Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gallwn ryfeddu at ehangder a dyfnder yr ymchwil, yn ymdrin fel y mae, nid yn unig ag amrywiol ffynonellau archifol ond wedi llwyddo yn ogystal i dapio'n uniongyrchol i gof y werin amaethyddol gan gywain cnwd doreithiog o ddefnyddiau a hanesion nas cofnodwyd o'r blaen. Ymchwil gwreiddiol, a hanes ar ffurf hanesion pa well cyfuniad? Cryfder arall y gyfrol yw diddordeb angerddol yr awdur mewn pobol, a daw hynny i'r amlwg nid yn ynig yn natur y defnyddiau a gyflwynir ond yn ei ymdriniaeth ohonynt. Hydynoed wrth ymdrin â defnyddiau prin a gwasgaredig y cyfnodau cynnar, ar ffurf cofnodion o achosion llysoedd yn bennaf, cawn bortreadau byw iawn o amgylchiadau a gweithgareddau'r cymeriadau y tu ôl i'r helbulon. Ond, heb os, mae ar ei orau yn cyflwyno'r defnyddiau a gasglodd oddi ar lafar ac yn amlwg wedi cael budd mawr o'u trafod a'u dehongli gyda'u ceidwaid ac olrhain eu cysylltiadau. Wrth adrodd rhai o'r hanesion hyn gwelwn storïwr a phortreadwr penigamp yn llwyddo i'ch trosglwyddo'n syth i grombil y sefyllfa mae'n ei disgrifio ac i bresenoldeb byw y rhai a bortreadir. Gwnaeth ffafr fawr trwy gasglu a chofnodi straeon o'r fath gan brofi'n bendant y gwerth a'r cyfoeth sydd 'na mewn hanes llafar. Mae dawn yr awdur i bwytho'r holl ddefnyddiau amrywiol ynghyd hefo llinyn aur ei stori yn rhywbeth arall i ryfeddu ato, a hynny mewn iaith rywiog, lefn a graenus, sy'n eich sgubo ymlaen trwy'r tudalennau. Ymunwn mewn gwirionedd â thaith hanesyddol bur gyffrous lle cawn gyd-gerdded â'r porthmyn a'u hanifeiliaid, gan fwrw trem dros y cloddiau ar yr un pryd ar hynt a helynt cefn gwlad a'i thrigolion. Cawn drafodaeth ddifyr ar ddatblygiad amaethyddol Môn a'i thwf yn ffynhonnell bwysig o anifeiliaid stôr y byddai galw mawr amdanynt gan borfäwyr yng nghanolbarth a de Lloegr. Mae'r sylwadau ar arbenigrwydd a datblygiad y brid du ar yr ynys yn ddiddorol dros ben a'r bennod hynod iawn ar "Wartheg Iwerddon" yn gyfraniad newydd a thra gwerthfawr AJBOOfGDAIBAdl i'r astudiaeth o'r fasnach anifeiliaid ryngwladol. Briga doniau'r awdur fel gwehydd i'r wyneb eto yn ei benodau ar borthmyn moch, defaid a cheffylau, lle mae'n llwyddo i gyd-blethu hanes bridio a chynhyrchu stoc ynghyd â lliaws o straeon a manylion am yr unigolion fyddai'n ymwneud â'r fasnach. Bu cyfannu'r cyfan yn dapestri lliwgar yn gamp aruthrol. Yn ei bennod ar "Y Daith i Wlad Bell" tynnir llun byw iawn o antur fawr yr hen borthmyn yn cerdded eu hanifeiliaid i bellafoedd Lloegr, a'r newidiadau ddaeth yn ddiweddarach wrth drosglwyddo "O'r Carnau i'r Cledrau", a lorïau yn ddiweddarach wrth gwrs. Yn sgil dyfodiad y rheilffyrdd y daeth y Mart, ac yn y bennod ar "Ffair, Marchnad ac Ocsiwn" blaswn eto ffrwyth ymchwil