Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DUW EIN CYNHALIWR Tra bo'r grwp yn ymdawelu caner yn weddigar yr emyn, 'ODduw ein Tad, Cynhaliwr popeth byw.' (Atodiad 918) Arweinydd: Y mae'r Arglwydd yn ffyddlon yn ei holl eiriau, ag yn drugarog yn ei holl weithredoedd: Pawb: Fe gynnal yr Arglwydd bawb sy'n syrthio, ac y mae'n agos at bawb sy'n galw arno. Arweinydd: Pan oeddwn yn meddwl bod fy nhroed yn llithro a phryderon fy nghalon yn niferus: Pawb: Yr oedd dy ffyddlondeb di, O Arglwydd, yn fy nghynnal. Arweinydd: O Dduw, ti yw fy Nuw, fe'th geisiaf di; y mae fy enaid yn sychedu amdanat a'm cnawd yn dihoeni o'th eisiau: Pawb: Bydd fy enaid yn glynu wrthyt; a bydd dy ddeheulaw yn fy nghynnal. Arweinydd: Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac fe'th gynnal di: Pawb: Ni ad i'r cyfiawn gael ei ysgwyd byth. Caner eto'r pennill cyntaf o'r emyn: 'O Dduw ein Tad Distawrwydd: Cofiwn fod Duw yn agos atom yn awr a bod ei freichiau'n ein cofleidio a'n cynnal Rhown ein hunain yn llwyr yn ei ofal a gorffwys ynddo, fel bod pob straen a phryder yn ein gadael (distawrwydd) Arweinydd: Oddi wrthyt ti, Arglwydd, y daw anadl ein heinioes, ynot ti y mae ein nerth a'n bywyd, ac er dy fwyn di y crewyd ni. Diolchwn i ti am dy ofal drosom, am dy gwmni gyda ni bob dydd, am gynhaliaeth dy law, am gariad dy galon, am llewyrch dy wyneb, ac am dy freichiau agored, i'n croesawu ar ddiwedd ein taith; Pawb: Ynot, Arglwydd, yr ymddiriedwn, dy gariad a ddathlwn, a'th enw a fawrygwn, yn awr a hyd byth. Amen. TE DEUM Deunydd ar gyfer addoliad grwp (boed yn gynulleidfa fechan, yn grwp defosiwn neu'n gyfarfod gweddi) Emyn: 'Enaid gwan, paham yr ofnP. (Llyfr Emynau 73) Darllen: Y drydedd o Ganeuon Gwas yr Arglwydd ym mhroffwydoliaeth yr Ail Eseia yw ein darlleniad. Y Gwas ei hun sy'n llefaru ac y mae'n disgrifio'r Arweinydd: Gweddïwn. Pawb. Arglwydd tosturiol, Arweinydd: Gweddïwn dros deuluoedd, a Pawb. Arglwydd tosturiol, Arweinydd: Gweddïwn dros y rhai sydd Pawb. Arglwydd tosturiol, Arweinydd Arglwydd, diolchwn dy fod yn Pawtr. Arglwydd, tosturiol, modd y mae ei wrthwynebwyr yn ei erlid a'i watwar. Ond y mae'n sicr fod Duw yn ei gymhwyso a'i gynnal ar gyfer ei waith: yn rhoi iddo glust i wrando neges Duw iddo, tafod i ddysgu eraill, a nerth i ymgynnal yn ei ddioddefiadau. Eseia 50: 4-10 Gan wybod fod ein Tad nefol yn cynnal pob un ohonom yn ei gariad, gweddïwn dros y rhai ym mhob rhan o'r byd sy'n dioddef oherwydd rhyfel a therfysg (distawrwydd) cynnal hwy yn dy gariad. thros blant bach sy'n dioddef oherwydd esgeulustod neu gamdriniaeth (distawrwydd) cynnal hwy yn dy gariad. mewn afiechyd, y rhai sy'n bryderus ac yn isel eu hysbryd, yn enwedig rhai y gwyddom ni amdanynt (distawrwydd) cynnal hwy yn dy gariad. agos atom pa beth bynnag a ddaw i'n rhan, ac nad oes dim a all ein gwahanu oddi wrth dy gariad yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. cynnal a chadw ni 011 yng nghadernid dy gariad; yn enw Iesu Grist ein harglwydd. AMEN. E. ap Nefydd Roberts