Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Effeithlonrwydd Ynni Pwnc Dadl? Tanwydd ffosil, sbil olew, mwgwl, newid hinsawdd, twymo byd-eang. Orimulsion, diffyg anadl, pwer niwclar, cynhyrch arfau, gwastraff peryglus, ffermydd gwynt, lleihau adnoddau, codiad lefel y môr, pileri trydan, rhyfelion tanwydd. Dyma ran fach o'r pynciau dadleuol, sydd o amgylch y drafodaeth ynni sydd wedi bod yn y wasg dros y blynyddoedd diwethaf. Gweler fod y gwrthwynebwyr a'r cefnogwyr yn dal i ddadlau ac anghytuno am y ffordd y dylai technoleg fynd gan ystyried creu digon o bwer i ateb yr hyn fyddwn ei eisiau i gyflawni ein defnydd o ynni yn y mileniwm nesaf. Gan amlaf mae ein safbwynt ni yn cael ei ddylanwadu gan gyfanswm y costau yn erbyn yr elw o ddefnyddio gwahanol fathau o dechnoleg. Nid yw ystyried pryderon lleol, cenedlaethol a byd-eang yn un syml, yn enwedig pan mae'r pwnc yn un sy'n creu teimladau cryf ynglyn â iechyd a'r amgylchedd. Mae ble yr ydym yn tynnu'r llinell rhwng costau ac elw yn un sydd yn creu dadlau mawr. Ie, mae pwer niwclear yn gallu bod yn beryglus ac yn ddrud, mae llosgi glo ac olew yn aneffeithiol ac yn llygru yr amgylchedd, yr awyr a'r môr ac yn cyfrannu tuag at dwymo byd-eang, atebion amser byr mae nwy yn eu rhoi. Mae llawer o'r tanwydd y gellir ei adnewyddu yn ddrud ac y mae ffermydd gwynt yn bethau salw ac nid ydynt yn creu llawer o bwer. Pan rydym yn trafod cynhyrchiad trydan mae rhai dywediadau yn dod i'r meddwl fel "mas o olwg, mas o'r meddwl" a "dim yn fy nghlos cefn i" does dim ots taw ynglyn â ffermydd gwynt neu bwer niwclear yr ydym yn siarad "does dim y fath beth â chinio am ddim" neu oes yna? Mae bron pawb yn y ddadl ynni yn cytuno ar un peth, yr act o gadw ynni. Mae defnyddio ynni yn effeithiol yn lleihau y niwed i'r amgylchedd, yn cadw adnoddau prin ac yn arbed arian i ni gyd a hefyd yn cadw ein safon o fyw. Yn lIe ceisio dyfeisio atebion technegol i'n problemau ynni, dylem geisio defnyddio llai o ynni yn y lIe cyntaf. Dyma'r cam cyntaf tuag at gynhaliaeth parhaus. Mae bron y drydedd rhan o'r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio yn y cartref yn cael ei wastraffu. Gallwn leihau y gwastraff yma trwy ynysu ein cartrefi, defnyddio offer effeithiol a thrwy fabwysiadu dulliau o arbed ynni yn ein bywyd dyddiol. Gallwn deimlo'r prif fantais o ddefnyddio ynni yn effeithiol yn y boced. Byddai buddsoddi yn effeithlonrwydd ynni nawr yn talu nôl yn y dyfodol agos a hefyd yn fantais i'r amgylchedd. Mae tua deg gan Christina Stoneman mesur y gallwn ei gymryd am ddim, neu gyda lleiafswm o gost, a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i filiau tanwydd dros amser byr. Mae Canolfan Effeithlonrwydd Ynni Gorllewin Cymru yn elusen gofrestredig sydd yn gweithio mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol fel rhan o'r Consortiwm Effeithlonrwydd Ynni yn y Gymru Wledig. O fewn Canolfan ECO Gorllewin Cymru yn Trefdraeth, roedd Canolfan Effeithlonrwydd Ynni Gorllewin Cymru, yr un gyntaf o'i fath ym Mhrydain ac y mae wedi bod yn cynnig cyngor i gartrefi a busnesau bach yn ddi-dâl trwy holiaduron ynni yn y cartref am y 5 mlynedd diwethaf. Pan mae'r holiadur wedi ei lenwi, mae'r atebion yn cael eu prosesu gan gynllun cyfrifiadur arbennig ac adroddiad personol yn cael ei anfon yn ôl gyda gwybodaeth ar y ffordd orau i arbed ynni. Nid yn unig byddai ymdrech cydunol i wella effeithlonrwydd ynni yn dod â manteision i gartrefi a busnesau ond hefyd ni fyddai gymaint o arian yn mynd allan o'r wlad i gwmnioedd trydan. Mae hyn o werth i unrhyw gymdeithas leol neu sir sydd eisiau lleihau adnoddau sy'n mynd allan o'r ardal. Felly cymerwch fantais yn awr o'r cyngor sydd ar gael o Ganolfan Effeithlonrwydd Ynni Gorllewin Cymru ar 0800 512012. ARCHEBWCH NAWR AM 1999 O DDYDD I DDYDD Awduron 1999 Parchedig Brifathro Eifion Powell Mr Gwyndaf Roberts Parchedig Owain Llyr Evans Parchedig J Pinion Jones Parchedig R W Jones Parchedig Peter Thomas Tanysgrifiad blwyddyn am gopi bob chwarter £ 5.00 Telerau arbennig i eglwysi sy'n archebu chwe copi neu rhagor I danysgrifio neu am fanylion pellach anfoner at: O Ddydd i Ddydd, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth SY23 2JB