect Cyd-Gysylltydd, Dr.Ronald Ram, a phenodir Arsyllwyr i ymweld â'r eglwysi i'w cynorthwyo i asesu eu datblygiadau. Mae casglu gwybodaeth fel cam cyntaf o'r broses wedi'i gwblhau a'r ail gam o sefydlu a phrofi egwyddorion ym mywyd eglwysi dewisedig ar droed. Nid dyma'r fan i fanylu ar ganlyniadau cam 1 ond fe fydd rheini'n ddadlennol e.e., sut mae eglwys yn ffurfio dolen gyswllt â'r gymdeithas ehangach ac yn defnyddio ei hadnoddau mewn cenhadaeth a chysylltu ffydd a bywyd cyfoes. Bydd y trydydd cam yn dilyn mewn 2 neu 3 blynedd pryd y cymhwysir yr holl wybodaeth at ddefnydd eglwysi yn gyffredinol. Eisoes y mae rhai storïau yn dod i'r golwg. Yr oedd eglwys Seion, Bedyddwyr, yng Nghaergrawnt er enghraifft ar fin cau a'r aelodau ar werthu eu hadeilad wedi 17 0 flynyddoedd o ddirywiad. Daeth rhai o'r ardal at ei gilydd gan gynnwys gweithiwr Telecom di-waith, myfyriwr diwinyddol, myfyriwr o Brifysgol Caergrawnt yn chwilio am lwybr ei ddyfodol a gweinidog ac y maent bellach yn datblygu cenhadaeth gyffrous newydd o fewn y gymuned gan gynnwys gwaith gyda'r digartref. Daw hanesyn arall diddorol am rannu gwerthoedd o gymuned Forthspring ym Melfast lle mae grwpiau Catholig, Protestannaidd a secwlar yn cydweithio er mwyn rhannu'n ymarferol eu gwerthoedd cyffredin. Dywedodd un fam ifanc "ymae gwaith gyda phlant ar draws ffiniau cymunedol yn hoD bwysig yn eingwladni' BUILDING MISSIONARY CONGREGATIONS Yng ngoleuni'r broses "Codi Pontydd Gobaith" cynulleidfa genhadol yw: "Eglwys sy a'i bywyd yn troio gwmpas eihymrwymiadiym wneudâ chenhadaeth Duwyn ei fyd, trwy Iesu Grist, yngngrymyr Ysbryd Glân". Robert Warren wna'r datganiad hwn ac y mae yntau'n amlinellu'r angen cyfoes am ffurfiau gwahanol o fywyd eglwys yn ei lyfr "Building Missionary Congregations", ein trydydd proses. Mae'r is-deitl yn arwyddocaol "towards a post modern way ofbeing church". Swyddog Efengylu Eglwys Loegr yw'r Canon Robert Warren ac y mae ei gyfraniad i'w weld ar gefndir y Ddegawd Efengylu a lansiwyd yng Nghynhadledd Lambeth 1988 gyda'r alwad i "symud at bwyslais cenhadol grymus gan fyndy tuhwnti ofala meithrin atgyhoeddia gwasanaethu". Dadleua fod yr eglwys wedi ei strwythuro'n rhy glerigol, yn bodoli mwy fel trefniadaeth na chymuned, a'i ffocws mwy ar fywyd eglwysig yn hytrach na phynciau bywyd ein dydd ac felly'n creu meddylfryd aelodaeth, megis clwb gyda phresenoldeb, talu a gweithgarwch cynnala chadw". Newid oddi wrth fodel "fugeiliol" o eglwys at fodel "cenhadol', yw ei bwyslais: Yr hyn sy wrth galon y "gymdeithas newydd" yng Nghrist yw ei hysbrydoledd. Ac ysbrydoledd yw ein deall a'n profiad o'r modd y canfyddwn Dduw a'r modd y cynhelir y canfyddiad hwnnw. Er nad yw "Building Missionary Congregations" fawr mwy na llyfryn, dywed llawer am natur a nodweddion eglwys genhadol a phwysleisia themâu Beiblaidd grymus sy'n ein sbarduno i gyfeiriad y newid sylfaenol at