Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU GRYM Y GAIR A FFLAM Y FFYDD, Ysgrifau ar Hanes Crefydd yng Nghymru, R. Tudur Jones, Golygydd D. Densil Morgan, Canolfan Uwch- Efrydiau Crefydd yng Nghymru, Prifysgol Cymru, Bangor, Gwasg John Penri, 320tt, 1998. £ 13.95. Y FFYD Ymddangosodd y gyfrol hon ychydig ddyddiau wedi inni glywed am farwolaeth sydyn y cyn-Brifathro R. Tudur Jones. Syfrdanwyd cenedl. Yr oedd yn fwy na dyn coleg ac enwad ac, fel y dengys y gyfrol hon, gyda'i gred yn Sofraniaeth Duw dros bob peth ni allai ymatal rhag cyffwrdd â phob agwedd o fywyd ein gwlad. Cyhoeddwyd eisoes lu o deyrngedau sy'n sôn am gyfoeth ei gynnyrch toreithiog, ac am ei gyfraniad fel hanesydd. Ni allwn lai na disgwyl, felly, fod ei ysgub, neu yn wir ei destament olaf Grym y Gair a Fflam y Ffyddyn rhoi cyfle inni werthfawrogi unwaith eto ei alluoedd arbennig fel ysgolhaig a'i rymuster fel pregethwr proffwydol. Ni chyhoeddodd erioed, ar lafar neu mewn llên, yn glinigol ac yn ddiduedd ond defnyddiodd ei ddisgyblaeth fel hanesydd a diwinydd i ddangos perthnasedd pa bwnc bynnag yr ymaflai ynddo i'n sefyllfa gyfoes. Grym yr erthyglau hyn yw mai awdur a chanddo argyhoeddiadau dyfnion sydd yma, yn mynegi ei farn heb flewyn ar dafod er inni synhwyro, o bryd i'w gilydd, ei fod yn llwyr sylweddoli na fyddai ei ddehongliad a'i safiad yn dderbyniol gan bawb; eto i gyd, rhaid oedd iddo achub ar bob cyfle i ddiogelu'r hyn oedd yn werthfawr yn ei olwg. O ystyried trylwyredd ei wybodaeth o'n traddodiad crefyddol, ni thâl, serch hynny, i neb anwybyddu'r hyn sydd ganddo i'w ddweud. Un o beryglon pennaf ein dyddiau ni yw'n diffyg ymwybyddiaeth o'n cefndir ysbrydol; o ganlyniad 'rydym mewn perygl o LLYFR imi BLWYDDYN DARLLEN GENEDLAETHOL sarnu ein treftadaeth a'i sathru dan draed. Amheuir grym y Gair ac y mae fflam y Ffydd yn llosgi'n isel. O fewn pymtheg o ysgrifau, cawn ddarlun cyflawn o ddyddiau arwrol piwritaniaeth a'r hen ymneilltuaeth gyda'u duwioldeb a'u disgyblaeth eglwysig. Clywir lleisiau John Penri, Walter Cradoc, Vavasor Powell, Morgan Llwyd a'u disgynyddion. Wrth olrhain hanes Hugh Owen, Bronclydwr, cawn ddarlun o biwritaniaeth atyniadol a'i haberth i gynnal y ffydd. Gwêl wawr y diwygiad Methodistaidd fel adferiad yr hen biwritaniaeth ar ôl cyfnod o drai a marweidd-dra. Dyna a wnaeth y 'Twym Ias' i'r 'Sentars Sychion'. Yr oedd y tadau Methodistaidd, felly, mewn olyniaeth euraid ac o ganlyniad i'w llafur profodd Cymru o 1800 i 1850, 'awr anterth efengylyddiaeth'. Wrth ymdrin â bywydau John Jones, Tal-y- sarn, Henry Rees, Gwilym Hiraethog a John Roberts, cyflwynir ni i'r cyfnewidiadau a ddaeth i'r amlwg yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dengys fel y bu i hyn gyfrannu at yr amrywiaeth a'r cyfoeth sydd o fewn ymneilltuaeth yng Nghymru. Y mae gan y penodau diddorol hyn lawer i'w ddweud am bregethu a bugeilio, efengyleiddio ac eciwmeneiddio yng Nghymru heddiw. Mae'r ysgrifau sy'n ymwneud â Chalfiniaeth yn amrhisiadwy. Dangosir maint ein dyled fel cenedl i'r Galfiniaeth honno y mae llawer, erbyn hyn, mor barod i'w dibrisio a'i dilorni. Y mae'r llyfryddiaeth werthfawr, a baratowyd gan Huw Walters, yn rhestru'r nifer sylweddol o erthyglau, adolygiadau a chyfraniadau eraill a gafwyd gan R. Tudur Jones, yn Gymraeg a Saesneg, er 1986 pan gyhoeddwyd rhestr gyflawn o'i weithiau gan Derwyn Jones yn ei gyfrol deyrnged YGaira/r Genedl Y mae'n dyled yn fawr i'r golygydd D. Densil Morgan am gyfrol mor gynhwysfawr. Gresyn bod rhan o'r llyfr yn frith o wallau teipio y dylid bod wedi eu cywiro wrth ddarllen y proflenni. Gwr a ymhyfrydai yn ei dras oedd R.Tudur Jones ac wrth ddarllen ei ysgub olaf a chofio'i gynhaeaf Y mae Cristion yn cefnogi'r Flwyddyn Ddarllen Genedlaethol toreithiog daw geiriau T. Rowland Hughes, wrth iddo yntau sôn am y 'blychau sgwâr afrosgo trwm', yn fyw i'n cof: Ond hwy a'n gwnaeth, o'r blychau hyn y daeth ennaint ein doe a'n hechdoe ni. J.E. Wynne Davies Aberystwyth PORTHMYN MÔN gan Emlyn Richards, Gwasg Pantycelyn, 1998, tt.469, £ 11.95 Roeddwn wedi edrych ymlaen ers amser i gael fy nwylo ar y gyfrol arbennig hon ac yn hyderus hefyd, rhaid cyfaddef, y telid y sylw dyladwy ynddi i faes o astudiaeth hanesyddol a gafodd ei hir esgeuluso. Ni'm siomwyd. Roedd hydynoed yn well na'r disgwyl. Hanes y porthmyn, cynheiliaid y fasnach anifeiliaid a thrwy hynny lawer o'r economi wledig, mewn un cilcyn cryno o'n gwlad gawn ni. Ond nid yw'r canolbwyntio welwn ar Fôn yn eu cyfyngu'n ddaearyddol chwaith, roeddent yn crwydro'n bur helaeth wedi'r cyfan! Y gwir yw fod y gyfrol yn llawer ehangach na'i phennawd mewn mwy nag un ystyr, a gwelwn fod yr awdur yn ymdrin â'i faes fel rhesel gotiau ag arni fachau i hongian amryw o straeon eraill. Wedi'r cyfan, os ydym am werthfawrogi drama'r porthmyn i'w heithaf onid yw'n hanfodol inni hefyd ddeall ei chyd- destun fel rhan o broses economaidd a chymdeithasol llawer mwy? Cawn yn llaw'r porthmyn, felly, allwedd sy'n rhoi golwg newydd a dadlennol inni ar gwrs y datblygiadau syfrdanol welwyd mewn dulliau amaethyddol, bridio a magu stoc, a thrafnidiaeth dros y dair canrif a mwy ddiwethaf. Dyma ffrwyth ymchwil buddiol a gwreiddiol a dehongliad gwerthfawr dros ben.