Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IAITH BREIFAT ANNEALLADWY Y mae'r Golygydd wedi honni erioed ei fod yn wr eang ei brofiad a'i ddarllen crefyddol. Bu'n gysylltiedig â Chyngor Eglwysi'r Byd am rai blynyddoedd a hynny yn ei orfodi i ymgyfarwyddo â diwinyddiaeth a bywyd eglwysi gwahanol iawn i'r rhai a welir ar dir a daear Cymru. Cryn sioc i'w sistem oedd darllen rai misoedd yn ôl gylchgrawn arbennig a gyhoeddir gan yr Eglwys Babyddol a sylweddoli nad oedd yn medru gwneud na rhych na rhawn o nifer o'r erthyglau. Er enghraifft, yr oedd erthygl ar y Sagrafen nad oedd ond drwy ymdrech arbennig iawn yn medru hanner ei deall, ond pan ddaeth at erthygl ar agwedd ar ysbrydoledd sy'n unigryw i'r eglwys Babyddol mae'n rhaid cydnabod ei bod hi fel petai wedi ei hysgrifennu mewn iaith dramor. Mae'n eithaf posibl mai'r Cerddi Cerddi Cerddi Cerddi Cerddi DUW CYFAMOD a Duw'r cyfamod hedd na syfl trwy oesoedd byd, O, cadw'n c'lonnau, sanctaidd Un, yn eiddo llwyr i Ti dy hun. yn llethu'r fron â braw, cofiwn mai trech wyt Ti a'th fod o hyd gerllaw. Dy nerth, er llawer siom a chraith, a'n cynnal ninnau yn dy waith. Yn swn pob chwalu trist a'r drygau sy'n ddi-ri', a thrwom dwg i henfyd gwyw obaith parhaus yr Iesu byw. Tydi, yr uchel Dduw a bery'r un o hyd, Pan fo gelynion lu boed ynom ysol sêl yrUn'fuarGalfari, John Edward Williams Golygyddol eglurhad syml yw nad yw'r Golygydd hanner mor graff a deallus ag yr hoffai gredu, a dyna ddiwedd ar y mater. Mae'n sicr y byddai llawer o ddarllenwyr Cristion yn cytuno â'r farn honno! Ond tybed a yw hi'n bosibl ein bod ni oll yn defnyddio iaith breifat sy'n ddealladwy i'r rhai sydd oddi mewn i'n cylch arbennig ni ond nad yw'n golygu nemawr ddim i rai y tu allan? Wrth reswm mae gan pob mudiad a chymdeithas faterion sy'n berthnasol ac yn ddealladwy i'w deiliaid yn unig. Mae hyn yn wir am rygbi ac am wyddoniaeth. Yn yr un modd ceir rhai elfennau sy'n perthyn i eglwysi arbennig. Ni fyddid yn disgwyl, er enghraifft, i drafodaeth ar bwysigrwydd esgobyddiaeth fod yn gwbl ddealladwy i anghydffurfwyr, nac ymdriniaeth ar le'r Seiat mewn Methodistiaeth olygu cymaint â RHYFEDD AMYNEDD DUW Tybed na flinaist, Arglwydd, Ar bruddaidd gwyn dy blant, A hwythau'n dal i daro Eu hen undonog dant, Fod Satan ar ei orsedd, A Seion yn y pant. A thybed na thristeaist O'u clywed yma'n awr Yn mynnu dannod iti Na ddaeth y llanw mawr, Ac nad oes yn eu hirnos Argoel o doriad gwawr. Rhyfedd dy faith amynedd Yn trugarhau o'th nef Wrth blant rhy ddall i ganfod Olion dy arfaeth gref, Ac yn rhy swrth i glywed Dy fain a distaw lef. Morgan D. Jones hynny i aelod o Eglwys Uniongred. Ond er gwaethaf hyn mae cyfrifoldeb i geisio cyflwyno ein syniadau a'n credoau mewn iaith ac mewn ffordd ddylai fod yn ddealladwy i aelodau o ganghennau eraill o Eglwys Crist. Tybed nad yw llawer o'r drwgdybiaeth rhwng eglwysi â'i gilydd yn codi o gamddeall safbwyntiau ein gilydd a hynny yn ei dro yn tarddu o'r ffaith ein bod yn siarad iaith fewnol sy'n gwbl ddealladwy i ni ond sy'n iaith estron i rai oddi allan i'r traddodiad arbennig ni ? YN BOD I GYFATHREBU Gellid dadlau nad yw hi o dragwyddol bwys a ydym fel enwadau yn deall iaith ein gilydd ai peidio ond y mae methu cyflwyno ein Ffydd oherwydd natur ein iaith yn drychineb. Y mae'r Eglwys yn bod i gyfathrebu. Dyna hanfod ein cenhadaeth. Nid yw ronyn o wahaniaeth i rai mudiadau a yw'r rhai oddi allan yn eu deall o gwbl ond ynfydrwydd fyddai i'r Eglwys fod felly. Gwaith yr Eglwys yw ceisio argyhoeddi pobl o wirionedd yr Efengyl Gristnogol. Fel ag y mae plaid wleidyddol yn dibynnu'n llwyr am ei llwyddiant ar ei gallu i berswadio'r cyhoedd o wirionedd ei neges y mae'r Eglwys hithau yn bod 'i berswadio dynion'. Colli tir y mae'r Eglwys yn ein cymdeithas ac mae lie i amau mai un o'r rhesymau am hynny yw nad yw ein iaith yn ddealladwy i drwch y boblogaeth. Y mae elfen o ddirgelwch yn hanfod yr Efengyl a chyda llygad ffydd yn unig mae ei deall ond mae cyfrifoldeb arnom hefyd i wneud pob ymdrech posibl i egluro ac i esbonio a hynny mewn iaith ddealladwy. Gan fod cymdeithas wedi ymbellhau cymaint oddi wrth donfedd gwirioneddau ysbrydol aeth ein geiriau a'n termau mor ddieithr i drwch y boblogaeth â 'iaith y brain'. Ein tasg gyntaf wrth feddwl am genhadu yw ymorol ein bod yn defnyddio iaith ddealladwy. Onid yw'r Apostol Paul yn dweud bod llefaru'n broffwydol yn rhagori ar lefaru â thafodau ? Os nad yw pobl yn deall, yn ôl yr Apostol, 'malu awyr y byddwch'. Y mae perygl ein bod yn malu llawer o awyr fel eglwysi.