genhadaeth e.e. y Drindod (bywyd y Duw byw), eneiniad yr ysbryd (ein gwneud yn Grist-debyg), yr ymgnawdoliad (byw y deyrnas). Gellir gweld cynnwys y llyfryn hwn, sy'n gyfeirbost perthnasol a chyffrous i'r eglwys fodern, fel rhoi sylwedd neu sylfaen i'r cynllunio a amlinellir yn Groundswell a Phontydd Gobaith. Yr hyn sy'n ddiddorol yw'r cydgyfarfod sy rhwng ffrydiau sy'n tarddu o wreiddiau gwahanol, yn arbennig yr 'efengylaidd' a'r 'ecwmenaidd'. Y mae'r rhai sy'n ymwneud â'r 3 proses mewn cyswllt â'i gilydd ac y mae rhannu gwybodaeth a phosibiliadau yn digwydd. Onid arwydd yw hyn fod y Duw byw yn dal ar waith yn ein plith yn pwyntio y tu hwnt i labeli traddodiadol i ganfod undod mewn consyrn am fyw bywyd y Deyrnas mewn tystiolaeth weladwy a rhannu ffydd effeithiol mewn oes a byd sy'n chwilio am obaith yn wyneb grymoedd sy'n bygwth a thanseilio. Bwriedir i'r erthfyl hon annog cynulleidfaoedd lleol Cymru i edrych arnynt eu hunain yng ngoleuni bwriadau Duw yng Nghrist. Daw rhai pwyntiau sylfaenol i'r amlwg wrth ystyried y prosesau hyn: ·:· Beth am yr awydd neu'r ysgogiad? Does dim yn bosibl heb awydd a brwdfrydedd ymhlith pobl Dduw. Ceir yr argraff yn gyson nad oes gweledigaeth ehangach na chadw'r "drws ar agor tra byddwn nf', heb ofyn y cwestiwn beth yw bod yn ffyddlon i'r Arglwydd heddiw yn y lle hwn? O gofio mai'n hysgogydd yn y gwaith yw'r Ysbryd Glan mae'r pwysigrwydd o addoliad dynamig a gwefreiddiol a lIe cyson i weddi yn ein sefyllfa gyfoes yn gwbl sylfaenol. ·:· Y mae patrymau bywyd eglwysig ddoe yn mynd heibio a'r her yw bod yn eglwys heddiw, h.y. bod yn gymuned sy'n byw y Deyrnas, yn barhad o fywyd Iesu Grist ac yn ymgorfforiad o'r efengyl o fewn ein hardaloedd. Hon yw'r gymuned wahanol y mae ansawdd ei bywyd, ei blaenoriaethau a'i gwerthoedd yn amlygiad o Deyrnas Crist, yn broffwydol ei naws ·:· A dyfynnu Datganiad Cenhadol yr Hen Gorff: "Bydd pob cynulleidfa yn gymdeithas wirioneddol o ddisgyblion Iesu Grist yn gofalu, caru ac yn derbyn pobl, wedi ymroddi i adnewyddu a dyrchafu addoli Duw a throsglwyddo Newyddion Da Iesu Grist i'r genhedlaeth hon a'r nesaf". Bydd ffurfio cynulleidfaoedd cenhadol yn golygu croesi ffiniau enwadol. Nid hybu enwad a chapel/eglwys ond hyrwyddo Teyrnasiad y Duw byw yw'r nod. Tybed felly ai ffurfio "Eglwys Rydd Unedig" yw'r flaenoriaeth bwysicaf heddiw? Efallai mai'r prif flaenoriaeth yw annog a galluogi cynulleidfaoedd lleol i ddarganfod ei gilydd yn bartneriaid yng nghenhadaeth Duw yng Nghrist gan wybod y bydd ffurf a threfniadaeth newydd yn codi o brofiad ac anghenion y gwaith cenhadol ac nid drwy geisio gweu traddodiadau ac arferion y gorffennol a'i gilydd. Ceir rhagor o fanylion am yr uchod: Groundswell -Evangelical Alliance, 186 Kennington Park Road, London Codi Pontydd Gobaith CCOM, Interchurch House, Lower Marsh, London Building Missionary Congregations Church House, Westminster, London