gwreiddiol a gwerthfawr am agwedd ryfeddol o bwysig o hanes gafodd, rywsut, ei anwybyddu'n llwyr bron gan haneswyr mwy confensiynol haneswyr y silffoedd a'r cypyrddau. Heb os, dyma gyfrol i'w darllen, a phori ynddi, dro ar ôl tro. Cyfrol Fawr (ymhob ystyr) ac yn gyfraniad hanesyddol a chymdeithasol tra phwysig. Roeddwn wrth fy modd hefo'r gogwydd cryf ynddi tuag at ffynonellau llafar. Dyma gymwynas fawr, oherwydd diflannu wna gwybodaeth o'r fath ymhen amser. Rhodda hyn berchnogaeth bendant o'r gyfrol i bobol Môn, i'r fath raddau nes y gellir dweud mai Môn yw ei mam, ag Emlyn yn dad a bydwraig iddi! Oes 'na wendidau? Wel ddim yn y cyflwyno yn sicr, ond mae'n biti na wnaed rhestr gyflawnach o'r ffynonellau ysgrifenedig a chynnwys mynegai helaethach, oherwydd rwy'n ysu bellach i ddilyn ambell drywydd a godais. Twm Elias, Plas Tan y Bwlch, WALDO: UN FUNUD FACH Y MABINOGION: HUD YR HEN CHWEDLAU CELTAIDD GWYN THOMAS: PASIO HEIBIO PARSEL NADOLIG: DEWIS O BYTIAU DIFYR. Cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, Llanrwst. Pris £ 1.99 y gyfrol. Yn ôl y broliant, bwriad y gyfres Pigion 2000 a gyhoeddir gan Wasg Carreg Gwalch, ac o dan olygyddiaeth Tegwyn Jones, ydi 'rhoi blas ar yr sgrifennu gorau yn Gymraeg' drwy gyhoeddi 'detholion o waith ein prif awduron'. 'Dydi'r bwriad ddim yn un gwreiddiol o bell ffordd. Dyna oedd amcan cyhoeddi Llyfrau Pawb yn y pedwardegau a'r gyfres Llyfrau Deunaw a alwyd felly am mai swllt a chewch oedd y pris gwerthu i fod a gyhoeddwyd ychydig yn ddiweddarach. Mae Waldo: Un Funud Fach yn cynnwys, nid yn unig gerddi clasurol y bardd allan o Dail Pren (1956) a Cerddi Waldo Williams (1992), yr argraffiad cyfyngedig a gyhoeddwyd gan Wasg Gregynog, ond hefyd ganeuon i blant ac ambell gerdd godwyd yn uniongyrchol 0 lawysgrif ac na welodd olau dydd cyn hyn. Yn bersonol. roeddwn i'n fwy na balch o weld, am y tro cyntaf, Càrí o GlodiJ. Barrett, Ysw., gynt o lynges ei Fawrhydi. Fo oedd garddwr-athro Ysgol Botwnnog pan oedd Waldo yn dysgu yno ac fel y ddau Eidalwr o wersyll carcharorion Sarn Meillteyrn a welodd y bardd yn 'gweithio o dano', ac a ysgogodd y gân, fe fûm innau, mewn dyddiau diweddarach, yn codi dysgu garddio o dan yr un warchodaeth ymerodrol! Y Mabinogion: Hud yr hen chwedlau Celtaidd ydi teitl ail gyfrol y gyfres a dyna yw ei chynnwys: pigion, mewn pymtheg pennod, o'r hen chwedlau o'r Canol Oesoedd yn seiliedig ar y Diweddaríada gyhoeddodd Dafydd a Rhiannon Ifans. Mae'r detholiad yn agor gyda'r gyntaf o'r Pedair Cainc, sy'n adrodd hanes priodas Pwyll Pendefig Dyfed a Rhiannon ac yn cloi gyda'r rhamant Arthuraidd GeraintacEnida'u. priodas hwythau. Hwyrach y bydd darllen Pigion o'r chwedlau yn peri i rai ddarllen yn ddyfnach er mwyn dod i wybod am gyfoeth y stori lafar.